Shaping the future by hearing the past
Dan Serridge, Storyteller

Pollok is complicated, more complicated than you might think. People will tell you that there’s old Pollok, there’s new Pollok and some bits that aren’t even Pollok at all.
Unearthing stories
Unearthing stories about a place is always more nuanced than you ever imagine. For people who have lived somewhere all their lives, breathed it in and speak about it with a love that you would for a close friend, you’ll discover that not everything meets the eye.
[quote]“We have been capturing the stories from the young and not so young to create a picture of a place.”[/quote]
The HLF-supported Pollok 80/20 project has proved to be such a project. We, The Village Storytelling Centre, are searching high and low to discover the stories of 80 years of Pollok social housing. We are trying to turn these stories into an interactive map that generations of people can come and listen to and enjoy the fabulous, hidden oral history that exists in a much-maligned and misunderstood area of Glasgow. We hope this project brings people from across the city to hear the sordid behaviour of one particular park bench, hear the voices of people who can tell you what it used to be like and how they feel about it now.
We have been capturing the stories from the young and not so young to create a picture of a place. A picture that goes beyond the assumptions people make of an area.
Preserving voices
We’ve heard the sound of laughter emanating from one house on the corner of the street. The sounds of the old shopping centre and the trams that would pass by regularly have filled our ear. For a moment the past has been in the present and the present has occupied the past.
[quote]“We are in a privileged position to go and collect the stories of the people who live in this area and hear the rich knowledge that resides in every house, in every community hub, in every shop.”[/quote]
We are still at an early phase of our project and we are only just discovering the complexity and meaning that this area has to the people who occupy it. From those who can tell you about the church that was moved brick by brick from a different part of the city to the shenanigans that would occur up at Crookston Castle, we’ve learnt that not every story has to be epic or huge, it’s the small moments of intimacy that you experience when discovering someone’s life history. The impact and imprint that they have made on the lives of people around them even if they don’t see it as such. We are in a privileged position to go and collect the stories of the people who live in this area and hear the rich knowledge that resides in every house, in every community hub, in every shop.
It is with thanks to HLF that the voices of people can be heard for years to come, creating art out of the everyday.
Pollok may be old, or it may be young. But for the people who know it, what matters is that it’s here and it has thousands of voices that can shape and share its future by bringing up its past.
Find out more about HLF's Stories, Stones & Bones celebrations on the HLF Stories Tumblr.
Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...
Time to apply for Stories, Stones and Bones

HLF is a partner in Scotland’s Year of History, Heritage & Archaeology in 2017 and through Stories, Stones and Bones is offering grants of £3,000 to £10,000 to encourage everyone to take advantage of all that heritage has to offer.
Applying is straightforward with a short application form and a quick decision. And with the first deadline on Friday 30 September, there’s still two weeks to put ideas forward.
Lucy Casot, Head of HLF Scotland said: “We are very excited about Stories, Stones and Bones. It’s a real opportunity to open the door to people that don’t normally get involved in heritage and let them see what it has to offer. I can assure them, they will be surprised and delighted.”
Celebrate Scotland's history
Through HLF, more than £800million of National Lottery players’ money has been invested in Scotland’s heritage. Projects are happening all over the country, touching the lives of those involved - whether it's sharing stories across generations, digging to unearth clues that history has left behind, or volunteering to teach young people about the past.
[quote=Anna James, Stories, Stones and Bones Grants Development Officer]“Don’t let the fact that you haven’t applied to HLF, or indeed any organisation, for a grant before put you off. It’s a far simpler process than you might think.”[/quote]
“I would encourage anyone that has an idea for a project to get in touch," said Anna James, Stories, Stones and Bones Grants Development Officer. "Don’t let the fact that you haven’t applied to HLF, or indeed any organisation, for a grant before put you off. It’s a far simpler process than you might think and we’re here to help.”
Shine a light on what gives Scotland and its people a unique identity by celebrating its history and heritage during what is going to be a very special year.
How to apply
You can apply quickly and easily using the material on the Sharing Heritage programme page.
If you’ve got a question about applying, please contact the Scotland development team to get their advice.
There are two deadlines – Friday 30 September 2016 and Tuesday 31 January 2017.
How to tell family stories

Emma-Jane Harrington, Oral History Development Worker, MECOPP
In December 2014 Minority Ethnic Carers of Older People Project (MECOPP) was delighted to be awarded a grant from The National Lottery Heritage Fund to deliver our very first oral history project. It was called Mothers and Daughters, Fathers and Sons – Memories of Childhood.
"The focus of this intergenerational project was to celebrate childhood across communities, continents and generations."
The focus of this intergenerational project was to celebrate childhood across communities, continents and generations. It was alsos a way of preserving the personal histories of first-generation Chinese and South Asian older people and their UK-born family members.
Creating an exhibition
We interviewed and photographed 11 family pairs from South Asian, Nepalese, Tibetan and Chinese communities. Participants shared their memories from childhood including early life, education, the impact of migration and their childhood hopes and dreams.
The interviews formed the basis of a storyboard panel with each panel containing both family members’ stories and a mixture of current and old family photographs.
Participants also shared with us an object of meaning from their lives which we photographed and turned into object boards and a collection of postcards.
These wonderful storyboards and object boards formed an exhibition which launched at the Museum of Edinburgh in October 2015 and was a wonderful celebration for all involved in the project!
“The best experience was going to the museum with my mother for the project launch. It was great to share our life experiences with others and also with each other.”
Project participant
One participant told us: “The best experience was going to the museum with my mother for the project launch. It was great to share our life experiences with others and also with each other.”
The exhibition went on to be shown at Edinburgh Central Library and Edinburgh University and continues to be shown across the city. In January 2017 we published a book: Mothers and Daughters, Fathers and Sons.
A deeper connection
Participants were recruited through MECOPP’s community contacts and through our development work. To ensure this project was open to everyone we recruited volunteers who could speak community languages such as Cantonese, Punjabi and Urdu as well as English. One of our participants told us: “it helped me by having someone who spoke Urdu/Punjabi so I could express myself fluently”.
Through their involvement in the project, participants told us that their wellbeing had improved and the majority reported an increase in their confidence and self-esteem too. Participants not only experienced a stronger connection to their own families, but some experienced a deeper connection to the other families involved also.
One participant shared: “what was new and lovely was the feeling of connectedness with members of other families that have grown up in different countries and cultures”. Every person told us they were glad they had taken part and that they had learned more about the relevance of oral history in daily life. One participant said: “I think it is not just a project but also part of the history in our community during that time.”
As the development worker for Mothers and Daughters, Fathers and Sons it gave me great joy to deliver this project. It was a real honour to be welcomed into families and trusted to share their memories with the world.
To learn more or to get involved you can visit the MECOPP website or email me.
Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...
After Windrush - telling stories of struggle and celebration

Why did you want to make this film?
I had the idea for about 25 years.
I'm an African-Caribbean British Yorkshireman. I was born here, raised here. I saw my mother and father go through racism, I went through it at school. Then when I came out of the military, I couldn’t even get a job, people were looking at me like I had three heads. I wanted to be respected – almost to be invisible but visible. And if I'm feeling this, how many others are feeling this?
I wanted the film to be a celebration of our journey, an acknowledgement of the struggle, and a closure and a motivation for the future.
What was the initial response from the community?
