Gwyliwch: sut i wneud cais am ariannu rhwng £10,000 a £250,000 ar gyfer prosiect treftadaeth
Oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect treftadaeth ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Nod y fideo hwn yw eich helpu i ddeall y gofynion ar gyfer ein grantiau ac i gyflwyno cais o ansawdd da.
Gwyliwch i wella'ch dealltwriaeth o'r adnoddau sydd gennym i'ch cefnogi, clywed enghreifftiau o sut i ystyried ein hegwyddorion buddsoddi, gweld y daith fesul cam drwy ein ffurflen gais a dysgu cynghorion craff i roi'r siawns orau o lwyddiant i'ch cais am grant.
Mae'r fideo yn seiliedig ar ein gweminarau deufisol poblogaidd, Helpu chi i wneud cais, ac yn rhoi mynediad ar-alw i chi at arbenigedd a ysbrydoliaeth Cronfa Treftadaeth gan grantïon sydd wedi bod yn eich sefyllfa chi ac sydd wedi gwneud hyn o'r blaen.