Hwb i dreftadaeth naturiol Cymru o £4 miliwn gan y Loteri Genedlaethol

Hwb i dreftadaeth naturiol Cymru o £4 miliwn gan y Loteri Genedlaethol

Ynys Cybi Holy Island
Bydd pum prosiect i ddiogelu natur a thirweddau Cymru yn derbyn dros £4m o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae’r grantiau’n rhan o hwb ariannol o £10m sydd wedi’i rannu rhwng wyth prosiect.

Gwarchod tirweddau eiconig

Mae Cymru yn adnabyddus am ei thirweddau garw, a chaiff hyn ei amlygu yn ynys greigiog  Cybi oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, ac ardal ucheldirol mawreddog y Carneddau yng ngogledd Eryri. Diolch i grant gan y Loteri Genedlaethol o £2.8 miliwn, bydd y ddau dirlun yn elwa ar gadwraeth helaeth a gwell amddiffyniad o'u bywyd gwyllt a'u nodweddion hanesyddol pwysig, gan gynnwys olion anheddiad hynafol, adeiladau, waliau cerrig sych, coetiroedd brodorol a mawn.

Bydd y prosiectau'n cynnig cyfres o weithgareddau addysg gymunedol i bobl leol, yn amrywio o ddosbarthiadau awyr agored a phrosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion i gofnodi enwau lleoedd ac atgofion pobl o fyw a gweithio yn yr ardal. Bydd ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd hefyd yn elwa ar lwybrau troed a llwybrau cerdded gwell, gan sicrhau bod y tirweddau hardd hyn yn cael eu diogelu'n bwrpasol ond ar gael i’w mwynhau am flynyddoedd i ddod.

Meithrin bywyd gwyllt Cymru

Rhywogaethau prin a rhywogaethau sydd mewn perygl yw ffocws tri phrosiect, sydd wedi derbyn grantiau gan y Loteri Genedlaethol sydd ar y cyd yn werth £1.2 miliwn. Bydd ymlusgiaid ac amffibiaid – o fadfallod a llyffantod i nadroedd glaswellt a gwiberod – yn ogystal â gwiwerod coch yn cael help llaw i oroesi a ffynnu, gyda’r cyhoedd yn cael cyfle i gymryd rhan a dysgu mwy am warchod y rhywogaethau pwysig hyn.

Ospreys sanctury

Bydd canolfan bywyd gwyllt newydd hefyd yn cael ei chreu yng nghwarchodfa natur Cors Dyfi yng nghanolbarth Cymru, gan wella profiad cyffredinol ymwelwyr sy’n awchu i weld y gweilch sy’n ymweld â’r safle poblogaidd a rhyfeddu at yr adar ysglyfaethus hyn wrth iddynt  nythu a magu eu cywion ifanc.

Dyma restr lawn o’r wyth prosiect llwyddiannus yng Nghymru:

  1. Archif Ddarlledu Cenedlaethol i Gymru (£4,751,000 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru)
  2. Partneriaeth Tirwedd y Carneddau (£1,719,500 i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)
  3. Ynys Cybi: Cynllun Partneriaeth Tirwedd Ynys i’w Thrysori (£1,146,000 i Gyngor Sir Ynys Môn)
  4. Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg (£774,900 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)
  5. Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi (£525,500 i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn)
  6. Cysylltu’r Dreigiau: adfer poblogaethau a chynefinoedd ymlusgiaid ac amffibiaid yn Ne Cymru (£428,700 i’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid)
  7. Cochion Iach (£247,100 i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru)
  8. Prosiect Tŵr a Chlychau Nanhyfer (£123,600 i Eglwys Nanhyfer)

 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...