This is the back story. I'm 57, so of the first generation born here. The indigenous population didn’t want us here, there were lots of fears and phobias about people coming from the Caribbean. Back then, we were a very tight-knit community.
So when I asked people to come forward to offer their stories for the film, thinking about 25-30 would take part – my God that’s when I realised we still have those links. Around 85-100 people came forward.
Were there any surprises?
How much it inspired people. I never felt "inspired" to do it. I felt there was a need to do it.
The amount of people who said: "Wow, we’ve got to do more of this, we’ve got to share our heritage more"; that almost brought me to tears. So the Sikh communities of Huddersfield and beyond – they want to do their own film now, the Muslim communities, the Irish. The story of migration reaches everyone.
What would you say to anyone from a minority background who wants to do a similar project?
If your story hasn’t been told, tell it. It needs to be told, because it inspires others whose stories also haven’t been told, and it will inform, educate and entertain people in the right way about your culture.
Plan carefully. We were overwhelmed with the support, and financially you need to be ready for that.
Everything you think is your culture and "belongs" to you, be prepared to be surprised. When you have been marginalised as a minority group, you start to hold onto things that are precious to you – but I was shocked how many people had similar stories to me.
Do you have any practical tips in applying for National Lottery funding?
- Try to find somebody who understands the process before you start the journey, like a previous grantee.
- Be prepared to be disappointed – because it’s not guaranteed that you will get it.
- Be explicit about the outcomes of what your project is going to do, and the benefit it's going to have for your community and the wider community.
What have you learned from the experience?
I made sure we had a diverse team of volunteers – I’ve seen monocultural projects within the African-Caribbean community failing because they’re not taking on skills from other communities. I already loved the diverse nature of people, but this project really gave me a deeper understanding of what others have to navigate: class, gender, disability.
What do you think about Black History Month?
I think the positives far outweigh the negatives. Any month, week, day that raises the profile for people of African-Caribbean descent, past, present and aspirations for the future, has got to be good.
However I have an issue with the word "black". If it was African-Caribbean British History Month, you start looking at people more introspectively than just their colour.
Where can people see the film?
- 19 October: Heritage Quay, Huddersfield
- 23 October, 10am: Huddersfield Central Library
- 24 October: Kirklees Neighbourhood Housing
- Find out more on Facebook and the Kirklees Local TV website.
What's next for you?
We have more than 70 interviews that we haven't been able to use, I've got some big plans to share those stories and learnings.
Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...
Dysgu i wrando - cynghorion ar gynnal cyfweliadau hanesion llafar da

Mae “hanesion llafar" yn gallu bod mor syml â gwrando ar rywun yn siarad am rywbeth y maen nhw wedi'i brofi. Ond bydd unrhyw un sydd wedi rhoi cynnig ar wneud hyn yn gwybod nad yw bob amser mor hawdd ag y mae'n swnio.
Dyma rai o fy mhrif bethau i feddwl amdanyn nhw:
Datblygwch eich sgiliau gwrando
Dydyn ni ddim i gyd yn dda iawn am wrando ac mae'n sgìl y gellir ei ddysgu a'i ddatblygu.
Mae haneswyr llafar profiadol yn gwrando heb dorri ar draws na barnu. Maen nhw hefyd yn gwrando ar lefelau gwahanol: nid yn unig i'r hyn a ddywedir ond yr hyn na ddywedir, maen nhw'n gwrando ar y tawelwch a’r hyn sy’n cael ei ailadrodd. Maen nhw hefyd yn gwrando ar y gwahaniaethau rhwng y naratif a'r myfyrdod. Dyma le mae rhywun nid yn unig yn dweud wrthych beth ddigwyddodd ond pam a sut maen nhw'n meddwl am y peth nawr.
Mae'r cof yn gymhleth, yn gyfoethog ac yn amlhaenog: mae dysgu gwrando yn hanfodol.
Ewch i'r afael â Thechnoleg
Mae dal a chadw'r hyn y mae pobl yn ei ddweud yn golygu bod rhaid i chi wybod sut i ddefnyddio recordydd sain digidol. Hyd yn oed os ydych yn ei wneud gyda ffôn symudol yn unig, mae angen i chi wybod sut i gael y sain â’r ansawdd gorau.
Mae hefyd yn bwysig cofnodi mewn fformat ffeil y gellir ei rannu'n hawdd gyda'r person y gwnaethoch ei gyfweld a hefyd ei archifo fel y gall eraill ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae’n rhaid i chi ddeall yr offer yr ydych yn ei ddefnyddio i recordio er mwyn sicrhau eich bod chi a’r person yr ydych yn ei gyfweld yn ymlacio’n well.
Mae llawer o gyngor ar gael yn y drafodaeth yma.
Gwnewch eich gwaith ymchwil
Mae'r prosiectau hanesion llafar gorau yn meddwl yn ofalus am bwy i gyfweld â nhw ac yn paru'r cyfwelwyr yn ofalus â'r bobl y maen nhw’n mynd i'w cyfweld.
Os ydych yn cyfweld mwy nag ychydig o aelodau agos o'ch teulu, bydd angen i chi wneud ychydig o waith ymchwil cefndirol.
Sicrhewch eich bod yn siarad â thrawstoriad da o bobl: gwahanol ryw, oed, ethnigrwydd, syniadau a barn.
Mae cyfweliadau mwy manwl gyda llai o bobl yn well na chyfweliadau byr gyda llawer o bobl. Wrth i chi dreulio fwy o amser gyda phobl, byddwch yn adnabod ac ymddiried eich gilydd yn well, a bydd hyn yn arwain at gyfweliad gwell.
Tawelu meddyliau pobl
Cyn i chi ddechrau ar y gwaith o recordio hanes llafar, mae'n bwysig egluro i'r person rydych chi'n mynd i gyfweld â nhw:
- taw eu cyfrifoldeb nhw yw’r hyn y maen nhw’n ei ddweud
- does dim rhaid iddyn nhw ateb eich holl gwestiynau os nad ydyn nhw eisiau
- mae modd iddyn nhw ddod â’r cyfweliad i ben ar unrhyw adeg
Mae'n bwysig bod pobl yn teimlo’n gyfforddus i siarad, yn enwedig os yw'n bwnc anodd neu emosiynol. Dylen nhw ddeall beth rydych chi'n mynd i'w wneud â'u recordiad (a'u data personol) wedyn. Mae hyn yn golygu gofyn iddyn nhw lenwi ffurflenni fel bod y ddau ohonoch yn cytuno.
Cewch ragor o fanylion am hyn ar wefan y Gymdeithas Hanes Llafar.
Ysgrifennwch nodiadau
Mae’r hyn sy’n digwydd ar ôl gorffen y cyfweliad cyn bwysiced â'r cyfweliad ei hun.
Ar ôl ychydig o gyfweliadau, fyddwch chi ddim yn gallu cofio beth gafodd ei drafod yn y rhai blaenorol, ac mae gwrando ar bob un yn cymryd llawer o amser, felly mae rhyw fath o grynodeb o’r cynnwys yn ddefnyddiol.
Bydd hyn hefyd yn eich galluogi i gymharu'r hyn a ddywedwyd mewn llawer o gyfweliadau: yr hyn yr oedd pobl yn cytuno neu'n anghytuno â nhw, ble y gwnaethant sôn am themâu a straeon tebyg.
