Fideo newydd i'ch helpu i wneud cais am ariannu rhwng £10,000 a £250,000 ar gyfer prosiect treftadaeth
Oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect treftadaeth ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Nod y fideo hwn yw eich helpu i ddeall y gofynion ar gyfer ein grantiau ac i gyflwyno cais o ansawdd da.
Gwyliwch i wella'ch dealltwriaeth o'r adnoddau sydd gennym i'ch cefnogi, clywed enghreifftiau o sut i ystyried ein hegwyddorion buddsoddi, gweld y daith fesul cam drwy ein ffurflen gais a dysgu cynghorion craff i roi'r siawns orau o lwyddiant i'ch cais am grant.
Mae'r fideo yn seiliedig ar ein gweminarau deufisol poblogaidd, Helpu chi i wneud cais, ac yn rhoi mynediad ar-alw i chi at arbenigedd a ysbrydoliaeth Cronfa Treftadaeth gan grantïon sydd wedi bod yn eich sefyllfa chi ac sydd wedi gwneud hyn o'r blaen.
Dywedodd Anne Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyflwyno Busnes, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Rydyn ni’n gwybod bod gan bobl arddulliau dysgu a gofynion mynediad gwahanol. Mae'r fideo hwn yn ganllaw gweledol i wneud cais am grant ar gyfer prosiect treftadaeth, sydd wedi'i gyflwyno gan ein staff cyfeillgar a gwybodus ac yn ategu ein harweiniad a'n hadnoddau ysgrifenedig.
“Rhoddir trosolwg cynhwysfawr o’r broses ymgeisio, ac mae’n berffaith i’r rhai sy’n gwneud cais i ni am y tro cyntaf. Mae hefyd yn wych o ran atgoffa ymgeiswyr sy'n dod yn ôl i wneud cais arall. Gallwch chi gymryd eich amser, stopio fe a dod yn ôl at bynciau ar eich cyflymder eich hun.”
Bydd y fideo hwn ar gael yn barhaol yn adran ariannu Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000–£250,000 y wefan er mwyn i chi ei gyrchu a chyfeirio ato'n hawdd wrth i chi ddatblygu syniad eich prosiect a'ch cais.