Y babell hanes lleol gyntaf erioed yn yr Eisteddfod

Y babell hanes lleol gyntaf erioed yn yr Eisteddfod

A still of the Welshpool and Llanfair Light Railway
Am y tro cyntaf yn ei 154 mlynedd o hanes, mae’r Eisteddfod eleni yn gyffrous i ddatgelu pabell hanes arloesol.

Mae'r ŵyl genedlaethol yn enwog am ei phafiliynau celf, llenyddiaeth, cerddoriaeth, dawns, pensaernïaeth, chwaraeon a gwyddoniaeth, ond does yna erioed ardal hanes arbennig wedi bod ar gael i fynychwyr yr ŵyl o’r blaen. Ond mae hynny'n mynd i newid yn yr Eisteddfod eleni yn Sir Drefaldwyn, diolch i’n cyllid ni.

Ar ddydd Sadwrn 1 Awst, bydd grŵp hanes Clwb Powysland (cymdeithas hanesyddol ar gyfer Sir Drefaldwyn, a sefydlwyd ym 1867) yn datgelu 'Y Lle Hanes' newydd sbon ar y Maes.

Ar ôl gweithio gydag mwy na 28 o grwpiau (pump ohonynt yn sefydliadau cenedlaethol, a'r gweddill yn grwpiau a chymdeithasau hanes lleol) a hyd at 200 o wirfoddolwyr trwy gydol y flwyddyn, bydd y babell yn cyflwyno tirwedd hanesyddol a diwylliannol Maldwyn fel ei thema. Bydd yn cynnwys straeon treftadaeth unigol o'r sir, gan gynnwys arddangosfeydd ymchwil a chydweithredol, deunyddiau sain-a-gweledol a stondin lyfrau sy'n gysylltiedig â hanes lleol.

Mae ymwelwyr â'r Eisteddfod yn cael eu hannog nid yn unig i fynd i mewn i'r pabell, ond hefyd i rannu eu straeon hanes lleol a'u hatgofion am yr ardal gyda’r trefnwyr.

Gobeithir y bydd Pafiliwn ‘Y Lle Hanes’ hwn yn sylfaen ar gyfer Eisteddfodau yn y dyfodol a'i fod yn dod yn nodwedd rheolaidd mewn gŵyliau sydd i ddod, gan ffocysu ar hanes lleol gwahanol siroedd wrth i'r ddigwyddiad symud o gwmpas Cymru o flwyddyn i flwyddyn.

Mae Clwb Powysland hefyd yn gobeithio y bydd y pafiliwn newydd yn helpu i greu diddordeb ehangach ym mhwysigrwydd y Gymraeg yn hanes Cymru, yn ogystal â chreu adnodd diddorol a werthfawr ar gyfer y dyfodol. Bydd llawer o'r deunydd a gynhelir yn cael ei uwchlwytho i wefan Casgliad y Werin Cymru yn ogystal â chopïau’n cael eu rhoi i Archifau Powys, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac i’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Gall ymwelwyr â'r Eisteddfod ddod i ymweld â phafiliwn Y Lle Hanes o ganol dydd ar Sadwrn 1 Awst tan y diwrnod olaf o'r gŵyl ar Sadwrn 8 Awst. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr Eisteddfod, ewch i'r wefan swyddogol.