Mae hyn yn ddefnyddiol pan fyddwch yn dod i greu gwefan, arddangosfa neu gyhoeddiad yn seiliedig ar sawl cyfweliad.
Darganfyddwch fwy
Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am hanesion llafar ar wefan y Gymdeithas Hanesion Llafar. Maen nhw hefyd yn cynnal cyrsiau hyfforddi ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.
Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...
Hanes llafar – canllaw arfer da
Trwy ddarllen y canllaw hwn byddwch yn dysgu sut i gynllunio a rhedeg prosiect hanes llafar llwyddiannus. Mae'n esbonio beth yw hanes llafar a sut i redeg prosiect hanes llafar o gwmpasu i gynllunio a rhoi ar waith, gan gynnwys yr angen am gytundebau recordio ac archifo. Mae hefyd yn edrych ar sut i gyllidebu ar gyfer prosiect hanes llafar ac yn darparu ffynonellau gwybodaeth bellach.
Ynghylch hanes llafar
Mae hanes llafar yn cofnodi profiadau pobl a'r safbwyntiau sy'n siapio'r ffordd y maent yn gwneud synnwyr o'u bywydau. Mae'n dystiolaeth o'r gorffennol o lygad y ffynnon. Mae angen recordio, dogfennu ac archifo hanes llafar yn unol â safonau proffesiynol. Dim ond wedyn y gallwn fod yn siŵr y bydd recordiadau'n cael eu cadw a'u gwneud yn hygyrch i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Mae hefyd yn bwysig defnyddio'r tystiolaethau hyn. Gellir rhannu hanesion llafar fel adnodd yn eu rhinwedd eu hunain neu fel rhan o’r ffordd yr ydym yn esbonio casgliad amgueddfa, adeilad, cymuned neu le hanesyddol.
Dylai cyfweliadau hanes llafar fod yn gofnodion sylweddol o'r gorffennol. Os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar waith atgofion mewn grŵp, sgyrsiau byr anstrwythuredig neu vox pops, mae'n bosibl na fydd y canllaw hwn yn ddefnyddiol i chi. Er y gall y gweithgareddau hyn fod yn ddefnyddiol wrth ennyn diddordeb pobl mewn treftadaeth, nid ydym yn ystyried eu bod yn hanes llafar.
Rôl hanes llafar
Oni bai ein bod yn casglu ac yn achub atgofion pobl gallant gael eu colli. Gall hanesion llafar:
- lenwi bylchau mewn tystiolaeth hanesyddol a diogelu hanes sydd mewn perygl
- codi safbwyntiau newydd a herio ein barn am y gorffennol
- rhoi llais i bobl sydd wedi'u heithrio o gofnodion hanesyddol traddodiadol
- dogfennu traddodiadau a storïau a drosglwyddir o un genhedlaeth i'r llall
- cofnodi diwylliant newidiol a pharhaus lle neu gymuned, neu newidiadau mewn arferion bob dydd
- cyfrannu at gadwraeth tafodieithoedd a ffyrdd o siarad
Mae gan bawb, waeth beth fo'u cefndir, stori unigryw i'w hadrodd. Mae hanes llafar yn caniatáu i bobl na fyddai eu lleisiau fel arall yn cael eu clywed i rannu eu profiadau. Gall y weithred o ailadrodd digwyddiadau bywyd helpu pobl i ddeall eu bywydau ac yn aml mae'n cyfrannu at ymdeimlad o les a hunaniaeth, ar gyfer unigolion a chymunedau. Ar eu mwyaf pwerus, gall hanesion llafar esbonio, cyfoethogi dealltwriaeth ac annog uniaethu ag eraill. Gall prosiectau hanes llafar hefyd gyfrannu at ein hegwyddorion buddsoddi.
Weithiau mae tystiolaethau pobl yn gwrth-ddweud ei gilydd. Gall atgofion fod yn ddetholus ac mae cyfweliadau'n cofnodi gwahanol safbwyntiau, yn aml wedi'u dylanwadu gan ffactorau megis oedran, rhyw, statws cymdeithasol a chefndir diwylliannol. Fel unrhyw ffynhonnell hanesyddol, mae hanesion llafar yn agored i'w dadlau, eu dadansoddi a'u dehongli. Dyna'r hyn sy'n gwneud hanes llafar yn heriol ac yn gyffrous ac yr un mor werthfawr â data hanesyddol arall.
Cwmpasu eich prosiect
Gall hanes llafar ymwneud ag amrywiaeth enfawr o themâu. Er enghraifft, mae cyfweliadau wedi cofnodi newidiadau mewn diwydiant, arwyddocâd lleoedd hoff annwyl a hanes cymunedau.
- Fel rhan o'r prosiect Cumbrian Landscape Story, recordiodd Ted Bowness ei stori ar gyfer llwybr sain High Fell: “Bydden ni’n mynd i gneua ddiwedd Awst a Medi, ysgwyd y coed a byddai’r cnau’n dod i lawr fel plu eira. Cnau cyll brown hardd. Hyfryd.”
- Rhannodd y cyn-löwr y Parch. Kenneth Bailey ei brofiad ar gyfer y prosiect Digging Deep, Coalminers of African Caribbean Heritage: “Ni chawsom yr un faint o arian â’r bobl wyn … chwe phunt, 10 swllt yr wythnos, dyna beth oedd fy nghyflog … roedd y glowyr gwyn, neu’r gweithwyr cynnal a chadw gwyn, yn cael mwy.”
- Trwy'r prosiect Rainbow Jews, rhannodd Russell Vandyck: “Roedd gorymdeithiau balchder wir yn sefydlu yn yr '80au, felly meddylion ni beth am gael stondin y Grŵp Hoyw Iddewig, 'Bagel a chaws hufen'? Byddem bob amser yn gwerthu allan ... ac ymunodd rhai pobl â'r grŵp ar sail hynny.”
Mae hanesion llafar hefyd wedi herio ystrydebau ac archwilio pynciau sensitif. Er enghraifft, cofnododd prosiect Scope, Speaking for Ourselves, brofiadau pobl â pharlys yr ymennydd, gan gynnwys y rhagfarn y maent wedi'i wynebu.
Beth yw eich thema?
Bydd angen i chi benderfynu ar thema ar gyfer eich prosiect: boed yn ymwneud â chymuned, lle, digwyddiad, gweithgaredd neu fater penodol, neu bwnc arall. Efallai y byddwch am dorri hyn i lawr i bynciau. Er enghraifft, gallai hanes cymdogaeth ymwneud â chartrefi pobl, bywyd teuluol, lle maent yn gweithio, yn siopa ac yn treulio eu hamser hamdden. Ond peidiwch â bod yn rhy ragnodol oherwydd y gall pynciau ddod i'r amlwg na fyddwch yn eu disgwyl.
A oes angen neu alw am eich prosiect?
Casglwch dystiolaeth o ddiddordeb yn y pwnc rydych wedi'i ddewis drwy ymgynghori â sefydliadau, cymunedau ac unigolion allweddol. Gwiriwch gyda rhwydweithwyr rhanbarthol y Gymdeithas Hanes Llafar, adran Hanes Llafar y Llyfrgell Brydeinig os yw'n brosiect cenedlaethol neu'ch archif leol i weld a yw eich pwnc dewisol yn dyblygu prosiectau eraill ac, os felly, sut y gellid ei addasu i wella casgliadau sydd eisoes yn bodoli.
Rhannu hanesion llafar
Dylid rhannu hanesion llafar, er enghraifft trwy wefannau, arddangosfeydd, gosodiadau celf, perfformiadau theatrig neu gerddorol, deunyddiau addysgol, ffilmiau ac apiau taith gerdded. Gallant ychwanegu pobl at y dehongliad o adeiladau a thirweddau. Ystyriwch sut y byddwch yn defnyddio'ch storïau ac yn ennyn diddordeb cynulleidfa ehangach yn y deunydd. Er enghraifft:
- Creodd NHS at 70: the Story of Our Lives archif ddigidol o hanes y gwasanaeth. Hyfforddwyd 150 o wirfoddolwyr i gasglu cyfweliadau gan staff, cleifion a theuluoedd, sydd wedi cael eu defnyddio mewn arddangosfeydd teithiol a ffilmiau byr.
- Cofnododd Stories from the Estate brofiadau trigolion cynnar a fu'n byw yn Ystâd Twinbrook, Gorllewin Belfast yn y 1970au yn ystod rhai o gyfnodau gwaethaf y gwrthdaro. Ochr yn ochr â'u tystiolaeth, mae ffotograffau ac erthyglau papur newydd yn helpu creu darlun o'r cyfnod trwy arddangosfa ar-lein.
- Mae Amgueddfa Iddewig Manceinion yn defnyddio adroddiadau llafar mewn orielau â thema ac yn y synagog ei hun i ddod â straeon yn fyw. Mae ystafell wedi'i neilltuo ar gyfer hanesion llafar hefyd, lle gall ymwelwyr eistedd a gwrando ar ddetholiadau o ystod o gyfweliadau.
- Gwnaeth tri deg o fyfyrwyr gyfweld â gwneuthurwyr theatr ar gyfer y prosiect The Soho Poly: Inspiring Future Generations, gan gofnodi hanes cynhwysol. Mae cyfweliadau ar gael ar-lein ac maent yn rhan o adnodd addysg i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Mae taith gerdded ar theatr radical hefyd.
Mae prosiectau hanes llafar bob amser yn gorfod casglu hanesion llafar newydd. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau sy'n ymwneud â hanesion llafar y maent eisoes ar gael yn ein harchifau. Mae UL Sound Directory yn rhestru llawer o'r casgliadau hyn.
Cynllunio eich prosiect hanes llafar
Amser
Mae pobl yn aml yn tanamcangyfrif yr amser sydd ei angen i gynnal prosiect hanes llafar effeithiol. Mae’n cymryd amser i feithrin perthynas â phartneriaid posibl, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr, a gall y broses o gasglu a dogfennu eich cyfweliadau gymryd llawer o amser hefyd.
Cynlluniwch y gwahanol gamau yn eich prosiect. Gallai recriwtio gweithiwr hanes llafar proffesiynol a hyfforddi gwirfoddolwyr fod yn gam cyntaf. Rhowch ddigon o amser i nodi a recriwtio trawstoriad eang o gyfweleion, yn enwedig os ydych yn cyfweld â phobl nad ydynt yn gyfarwydd â'ch sefydliad, neu'n delio â phwnc sensitif.
Byddwch yn benodol yn eich cais ynghylch y nifer o gyfweliadau y byddwch yn eu recordio, pa mor hir y byddant, faint fydd yn cael eu crynhoi a/neu eu trawsgrifio a'u harchifo i gasgliad.
Gellir disgwyl i gyfwelydd amser llawn profiadol gwblhau cyfweliadau gyda rhwng 30 a 50 o bobl mewn blwyddyn (150-250 awr). Gallai straeon bywyd cyfan hirach gymryd mwy o oriau dros nifer o ddiwrnodau neu wythnosau.
Ar gyfartaledd mae'n cymryd dwy awr i grynhoi cyfweliad awr (cymhareb 2:1). Mae trawsgrifiadau gair-am-air llawn yn cymryd mwy o amser (cymhareb 6:1). Bydd angen i chi neilltuo digon o amser i wneud hyn. Efallai y bydd angen hefyd i chi gyflogi trawsgrifiwr cymwys. Gallwch ddefnyddio meddalwedd lleferydd-i-destun, ond bydd angen ei wirio a'i gywiro â llaw o hyd, a all fod yn dasg sylweddol gan ddibynnu ar ansawdd sain y recordiad a pha mor acennog yw'r lleferydd.
Felly, yn ogystal ag amser ar gyfer y cyfweliad, cynlluniwch hefyd ar gyfer:
- hyfforddi, paratoi ac ymchwil
- adeiladu a chynnal perthynas â chyfweleion a/neu wirfoddolwyr
- trafod y dogfennau cyn y cyfweliad gyda chyfweleion a dod o hyd i ganiatâd
- teithio i gyfweliadau
- canslo a gohirio
- uwchlwytho a gwneud copïau wrth gefn o'r cyfweliadau a recordiwyd
- dogfennu pob cyfweliad (gyda chrynodeb ysgrifenedig)
- trawsgrifio neu gyfieithu cyfweliadau os oes angen
- dod o hyd i gytundebau i recordio'r cyfwelai
- dewis a golygu detholiadau o'r cyfweliadau a datblygu allbynnau
Staffio
Efallai y bydd angen staff newydd, gwirfoddolwyr neu weithwyr llawrydd, neu gyfuniad o’r rhain arnoch i gyflwyno'ch prosiect ar draws ystod o rolau, er enghraifft:
- rheolwr prosiect
- hanesydd llafar neu hyfforddwr hanes llafar
- cyfwelwyr/gweithwyr maes
- cyfieithwyr
- trawsgrifwyr
- archifydd
- rheolwr data
- gweithiwr allgymorth/addysgwr/artist i gynnal sesiynau gweithdy
- gwerthuswr
- dylunydd gwe
I gael rhagor o arweiniad ar recriwtio gweler 'cyfwelwyr a staff a gwirfoddolwyr eraill' yn nes ymlaen yn y canllaw hwn.
Offer
Yn gyntaf penderfynwch a ydych am recordio ar ffurf sain neu fideo. Mae gan bob un ei rinweddau ei hun ond mae fideo'n tueddu i fod yn ddrutach ac yn gofyn am sgiliau gwahanol. Yn gyffredinol, mae cyfweliadau sain un-i-un yn annog awyrgylch preifat a hamddenol i bobl siarad yn agored. Efallai y bydd yr allbynnau rydych am eu creu'n dylanwadu ar eich fformat hefyd (er enghraifft, bydd angen cyfweliadau fideo ar gyfer arddangosiadau clyweled neu ffilmiau YouTube). Mae hefyd yn bosibl cyfuno cyfweliadau sain hirach â recordiadau fideo dilynol byrrach, yn enwedig lle mae rhywbeth sy’n weledol ddiddorol i’w ddogfennu, megis lle neu ddarn o offer.
Ar gyfer y ddau fformat, bydd angen offer a meddalwedd cyfrifiadurol arnoch hefyd i gyrchu, ailenwi, gwneud copïau wrth gefn a dogfennu'r recordiadau. Mae angen capasiti storio data mawr ar gyfer fideo. Ceisiwch gyngor cyfredol ar yr offer mwyaf addas, ymgyfarwyddwch â'r opsiynau technegol a mynnwch ddyfynbrisiau ar gyfer costau.
