Dysgu i wrando - cynghorion ar gynnal cyfweliadau hanesion llafar da

Dysgu i wrando - cynghorion ar gynnal cyfweliadau hanesion llafar da

Man in blue shirt
Mae cofnodi ein hanesion llafar yn rhan hanfodol o ddogfennu, deall a rhannu treftadaeth pobl gyffredin. Dyma Rob Perks o'r Gymdeithas Hanesion Llafar yn cynnig ei gyngor arbenigol.

Mae “hanesion llafar" yn gallu bod mor syml â gwrando ar rywun yn siarad am rywbeth y maen nhw wedi'i brofi. Ond bydd unrhyw un sydd wedi rhoi cynnig ar wneud hyn yn gwybod nad yw bob amser mor hawdd ag y mae'n swnio.

Dyma rai o fy mhrif bethau i feddwl amdanyn nhw:

Datblygwch eich sgiliau gwrando

Dydyn ni ddim i gyd yn dda iawn am wrando ac mae'n sgìl y gellir ei ddysgu a'i ddatblygu.

Mae haneswyr llafar profiadol yn gwrando heb dorri ar draws na barnu. Maen nhw hefyd yn gwrando ar lefelau gwahanol: nid yn unig i'r hyn a ddywedir ond yr hyn na ddywedir, maen nhw'n gwrando ar y tawelwch a’r hyn sy’n cael ei ailadrodd. Maen nhw hefyd yn gwrando ar y gwahaniaethau rhwng y naratif a'r myfyrdod. Dyma le mae rhywun nid yn unig yn dweud wrthych beth ddigwyddodd ond pam a sut maen nhw'n meddwl am y peth nawr.

Mae'r cof yn gymhleth, yn gyfoethog ac yn amlhaenog: mae dysgu gwrando yn hanfodol.

Ewch i'r afael â Thechnoleg

Mae dal a chadw'r hyn y mae pobl yn ei ddweud yn golygu bod rhaid i chi wybod sut i ddefnyddio recordydd sain digidol. Hyd yn oed os ydych yn ei wneud gyda ffôn symudol yn unig, mae angen i chi wybod sut i gael y sain â’r ansawdd gorau.

Mae hefyd yn bwysig cofnodi mewn fformat ffeil y gellir ei rannu'n hawdd gyda'r person y gwnaethoch ei gyfweld a hefyd ei archifo fel y gall eraill ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae’n rhaid i chi ddeall yr offer yr ydych yn ei ddefnyddio i recordio er mwyn sicrhau eich bod chi a’r person yr ydych yn ei gyfweld yn ymlacio’n well.

Mae llawer o gyngor ar gael yn y drafodaeth yma.

Children recording interviewsCronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Glasgow’s African Tales: An oral history of African traditions

Gwnewch eich gwaith ymchwil

Mae'r prosiectau hanesion llafar gorau yn meddwl yn ofalus am bwy i gyfweld â nhw ac yn paru'r cyfwelwyr yn ofalus â'r bobl y maen nhw’n mynd i'w cyfweld.

Os ydych yn cyfweld mwy nag ychydig o aelodau agos o'ch teulu, bydd angen i chi wneud ychydig o waith ymchwil cefndirol.

Sicrhewch eich bod yn siarad â thrawstoriad da o bobl: gwahanol ryw, oed, ethnigrwydd, syniadau a barn.

Mae cyfweliadau mwy manwl gyda llai o bobl yn well na chyfweliadau byr gyda llawer o bobl. Wrth i chi dreulio fwy o amser gyda phobl, byddwch yn adnabod ac ymddiried eich gilydd yn well, a bydd hyn yn arwain at gyfweliad gwell.

Tawelu meddyliau pobl

Cyn i chi ddechrau ar y gwaith o recordio hanes llafar, mae'n bwysig egluro i'r person rydych chi'n mynd i gyfweld â nhw:

  • taw eu cyfrifoldeb nhw yw’r hyn y maen nhw’n ei ddweud
  • does dim rhaid iddyn nhw ateb eich holl gwestiynau os nad ydyn nhw eisiau
  • mae modd iddyn nhw ddod â’r cyfweliad i ben ar unrhyw adeg

Mae'n bwysig bod pobl yn teimlo’n gyfforddus i siarad, yn enwedig os yw'n bwnc anodd neu emosiynol. Dylen nhw ddeall beth rydych chi'n mynd i'w wneud â'u recordiad (a'u data personol) wedyn. Mae hyn yn golygu gofyn iddyn nhw lenwi ffurflenni fel bod y ddau ohonoch yn cytuno.

Cewch ragor o fanylion am hyn ar wefan y Gymdeithas Hanes Llafar.

Ysgrifennwch nodiadau

Mae’r hyn sy’n digwydd ar ôl gorffen y cyfweliad cyn bwysiced â'r cyfweliad ei hun.

Ar ôl ychydig o gyfweliadau, fyddwch chi ddim yn gallu cofio beth gafodd ei drafod yn y rhai blaenorol, ac mae gwrando ar bob un yn cymryd llawer o amser, felly mae rhyw fath o grynodeb o’r cynnwys yn ddefnyddiol.

Bydd hyn hefyd yn eich galluogi i gymharu'r hyn a ddywedwyd mewn llawer o gyfweliadau: yr hyn yr oedd pobl yn cytuno neu'n anghytuno â nhw, ble y gwnaethant sôn am themâu a straeon tebyg.

Mae hyn yn ddefnyddiol pan fyddwch yn dod i greu gwefan, arddangosfa neu gyhoeddiad yn seiliedig ar sawl cyfweliad.

Darganfyddwch fwy

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am hanesion llafar ar wefan y Gymdeithas Hanesion Llafar. Maen nhw hefyd yn cynnal cyrsiau hyfforddi ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...