Prif Weithredwraig y Gronfa Treftadaeth, Ros Kerslake CBE i adael ddiwedd 2021

Prif Weithredwraig y Gronfa Treftadaeth, Ros Kerslake CBE i adael ddiwedd 2021

Ros Kerslake
Mae Ros Kerslake CBE wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei rôl fel Prif Weithredwraig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ddiwedd 2021.

Yn ystod ei phum mlynedd gyda'r Gronfa Treftadaeth mae Ros wedi arwain nifer o raglenni trawsnewid mawr, gan gynnwys Fframwaith Ariannu Strategol newydd, strwythur a brand sefydliadol a llywodraethu, yn ogystal â gwaith ar werthoedd a diwylliant.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf rwyf wedi bod mor falch o fod wedi bod yn rhan o'r holl gyflawniadau anhygoel rydym wedi'u gwneud o ran cefnogi ein treftadaeth a'n cymunedau.

Ros Kerslake, Prif Weithredwraig y Gronfa Treftadaeth

Mae wedi arwain ein hymateb i'r pandemig, gan gynnwys £50 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi treftadaeth, a lansiwyd o fewn wythnosau i ddechrau'r argyfwng. Yna arweiniodd y Gronfa Treftadaeth wrth symud yn gyflym i ddosbarthu cyllid brys ar ran dwy adran o'r Llywodraeth am y tro cyntaf yn ei hanes. Cafodd ei chyfraniad i dreftadaeth ei gydnabod gyda gwobr CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines y llynedd.

Ros Kerslake on a visit to Alexandra Palace in 2019
Ros Kerslake ar ymweliad ag Alexandra Palace yn 2019

Dywed Ros: "Pan ddeuthum yn Brif Weithredwraig dywedwyd wrthyf mai dyma'r swydd orau ym maes treftadaeth ac mae hynny'n bendant yn wir. Credaf mewn nerth treftadaeth i newid bywydau pobl, ac yn ystod y pum mlynedd diwethaf rwyf wedi bod mor falch o fod wedi bod yn rhan o'r holl gyflawniadau anhygoel yr ydym wedi'u gwneud o ran cefnogi ein treftadaeth a'n cymunedau.

"Rwy'n gadael gyda chalon drom , ond rwy'n teimlo, ar ôl cyflawni'r strategaeth a nodais pan ymunais, mai dyma'r adeg iawn i rywun arall i arwain y Gronfa Treftadaeth ymlaen i'r cam nesaf. Rwyf wedi pendroni  ers peth amser, ar ôl i'n Cadeirydd newydd gael ei benodi a setlo i mewn i'w rôl, ei bod yn amser da i symud ymlaen. Rwy'n gwybod fy mod yn gadael y Gronfa Treftadaeth mewn cyflwr gwych o dan arweinyddiaeth Simon, ac y bydd yn mynd o nerth i nerth."

Bydd Ros yn parhau yn ei rôl fel Prif Weithredwr tan ddiwedd eleni ac mae'n "fusnes fel arfer" tan hynny. Mae'n awyddus i gael mwy o amser i ddatblygu diddordebau a chynlluniau eraill i ddatblygu portffolio gyrfa. Bydd Prif Weithredwr newydd yn cael ei recriwtio cyn bo hir.

Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pob un ohonom wrth ddweud bod Ros wedi bod yn Brif Weithredwraig ysbrydoledig ac arloesol.

Dr Simon Thurley, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Dywedodd Dr Simon Thurley, a ymunodd â'r Gronfa Treftadaeth yn gynharach eleni fel Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr: "Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pob un ohonom wrth ddweud bod Ros wedi bod yn Brif Weithredwraig ysbrydoledig ac arloesol, byth yn fwy felly nag yn y ffordd yr arweiniodd ymateb y Gronfa Treftadaeth i'r argyfwng y llynedd. Mae'r hyn y mae wedi'i gyflawni, yn enwedig wrth droi'r sefydliad i ddarparu cyllid brys i'r sector, wedi bod yn rhagorol ac mae llawer ar draws y diwydiant sy'n hynod ddiolchgar iddi."

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...