Mae gan wefan y Gymdeithas Hanes Llafar gyngor diweddar ar offer a chyngor ar recordio o bell dros y rhyngrwyd.
Allbynnau'r prosiect
Meddyliwch am sut rydych am ennyn diddordeb y cyhoedd yn eich prosiect hanes llafar, e.e.: digwyddiadau, cyhoeddiadau, perfformiadau, adnoddau dysgu neu wefan, a chynlluniwch ba adnoddau y bydd eu hangen arnoch.
Partneriaid
Ystyriwch y partneriaethau y bydd eu hangen arnoch. Gall gweithio gyda sefydliadau cymunedol, colegau neu grwpiau ieuenctid eich helpu i gyrraedd gwahanol bobl, recriwtio gwirfoddolwyr a chyfweleion, a chasglu storïau newydd.
Bydd partneriaethau gydag amgueddfa, llyfrgell neu archif leol yn helpu sicrhau bod yr hanesion llafar yn cael eu dogfennu a’u harchifo'n unol â safonau proffesiynol, eu cadw yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'u bod yn hygyrch yn y tymor hir. Ystyriwch ble i adneuo hanesion llafar a deunyddiau eraill ar gyfer y dyfodol, a chysylltwch â phartneriaid posibl fel rhan o’ch cynllunio – bydd angen iddynt gytuno i dderbyn eich recordiadau ac efallai y bydd costau cysylltiedig y gallwch eu cynnwys yn eich cyllideb.
Efallai y bydd angen hefyd i chi ddatblygu partneriaethau i rannu'r hanesion llafar. Er enghraifft, gweithiwch gyda sefydliadau lletya os ydych am gynnal arddangosfa, neu gydag athrawon os ydych yn bwriadu cynhyrchu adnoddau ysgol.
Gwerthuso
Mae angen ymwreiddio gwerthusiad o'ch prosiect o'r cychwyn cyntaf. Gall adborth parhaus gan staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr a phartneriaid eich helpu i gyrraedd eich targedau a'ch canlyniadau, a sicrhau ansawdd trwy gydol cam cyflwyno'r prosiect. Dylai eich gwerthusiad ganolbwyntio ar yr hyn sydd wedi newid o ganlyniad i'ch prosiect.
Cyfwelwyr a staff a gwirfoddolwyr eraill
Mae ansawdd y cyfweliad yn dibynnu i raddau helaeth ar sgiliau'r cyfwelydd, felly ystyriwch yn ofalus pwy rydych chi'n eu defnyddio i gynnal eich cyfweliadau. Mewn rhai achosion, mae angen lefel uchel o arbenigedd a phroffesiynoldeb. Er enghraifft, efallai na fydd yn briodol i wirfoddolwyr dibrofiad gyfweld â goroeswyr trawma neu ddioddefwyr cam-drin.
Fodd bynnag, efallai y bydd adegau hefyd pan fydd gwerth mewn defnyddio gwirfoddolwyr, yn enwedig rhai o'r un cefndir diwylliannol. Os felly, gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n cael eu hyfforddi'n briodol fel bod y cyfweliadau'n uchel eu hansawdd. Ystyriwch ryw neu gefndir diwylliannol y rhai sy'n cael eu cyfweld hefyd. Ar rai materion sensitif, er enghraifft rhai pynciau sy'n ymwneud ag iechyd, efallai y bydd angen i chi baru rhyw y cyfwelydd a'r cyfwelai.
Os ydych yn gweithio gyda gwirfoddolwyr mewn rolau eraill, efallai y byddai’n ddefnyddiol recriwtio pobl sy'n medru iaith benodol, neu'n gwybod am gymuned leol neu fater penodol. Beth bynnag fo’r prosiect, dylech gyflogi pobl sydd ag arbenigedd profedig mewn hanes llafar i weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, sicrhau bod y cyfweleion yn cael eu trin yn sensitif ac yn briodol a bod y recordiadau'n uchel eu hansawdd. Dylai gwirfoddolwyr hefyd lofnodi cytundebau gwirfoddolwyr – gweler ein canllaw arfer da - gwirfoddoli am fwy o wybodaeth.
Efallai y bydd angen cyfieithwyr neu gyfieithwyr ar y pryd arnoch hefyd. Mae dadleuon o blaid ac yn erbyn defnyddio aelodau teulu a’r gymuned neu weithwyr proffesiynol yn y rôl hon. Ceisiwch gyngor gan weithwyr proffesiynol profiadol, cynrychiolwyr cymunedol neu'r cyfweleion eu hunain os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud a phennwch eich cyllideb yn unol â hynny.
Hyfforddiant a mentora
Mae angen asesu sgiliau staff a gwirfoddolwyr pan fyddant yn ymuno â'ch prosiect a bydd angen i raglen hyfforddi gael ei theilwra i'w hanghenion. Argymhellir lleiafswm o dri i bum diwrnod o hyfforddiant/mentora dros gyfnod eich prosiect, yn enwedig os nad oes gennych brofiad o recordio hanesion llafar. Mae'r Gymdeithas Hanes Llafar a'r Llyfrgell Brydeinig yn cynnal ystod o gyrsiau ac mae eraill ar gael. Efallai y bydd angen hyfforddiant a mentora arbenigol arall. Gallai hyn gynnwys hyfforddiant i weithio gyda phobl agored i niwed os yw'r prosiect yn ymwneud â phlant, oedolion agored i niwed neu oedolion amlieithog. Meddyliwch am unrhyw sgiliau, hyfforddiant a chymorth parhaus eraill y gallai fod eu hangen ar wirfoddolwyr.
Cysylltwch â'ch tîm Cronfa Treftadaeth leol i weld a allant eich rhoi mewn cysylltiad â phrosiectau hanes llafar eraill neu cysylltwch ag un o rhwydweithwyr rhanbarthol y Gymdeithas Hanes Llafar.
Risgiau ymarferol a diogelu
Yn unol â'ch cyfrifoldeb statudol, rhaid i chi nodi ac asesu unrhyw risgiau posibl mewn perthynas â diogelwch personol cyfwelwyr a chyfweleion, yn enwedig os ydynt yn agored i niwed. Sicrhewch fod gennych brosesau diogelu yn eu lle. Mae gwefan NCVO yn rhestru darparwyr cyngor a hyfforddiant diogelu. Os ydych yn gweithio gyda myfyrwyr neu bobl ifanc, dylech gynnwys yr ysgol, y coleg neu'r gweithwyr ieuenctid cyn gynted â phosibl. Ceisiwch gyngor gan sefydliadau anabledd lleol os ydych yn bwriadu cynnwys pobl anabl fel cyfwelwyr neu gyfweleion. Efallai y bydd angen hefyd i chi gyllidebu ar gyfer offer arbenigol.
Eich cyfrifoldebau: cytundebau recordio, hawlfraint, diogelu data, trwyddedu ac embargos
Cytundebau recordio
Mae angen i bob cyfwelai lofnodi dwy ddogfen. Bydd y rhain yn eich helpu i reoli eich perthynas â nhw ac yn eich helpu i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data (gan gynnwys GDPR).
Cytundeb Cymryd Rhan mewn Cyfweliad
Mae cyfwelai'n llofnodi hwn cyn i'r cyfweliad ddechrau. Gellir ei gyfuno â thaflen wybodaeth i esbonio eich prosiect i gyfweleion. Mae angen i chi ddogfennu cytundeb pob unigolyn i gymryd rhan mewn cyfweliad ac esbonio sut y byddwch yn storio, yn defnyddio ac yn darparu mynediad i'w data personol, yn ystod y prosiect a phan fydd recordiadau'n cael eu harchifo a'u cyrchu yn y dyfodol.
