Cymerwch ran yn y Diwrnod Hunlun Bysedd Croes 2025
Ddydd Mercher 19 Tachwedd bydd miloedd o bobl yn postio hunluniau bysedd croes ar draws y cyfryngau cymdeithasol i gydnabod eu grant gan y Gronfa Treftadaeth a chodi hwyl ar y cyd ynglŷn â'r achosion da anhygoel y mae'r Loteri Genedlaethol yn eu hariannu.
Rydym yn edrych ymlaen at daflu sbotolau ar rai o'r prosiectau treftadaeth ysblennydd a gefnogwn. Ymunwch â'r sgwrs dreftadaeth ar-lein i ledaenu'r gair am eich prosiect a helpwch i gael #BecauseOfYou / OherwyddChi i drendio.
19 Tachwedd yw ein pen-blwydd ni – a phen-blwydd Y Loteri Genedlaethol – yn 31 oed a’r diwrnod cyntaf yr aeth tocynnau’r Loteri Genedlaethol ar werth yn ôl ym 1994. Ers hynny rydym wedi buddsoddi dros £8.9biliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mewn mwy na 48,000 o brosiectau treftadaeth ar draws y DU.
Sut alla i gymryd rhan?
Rhannwch eich hunluniau bysedd croes ar unrhyw lwyfan cyfryngau cymdeithasol o’ch dewis gyda neges o ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a rhowch rywfaint o wybodaeth am eich prosiect treftadaeth. Gallech hefyd ddangos rhan o’r dreftadaeth, ein logo a’n brand yng nghefndir y llun, neu aelodau staff a gwirfoddolwyr eraill sy’n ymwneud â’r prosiect.
Tagiwch ni i mewn yn @HeritageFundCYM ar Instagram a Twitter/X, @Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen ar Facebook a LinkedIn a defnyddiwch yr hashnod #BecauseOfYou / OherwyddChi.
Mynnwch ysbrydoliaeth
Chwilio am syniadau? Dyma rai postiadau drafft i'ch rhoi ar ben ffordd:
- Instagram: Mae'n Ddiwrnod Hunlun Bysedd Croes! Heddiw gyda @HeritageFundUK rydyn ni'n dathlu'r gwahaniaeth anferth y mae chwaraewyr y #LoteriGenedlaethol yn ei wneud. #OherwyddChi mae [nodwch enw'r sefydliad] wedi [nodwch fanylion y prosiect]
- Twitter/X: Rydyn ni'n ymuno â @HeritageFundCYM / @HeritageFundUK i ddathlu'r Diwrnod Hunlun Bysedd Croes a dweud diolch yn fawr iawn wrth chwaraewyr y #LoteriGenedlaethol! #OherwyddChi, mae ein prosiect yn [nodwch fanylion effaith y prosiect]
- Facebook a LinkedIn: Pen-blwydd Hapus i @Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / @The National Lottery Heritage Fund! Dyma Hunlun Bysedd Croes i helpu dathlu’r effaith anhygoel y mae arian a godwyd gan chwaraewyr y #LoteriGenedlaethol yn ei wneud bob dydd. #OherwyddChi, mae ein prosiect yn helpu i [nodwch fanylion effaith y prosiect]
Mwy o fomentau i ddathlu gyda’n gilydd
Mae gennym fwy o fomentau drwy gydol y flwyddyn y gallwch chi gymryd rhan ynddynt, y maent wedi'u dylunio i helpu hyrwyddo'ch prosiect, cydnabod eich grant a rhannu treftadaeth ysbrydoliaethus ar-lein.
Dyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer eich dyddiadur:
12 Ionawr 2026: Rhannwch eich hoff leoedd, gwrthrychau a storïau treftadaeth gyda ni ar ddiwrnod #TrysorauTreftadaeth.
7 – 15 Mawrth 2026: Cyfle i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud eich prosiect yn bosibl gydag Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol.