Ydych chi'n 18-30 oed? Cyfle newydd i roi hwb i'ch gyrfa treftadaeth
Heddiw rydym wedi lansio ein rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol newydd i helpu oedolion ifanc i gael eu troed yn y drws treftadaeth.
Ydych chi'n angerddol dros achub adeiladau hanesyddol, diogelu'r amgylchedd naturiol neu warchod traddodiadau diwylliannol? Rydym yn chwilio am 12 o bobl sy'n frwd dros dreftadaeth i gysgodi ein pwyllgorau ar draws y DU a chwarae rhan weithredol wrth benderfynu ble rydym yn buddsoddi ein harian.
Yn ogystal ag ennill profiad ymarferol yn y sector treftadaeth, byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant, yn cael ymweld â phrosiectau treftadaeth ac yn rhwydweithio ag arweinwyr y sector.
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Un o’r pedair egwyddor fuddsoddi allweddol yn ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033, yw cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad. Rydym am sicrhau bod gan bawb gyfleoedd i ddysgu, datblygu sgiliau newydd ac archwilio treftadaeth.
“Un o’r ffyrdd y gallwn wneud hynny yw drwy gynyddu amrywiaeth gweithluoedd ac arweinyddiaeth treftadaeth a darparu cyfleoedd mwy cyfartal i gymryd rhan yn weithredol.
“Mae ein rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol wedi’i dylunio i roi profiad gyrfa gwerthfawr i grŵp o oedolion ifanc sy’n angerddol dros dreftadaeth, gan eu rhoi ar ben ffordd ar eu taith i ddod yn arweinwyr treftadaeth y dyfodol, a chefnogi ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.”
Pwy sy'n gymwys a sut i wneud cais
Mynnwch gip ar becyn recriwtio ein rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol am fanylion llawn, ond os gallwch chi ateb ydw i'r holl gwestiynau hyn, rydych chi'n gymwys i wneud cais:
- Ydych chi'n 18–30 oed?
- Ydych chi'n angerddol dros dreftadaeth eich ardal neu wlad?
- Ydych chi'n meddu ar ychydig neu ddim profiad o gwbl o fyrddau neu bwyllgorau?
- Ydych chi'n deall ac yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiad, yn enwedig yr heriau sy'n wynebu pobl ifanc a grwpiau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol?
- Ydych chi'n gallu ymrwymo i fynychu cyfarfodydd chwarterol, cymryd rhan mewn hyfforddiant a sesiynau cymorth gan gymheiriaid am 18 mis?
Mae ceisiadau ar agor nawr tan 11.59pm ar 10 Rhagfyr 2025. Bydd angen i chi gyflwyno'ch CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam fod gennych ddiddordeb yn y rhaglen a'ch bod yn addas ar gyfer y rhaglen.
Bydd y 12 ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau ym mis Mawrth 2026. Byddwch yn cael eich talu am bob cyfarfod pwyllgor chwarterol y byddwch yn ei fynychu a byddwn hefyd yn talu eich costau teithio a threuliau perthnasol eraill.
Gwnewch wahaniaeth dros dreftadaeth a phobl yn eich cymuned
Dywedodd Eilish: “Rydym yn falch o’n prosesau gwneud penderfyniadau datganoledig gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd lleol ein pwyllgorau Ardal a Gwlad. Bydd Arweinwyr Treftadaeth y Dyfodol newydd yn cyfoethogi'r sgyrsiau hynny gan ddod â lleisiau a safbwyntiau newydd i'r pwyllgorau, ac yn ei thro bydd y rhaglen yn darparu sgiliau i'r bobl ifanc fel y genhedlaeth newydd o arweinwyr treftadaeth.
“Os ydych chi'n chwilfrydig ac yn angerddol dros dreftadaeth ac eisiau cael effaith gadarnhaol tra'n meithrin sgiliau gyrfa a hyder gwerthfawr, byddem wrth ein bodd i glywed gennych chi.”
Darllenwch becyn recriwtio rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol i gael gwybod mwy a gwnewch gais ar-lein erbyn 10 Rhagfyr.