Cytundeb Recordio Cyfweliad
Mae cyfwelai'n llofnodi hwn ar ôl i'r cyfweliad gael ei gwblhau. Mae’n pennu sut y dylai eu cyfweliad gael ei archifo, ei darparu'n gyhoeddus (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) a'i ddefnyddio o bosibl i greu cyhoeddiadau, arddangosfeydd, adnoddau dysgu ac allbynnau eraill. Dylid dangos y Cytundeb Recordio Cyfweliad i gyfranogwyr cyn y cyfweliad ond ei lofnodi ar ôl i'r cyfweliad gael ei wneud. Mewn rhai achosion, gyda deunydd sensitif mae'n bosibl y bydd pobl eisiau i'r cyfan neu ran/nau o'r cyfweliad aros yn gyfrinachol ('wedi'i olygu') neu ei ryddhau dim ond ar ôl cyfnod penodol o amser ('dan embargo’). Dylid gwneud y ceisiadau hyn yn glir ar y ffurflen y mae'r cyfwelai'n ei llofnodi, a'u harchifo ochr yn ochr â'r recordiad i gyfeirio atynt yn y dyfodol.
Mae gan y Gymdeithas Hanes Llafar fwy o wybodaeth am GDPR a chytundebau templed y gallwch ei addasu ar gyfer eich prosiect.
Hawlfraint
Mae cyhoeddi ac ailddefnyddio deunydd recordio cyfweliad yn y dyfodol yn symlach os bydd rheolwyr prosiect neu gyfwelwyr yn ceisio trosglwyddo ('aseinio') hawlfraint o'r cyfwelai i'r prosiect neu'r man adneuo. Yn ymarferol, os yw perthnasoedd da wedi'u sefydlu a'u cynnal, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gyfforddus i aseinio hawlfraint gan wybod y bydd eu profiadau'n helpu meithrin dealltwriaeth y cyhoedd o'r gorffennol.
Diogelu data
Bydd archif gyhoeddus, amgueddfa neu debyg hefyd yn ei chael hi'n haws cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Yn gryno, rhaid cyfiawnhau pob achos o brosesu data personol neu sensitif, megis recordiadau a dogfennaeth hanes llafar, gyda ‘sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’. Mae 'Archifo er budd y cyhoedd' yn un sail gyfreithiol o'r fath ac mae'r Gymdeithas Hanes Llafar yn argymell i chi ei ddefnyddio yn eich dogfennaeth. Mae unrhyw sefydliad neu unigolyn sy'n archifo data personol 'at ddibenion sydd â gwerth cyhoeddus y tu hwnt i fuddiannau uniongyrchol y sefydliad ei hun' yn 'archifo er budd y cyhoedd’.
Ystyriaethau trwyddedu
Mae ein ariannu'n mynnu bod prosiectau'n sicrhau y caiff eu hallbynnau digidol (gan gynnwys delweddau, ymchwil, deunyddiau addysgol, adroddiadau prosiect, meddalwedd, cynnwys gwe ac apiau, cronfeydd data, modelau 3D, recordiadau sain a fideo) eu darparu am ddim ar-lein am o leiaf bum mlynedd o ddyddiad cwblhau’r prosiect, eu bod yn hygyrch a lle bo modd wedi'u trwyddedu'n agored – gweler ein canllaw arfer da digidol am fwy o wybodaeth.
Fodd bynnag, efallai na fydd bob amser yn briodol defnyddio trwydded agored ar gyfer cynnwys sydd ar gael ar-lein.
Anogir prosiectau i ystyried addasrwydd trwydded agored yn ofalus mewn perthynas â phrosiectau sy’n cynnwys cyfraniadau gan blant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed, deunydd sy’n dangos plant a phobl ifanc, a chyfweliadau sy’n debygol o gynnwys data personol hynod sensitif megis naratifau am salwch, profiadau trawmatig (megis gwrthdaro neu gam-drin) a gwahaniaethu. Mae trwyddedau agored mewn grym am byth, a gallai ailddefnyddio yn y dyfodol gyfyngu ar allu deiliad hawliau i olygu deunyddiau. Pan gaiff cynnwys ei ryddhau o dan drwydded agored, dylid esbonio’r caniatâd i wneud hynny’n ofalus a chael y caniatâd hwnnw'n ysgrifenedig. Yn ymarferol mae'n anodd darogan ymlaen llaw a fydd cyfweliadau'n cynnwys deunydd o'r fath ai beidio. Dylech godi unrhyw bryderon am y materion hyn gyda'ch cyswllt yn y Gronfa Treftadaeth cyn gynted â phosibl.
Mae'r Gymdeithas Hanes Llafar wedi cyhoeddi canllawiau moesegol ac mae Gwasanaeth Data'r DU yn darparu cyngor ar gynnwys plant a phobl ag anawsterau dysgu.
Archifo ac embargos
Yn olaf, oherwydd ei union natur, mae hanes llafar yn ymwneud ag atgofion a phrofiadau personol a chyfrinachol pobl, a byddant hefyd yn siarad am bobl eraill yn eu cyfweliadau wedi'u recordio. Bydd rhywfaint o’r hyn a ddywedant yn sensitif (ac yn anaml, yn enllibus) ac efallai na fydd yn briodol yn y tymor byr i rannu’r rhannau hyn o’u cyfweliad yn gyhoeddus, megis darparu'r recordiadau mewn archif gyhoeddus, ar wefan neu mewn arddangosfa. Gall y rhannau hyn o gyfweliadau gael eu harchifo’n ddiogel ond eu cau i’r cyhoedd (dan embargo) am gyfnod o flynyddoedd y cytunir arno gyda’r cyfwelai. Mae hyn yn eich galluogi i ddefnyddio gweddill y cyfweliad a'i rannu ar-lein neu mewn ffyrdd eraill.
Dogfennu ac archifo'ch recordiadau
Trefniadau archifo ac adneuo
Rhaid i recordiadau hanes llafar gael eu dogfennu, eu harchifo a'u gwneud yn hygyrch. Efallai y bydd archifdai, llyfrgelloedd, amgueddfeydd neu ganolfannau treftadaeth lleol mewn sefyllfa dda i wneud hyn neu i ddarparu cymorth proffesiynol os dymunwch ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol eich hun.
Cyn penderfynu ble i archifo'r hanesion llafar, gwnewch yn siŵr y byddant yn hygyrch. Er enghraifft, rhaid i'r lle yr ydych yn bwriadu adneuo'r recordiadau fod yn hawdd eu cyrraedd, gyda mynediad llawn i’r adeilad a/neu dros y we – gweler y canllawiau hygyrchedd W3C am fwy o wybodaeth. Efallai y bydd angen i chi feddwl am ganllawiau defnyddiwr amlieithog hefyd.
Dylai partneriaethau ag archifau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd neu ganolfannau treftadaeth lleol fod yn eu lle o ddechrau eich prosiect. Bydd angen cytundeb ysgrifenedig arnoch (a elwir yn gytundeb adneuo) gyda’r sefydliad sydd wedi cytuno i archifo’ch recordiadau, yn ddelfrydol cyn gwneud eich cais. Cofiwch y gallwch gynnwys unrhyw gostau sy'n codi o archifo'ch recordiadau yn eich cyllideb. Trafodwch hyn gyda'ch partner archifo.
