Enwebwch eich prosiect a phobl treftadaeth am wobr o £5,000

Enwebwch eich prosiect a phobl treftadaeth am wobr o £5,000

Clive Gray o Blyth Tall Ships yn derbyn Gwobr y Loteri Genedlaethol gan yr hanesydd David Olusoga
Clive Gray o Blyth Tall Ships yn derbyn Gwobr y Loteri Genedlaethol gan yr hanesydd David Olusoga
Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn cydnabod prosiectau rhagorol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a'r bobl ysbrydoledig sy'n gwneud i'r prosiectau hynny ddigwydd ar draws y DU.

Ers 1994, mae'r Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £47biliwn ar gyfer achosion da. O hyn, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dosbarthu dros £8.6bn i fwy na 49,000 o brosiectau treftadaeth ledled y DU. 

Bob blwyddyn, mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn dathlu'r bobl a'r prosiectau ysbrydoledig sy'n gwneud pethau anhygoel gyda chymorth yr arian hwnnw gan y Loteri Genedlaethol.  

Mae'r enwebiadau ar gyfer y gwobrau eleni bellach ar agor! Gallwch enwebu eich prosiect a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a'r bobl a wnaeth iddo ddigwydd mewn categorïau gan gynnwys:  

  • Prosiect y Flwyddyn  
  • Unigolyn Treftadaeth  
  • Unigolyn Amgylcheddol  
  • Unigolyn Cymuned ac Elusennol  
  • Arwr Ifanc (Dan 25 oed) 
  • Gwobr Cyflawniad Arbennig, sef gwobr newydd ar gyfer 2023 i anrhydeddu unigolyn sydd wedi mynd yr ail filltir

Pobl a phrosiectau eithriadol 

Rydym yn falch o fod wedi cefnogi cynifer o enillwyr blaenorol, gan gynnwys: 

Clive Gray, Blyth Tall Ships, enillydd 2022 yn y categori Treftadaeth 

Roedd Gwobr Loteri Genedlaethol Clive Gray yn cydnabod ei arweiniad anhygoel ar Blyth Tall Ship, sy'n newid bywydau drwy hyfforddiant, gwirfoddoli a phrofiadau sgiliau treftadaeth forol.

Prosiect South of Scotland Golden Eagle, enillydd Prosiect y Flwyddyn Yr Alban 2022

Cafodd cynllun cadwraeth arloesol i adfywio poblogaeth yr eryr aur yn Dumfries a Galloway a Gororau'r Alban ei enwi'n Brosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn Yr Alban yn 2022.

An Tobar CIC, enillydd Prosiect y Flwyddyn Gogledd Iwerddon 2022 

Enillodd y ganolfan lles a fferm gymdeithasol yn Silverbridge, De Armagh wobr y Loteri Genedlaethol am helpu pobl ifanc i fforio treftadaeth naturiol a diwylliannol Brian's Wood.

Pollinating the Peak, enillydd Prosiect y Flwyddyn 2021

Roedd y prosiect, a leolir yn Swydd Derby, yn brosiect uchelgeisiol a gefnogwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n gweithio'n galed i adfywio niferoedd cacwn bwm yn Ardal y Copaon.

Eryr aur o brosiect South of Scotland Golden Eagle drws nesaf i Wobr y Loteri Genedlaethol. Credyd: Phil Wilkinson / Y Loteri Genedlaethol.
Eryr aur o brosiect South of Scotland Golden Eagle drws nesaf i Wobr y Loteri Genedlaethol. Credyd: Phil Wilkinson / Y Loteri Genedlaethol.

Enwebwch heddiw 

Ewch i wefan Achosion Da'r Loteri Genedlaethol i gyflwyno'ch enwebiad ac archwilio'r holl gategorïau yn llawn. Gallwch hefyd drydar @LottoGoodCauses gan ddefnyddio'r hashnod #NLAwards gyda'ch awgrymiadau. Mae gennych tan 12pm ar 16 Mai 2023 i wneud eich enwebiad.

Mae'r enillwyr yn derbyn £5,000 a thlws Gwobrau'r Loteri Genedlaethol. Bydd y rhestr fer o'r 16 o Brosiectau'r Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, a bydd ar agor i'r cyhoedd bleidleisio drostynt. Bydd enillwyr categorïau unigol yn cael eu dewis gan banel o feirniaid.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...