Arolwg: Dywedwch wrthym sut mae coronafeirws (COVID-19) yn effeithio arnoch chi

Arolwg: Dywedwch wrthym sut mae coronafeirws (COVID-19) yn effeithio arnoch chi

An illustration of people talking
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi lansio arolwg byr i helpu i fesur effaith pandemig coronafeirws (COVID-19) ar bobl a sefydliadau threftadaeth yr ydym yn gweithio â hwy.

Bydd yr arolwg yn ein helpu i gasglu gwybodaeth am effaith y pandemig ar y sector treftadaeth ar unwaith ac yn y tymor hwy.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rennir gyda ni i'n helpu i benderfynu sut y gallwn gefnogi'r sector yn gyflym ac yn y ffyrdd gorau y gallwn. Rydym eisoes yn trafod gyda'n partneriaid treftadaeth, arianwyr eraill a'r Llywodraeth.

Dywedodd Tom Walters, Pennaeth Ymchwil, Data a Mewnwelediad Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "yn ogystal â bod yn ddigwyddiad iechyd cyhoeddus o bwys, mae coronafeirws (COVID-19) yn cael effaith ar fywydau gwaith a llesiant personol cymdeithas gyfan y DU.

"Rydym wedi lansio arolwg cyflym o sefydliadau treftadaeth er mwyn i ni ddeall yr effaith ar ein sector. Rydym am glywed yn arbennig gan y rhai sy'n derbyn grantiau sy'n cynnal prosiect, digwyddiad neu sefydliad treftadaeth ac sy'n gallu dweud wrthym am effaith bresennol neu effeithiau potensial y coronafeirws ar eich gweithrediadau yn y dyfodol.

"Bydd y data a'r mewnwelediad yma’n amhrisiadwy wrth i ni asesu'r camau polisi, rheoliadol neu ariannol a allai helpu'r sector treftadaeth yn y ffordd orau drwy'r cyfnod digyffelyb hwn."

Byddwn yn adolygu canlyniadau'r arolwg bob dydd dros yr wythnos nesaf, a bydd yn parhau i fod ar agor tan 5pm ddydd Gwener 27 Mawrth. Bydd cyfanswm y canlyniadau'n cael eu cyflwyno i'n Bwrdd a'n tîm gweithredol, a'u cyhoeddi'n ddiweddarach ar ein gwefan.

Er ein bod wedi cau drysau ein swyddfeydd, rydym yn dal ar agor ar gyfer busnes. Mae ein holl staff ymroddedig yn gweithio o bell ar draws y DU. Daliwch ati i gysylltu â'ch tîm lleol  yn y ffordd arferol. Byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu.

Dysgwch fwy: ein cefnogaeth i dreftadaeth mewn ymateb i'r coronafeirws (COVID-19)