Os na fyddwch yn gosod y recordiadau mewn archif, llyfrgell neu amgueddfa, mae angen i chi ddangos dewis arall sy'n eu gwarchod ar gyfer y dyfodol ac yn caniatáu mynediad cyhoeddus.
Byddwch yn glir ynghylch deunydd arall yr ydych yn ei gasglu, megis ffotograffau, dogfennau neu arteffactau, a sut y bydd y rhain yn cael eu harchifo a'u gwneud yn hygyrch i'r cyhoedd. Efallai na fydd modd i chi osod yr holl ddeunydd yn yr un cartref parhaol. Gellir archifo gwefannau gydag Archif Gwe y DU.
Gwirio gyda phartneriaid archif eu bod yn cyrraedd y Safon Brydeinig cyn belled ag y bo modd BS 4971:2017 cadwraeth a gofal o gasgliadau archifau a llyfrgelloedd (PD 5454 yn flaenorol). Ceir hefyd safonau rhyngwladol ar gyfer archifo cofnodion clyweled – gweler canllawiau ar gynhyrchu a chadw gwrthrychau sain digidol am fwy o wybodaeth.
Gwneud copïau wrth gefn o'ch recordiadau
Yn ystod y prosiect ei hun, cyn i chi archifo’r recordiadau, gwnewch yn siŵr eich bod wedi neilltuo digon o amser, adnoddau staff a’r offer cyfrifiadurol cywir i wneud copïau wrth gefn o’ch holl ffeiliau sain, fideo, delwedd a thestun ar fwy nag un gyriant caled allanol a/neu system gweinydd diogel. Gofynnwch i'ch partner archif am gyngor.
Dogfennu'r cyfweliadau
Ar ôl i chi lawrlwytho, ailenwi, cadw a chopïo eich recordiad dylech ddarparu crynodeb neu drawsgrifio ei gynnwys. Defnyddiwch y system enwi ffeiliau rydych wedi'i mabwysiadu a dyddiad y cyfweliad, rhestrwch bob thema arwyddocaol wrth iddi ddigwydd, gan groesgyfeirio â'r marc trac â chod amser ar y recordiad digidol. Dylid cadw manylion personol y cyfwelai megis cyfeiriad, rhif ffôn, e-bost ac enw ar wahân i'r cofnodion a'r crynodebau, ond dylid eu croesgyfeirio'n glir yn unol â'ch polisi diogelu data.
I gynhyrchu trawsgrifiad gair am air llawn o'r recordiad gallwch naill ai gyflogi trawsgrifiwr proffesiynol neu ei wneud eich hun gan ddefnyddio meddalwedd trawsgrifio fel Express Scribe neu Start Stop. Mae meddalwedd adnabod llais yn gwella ond mae'n dibynnu ar sain o ansawdd da a Saesneg diacen clir am ganlyniadau da. Mae'r opsiynau gorau (fel Otter a Trint) yn gallu bod yn ddrud i'w defnyddio ac efallai y bydd angen gwirio a chywiro ychwanegol o hyd.
Nid yw trawsgrifiadau llawn yn hanfodol ar gyfer archifo cyn belled â bod crynodeb o'r cynnwys ar gael. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi drawsgrifio detholiadau. Mae crynhoi cyfweliad a thrawsgrifio rhannau'n dasgau sy'n cymryd llawer o amser. Mae dewis a golygu cyfweliadau, er enghraifft ar gyfer arddangosfa, gwefan neu draciau sain hefyd yn cymryd amser. I wneud gwaith golygu lleferydd sylfaenol gallwch lawrlwytho meddalwedd ffynhonnell agored am ddim fel Audacity ond mae gwell pecynnau meddalwedd golygu cost isel, er enghraifft WaveLab neu Forge Audio Studio.
Cyllideb
Gwnewch yn siŵr bod eich cyllideb yn cynnwys holl gostau'r prosiect. Bydd y rhain yn amrywio yn ôl nifer y staff cyflogedig a/neu wirfoddol, faint o hyfforddiant ac ymchwil sydd ei angen, nifer y cyfweliadau sydd i'w recordio, teithio, a oes angen cyfieithwyr neu drawsgrifwyr cyflogedig, nifer y cyfweliadau sydd i'w dogfennu a’r allbynnau.
Mae costau staff a gwirfoddolwyr yn debygol o gynnwys:
- hyfforddiant
- teithio (caniatewch o leiaf dau ymweliad fesul cyfweliad a gynllunnir gan gynnwys darpariaeth wrth gefn ar gyfer canslo)
- recriwtio
- cyflogau a ffioedd staff y prosiect, gan gynnwys ymgynghorwyr llawrydd
Mae angen i chi gynnig cyflog teg neu ffi ar gyfer staff cyflogedig. Mae'r Gymdeithas Hanes Llafar yn darparu canllawiau ar gyfraddau contractwyr llawrydd yn seiliedig ar rolau gwahanol, yn ogystal â staff cyflogedig. Mae yna hefyd isafswm cyfraddau cyflog y cytunir arnynt yn genedlaethol ar gyfer rhai gweithwyr proffesiynol, megis archifyddion a staff amgueddfeydd. Ceisiwch gyngor pellach lle bo angen.
Gallai costau offer gynnwys:
- offer recordio sain cerdyn fflach cyflwr solet
- offer recordio fideo (DV) a thrybedd
- meicroffonau (er enghraifft, meicroffonau llabed, dau i bob recordydd ynghyd â rhai sbâr)
- cardiau cof (SD) 8GB i 16GB
- bagiau offer
- gyriannau caled allanol lluosog i wneud copïau wrth gefn
- cyfrifiadur gyda meddalwedd rheoli uwchlwytho a throsglwyddo ffeiliau digidol
- argraffydd/sganiwr
- offer/meddalwedd trawsgrifio
- meddalwedd golygu
- camera digidol
- dodrefn storio y gellir eu cloi
Efallai y byddwch eisiau cynnwys y costau y bydd partneriaid yn eu hysgwyddo, yn ogystal ag unrhyw gyfraniadau mewn nwyddau y gallant eu gwneud. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys hyfforddi gwirfoddolwyr archifdy os nad ydynt yn gyfarwydd â thrin hanesion llafar digidol. Ystyriwch sut y byddwch yn recriwtio cyfweleion ac unrhyw gostau cysylltiedig, er enghraifft cyhoeddusrwydd, stondinau mewn digwyddiadau, teithio i gwrdd â chysylltiadau newydd.
Bydd angen hefyd i chi gyllidebu ar gyfer unrhyw allbynnau rydych wedi'u cynllunio, megis arddangosfeydd, llwybrau sain, cyhoeddiadau neu ddigwyddiadau. Neilltuwch gyfran o gostau'r prosiect i werthuso.
Mwy o wybodaeth ac adnoddau
- Y Gymdeithas Hanes Llafar am gyngor cychwynnol, hyfforddiant, deunyddiau darllen defnyddiol, cysylltiadau lleol a rhanbarthol defnyddiol
- Mae gan Adran Hanes Llafar y Llyfrgell Brydeinig ddisgrifiadau o'i miloedd o recordiadau hanes llafar ar-lein a gallwch wrando ar y recordiadau hanes llafar ar-lein neu yn y Llyfrgell Brydeinig.
- Mae Archif Gwe y DU yn cadw gwefannau a rhywfaint o gyfryngau cymdeithasol.
Gweler hefyd:
The History of Women's Aid in Scotland

Heritage Grants
As part of this anniversary, SWA collected new oral histories of the women involved in the Women’s Aid movement, catalogued the archive and raised awareness with a wide range of people about the significance of Women’s Aid and the issue of violence against women. SWA received a grant of £305,400 to deliver the project.
As part of this anniversary, SWA:
- collected new oral histories of the women involved in the Women’s Aid movement
- catalogued the archive
- raised awareness with a wide range of people about the significance of Women’s Aid and the issue of violence against women
Strong partnerships between SWA, Glasgow Women’s Library, Women’s History Scotland and Glasgow University Centre for Gender History were combined with the active participation of local Women’s Aid groups and community supporters to make this project a success.
Volunteers were recruited and trained to collect the oral histories and to organise a touring exhibition, film, publication and events.
The National Lottery Heritage Fund has funded the archive of Glasgow Women’s Library and related heritage projects, including a focus on the contribution of Scottish women in the First World War, helping to build capacity and community expertise over a decade.
Making a difference
How the project achieved The National Lottery Heritage Fund’s outcomes for heritage:
- Previously uncollected oral histories are now on the record. The project enabled memories to be digitally recorded, preserving crucial social history for future generations. Respecting the confidentiality of women sharing personal and often sensitive histories involved all the partners in making careful, ethically informed decisions whilst highlighting vital, and all too often neglected, areas of women’s lives.
- Heritage was interpreted in new ways as a result of the partnership. While new to the heritage sector and unfamiliar with archives, Scottish Women’s Aid are extremely skilled in hearing complex, powerful experiences and taking action to improve women’s lives. Hundreds of visitors to the exhibitions, film and events programme recorded how profoundly moved they were to hear the experiences of these Scottish women.
How the project achieved The National Lottery Heritage Fund’s outcomes for people:
- Recognising the important role of volunteers in collecting oral histories, the History of Women’s Aid in Scotland project was successful in recognising that people volunteer for a wide range of reasons. These might include personal experience, political commitment and interests in widening social networks.
- Planning for flexible, clearly defined roles was crucial in prioritising the development of individual volunteers, as well as in delivering excellent heritage outcomes. The volunteers had an impact: “Eye-opening. During my visit I was approached by one of the wonderful women who WA has helped. An encounter I will never forget!” (Museum of Edinburgh)
- Visitors valued learning about the collection: “I have gained a much more informed understanding of domestic abuse and the issues surrounding it - thank you. Inspiring stories from the video and oral histories”. (Museum of Edinburgh) “It is good to see and hear about all the great work … and learn of the impact this makes on lives. Talking openly breaks barriers and reduces stigma”. (Aberdeen Central Library)
How the project achieved the National Lottery Heritage Fund’s outcomes for communities:
- A wider range of people engaged with heritage. Supported by local Women’s Aid Groups, the exhibitions toured libraries and museums, raising the profile of women’s history across Scotland.
- In particular, this project has led to closer links between younger and newer members of Women’s Aid groups and Women’s History Scotland, keen to work together to uncover and share more experience in the future.
Lesson learnt
Projects with substantial volunteer involvement require a dedicated project staff role, devoted to co-ordinating and prioritising the roles of volunteers. The experience of at least six volunteers who made life-changing decisions regarding careers, relationships and further education following involvement in this project is evidence of the high quality attention given to volunteer development.
Why communities are essential to sharing the stories of Pride

These significant and inclusive events raise the profile of all sorts of LGBT+ lived experiences, celebrate activism and build stronger alliances. They increasingly involve people of all ages, cultures and faiths in publicly sharing differing identities.
Alongside Stonewall’s 50th anniversary this summer, Pride is marking what has been achieved in tackling discrimination, and the work needed ahead to maintain and to improve these hard-won rights.
Committed to challenging inequalities
At The National Lottery Heritage Fund, our mandatory outcome to involve a wider range of people in heritage means LGBT+ heritage is core to our work as an inclusive and progressive funder, committed to challenging inequalities.
We are delighted to have supported over 130 imaginative LGBT+-led heritage projects.
These have varied from research on LGBT+ music venues and clubs to highlighting and promoting the often hidden social histories of LGBT+ individuals who have faced prejudice and fought for greater equality.
Projects bringing different generations together
This summer we're highlighting some of the wide-ranging projects led by organisations – from small local heritage groups to larger charities – involved in raising the profile of Pride across the UK.
In particular, we’ll focus on some of the opportunities for intergenerational sharing which came up as so important in our very popular live chat last summer.
Who's Queer Now?

Pride Cymru's Who’s Queer Now? used "LGBT+ people’s love of the Doctor Who universe" as a way to bring people of all ages and identities together, through social media discussions.
These discussions were then used to inform an event which featured guest panellists including Russell T Davies, creator of latest Dr Who series, and Waris Hussein, director of the first ever episodes.
The project found that fantasy worlds, such as The Whoniverse, provide a space for people to explore, and be themselves.
- Find out more on the Pride Cymru website.
Lesbian Voices of Plymouth
Pride in Plymouth are leading the Lesbian Voices of Plymouth project, which is currently researching and sharing the experiences of LGBT+ women past and present. They hope to redress the imbalance of women in the historical record, starting with their own.
The ratio of women to men in Plymouth’s LGBT+ archive stood at 13% to 87% before the project started in February 2018.
We hear that through participating in this project, one woman has already gained a job in a heritage organisation, and the project still has a year to run!
- Follow the organisation's efforts on the Lesbian Voices of Plymouth website.
Pride in Kidderminster 2018-19

Kidderminster & District Youth Trust’s project brought together older and younger generations of the LGBT+ community to reflect on the changes, and the gains, that have happened throughout the 21st century.
It helped “bridge the gap between these generations to have a better understanding of LGBT+ history through personal stories and experiences” and helped forged mentor relationships.
The project produced a film that was presented at Wyred for Pride 2018 at Kidderminster Town Hall.
- Find out more on the Youth Trust website.
This is How We Got Here

The Proud Trust worked with 51 young people from youth clubs in Stockport, Wythenshawe and Manchester to uncover stories of LGBT+ activism and civil rights history from 1960 to 2000. The young people trained as oral historians, and then recorded personal stories shared by those who had been active in education, youth work and the Manchester gay scene years ago.
The stories – which dealt with key moments in personal and collective LGBT+ protest and liberation – were then turned into a book: Prejudice and Pride: LGBT Activist Stories from Manchester and Beyond.
- Watch films of the interviews on YouTube.
Pride in the Past 2017
Chester Pride led this exciting oral history work with the Grosvenor Museum – a collaboration between curator Liz Montgomery and LGBT+ community volunteers.
It resulted in a collection of LGBT+-related contemporary artefacts at the museum, and three staff tasked with acting as champions in sharing the collection more widely.
An exhibition in Chester Indoor Market and at the Grosvenor Museum attracted 6,500 visitors over LGBT+ History Month in February 2017.
What's next?
You can find all of the stories we're covering this summer on our LGBT+ Heritage page. And please do get in touch with us if you have an idea for a project.

