Dychwelyd i fyd treftadaeth newydd

Dychwelyd i fyd treftadaeth newydd

Ros Kerslake
Wrth i'n Prif Swyddog Gweithredol Ros Kerslake ddychwelyd i'r gwaith ar ôl chwe mis o salwch, mae'n myfyrio ar yr heriau personol y mae wedi'u goresgyn, a'r hyn y mae'r sector treftadaeth yn ei wynebu bellach.

Heddiw, yw fy ail niwrnod yn ôl yn y gwaith ar ôl gorfod rhoi fy mywyd ar stop yn sydyn ym mis Tachwedd 2019. Chwe mis yn ôl, allan o unlle, cefais ddiagnosis o Lewcemia Myeloid Aciwt.

Ond, os yw'n bosibl bod yn lwcus wrth gael canser, rwyf wedi bod (hyd yn hyn). Cefais ddiagnosis cyflym, gofal meddygol rhagorol gan holl staff y GIG yn y Royal Marsden, a chwblhawyd triniaeth ddwys yn llwyddiannus cyn dechrau'r coronafeirws (COVID-19). Yr wyf yn cydymdeimlo'n fawr iawn â'r rheini sy'n cael diagnosis neu mewn triniaeth ar hyn o bryd.

Diolch byth, rwyf bellach yn rhydd o ganser ac, er bod gen i lawer llai o wallt (sydd, o leiaf, yn ymarferol yn ystod yr ymbellhau cymdeithasol) rwyf fwy neu lai yn ôl i normal.

Ond nid yw'r byd, y gweithle, a'r sector treftadaeth yr wyf yn dychwelyd iddo, yn normal, wrth gwrs.

Wynebu'r argyfwng

Dyma'r argyfwng mwyaf yr wyf wedi ei weld yn fy oes.  Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae pawb yn y Gronfa Dreftadaeth wedi'i pharatoi i gefnogi pobl a sefydliadau sy'n gweithio ym maes treftadaeth ledled y DU.

O fewn dyddiau o symud ein holl staff, mwy na 300 i weithio gartref, arolygodd fy nhîm dros 1,000 o sefydliadau treftadaeth i ddeall effaith uniongyrchol coronafeirws (COVID-19). Gan ddefnyddio'r dystiolaeth yma, lansiwyd ein Cronfa Argyfwng Treftadaeth, gan gynnig grantiau brys rhwng £3,000 a £50,000. Yr ydym eisoes wedi cymeradwyo'r rownd gyntaf o geisiadau.

Rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn sgiliau digidol ar gyfer y sector, gan gydnabod pa mor bwysig fydd arbenigedd digidol mewn byd 'ymbellhau cymdeithasol'. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ein grantïon presennol drwy'r cyfnod anodd yma, gan roi mwy o hyblygrwydd iddynt ar daliadau grant a gwneud mwy na £31m o daliadau grant ym mis Ebrill.

Cam nesaf o gymorth ariannol

Rydym hefyd yn cydnabod y gall fod gan rai sefydliadau, yn enwedig atyniadau treftadaeth annibynnol sy'n ddibynnol iawn ar incwm ymwelwyr, lefel uwch o angen ariannol nag y gall ein cyllid brys cychwynnol ei gwmpasu.

Rwy'n falch o gyhoeddi felly – fel fy ngweithred gyntaf ers dychwelyd – elfen newydd i'n Cronfa Argyfwng Treftadaeth.

O fewn y Gronfa Argyfwng Treftadaeth bresennol, sy'n werth £50m, rydym yn creu ystod grant newydd o £50,000 – £250,000.

Bydd yr elfen newydd yma’n ein helpu i:

  • ymateb i achosion eithriadol o angen ar raddfa fwy
  • diogelu treftadaeth mewn perygl difrifol ar unwaith
  • ac, yn hollbwysig, diogelu'r dreftadaeth a all chwarae rhan allweddol yn adfywiad economaidd a chymunedol y DU o effeithiau coronafeirws (COVID-19)

Rydym yn datblygu'r manylion ar gyfer sut i wneud cais am y grantiau newydd hyn yn ystod yr wythnos i ddod. Byddwn yn mynd ati i gyfathrebu hyn pan fydd ceisiadau'n agored. Yn y cyfamser, gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Y dyfodol ar gyfer treftadaeth

Bydd y Gronfa Argyfwng Treftadaeth yn ein galluogi i helpu'r rhai mwyaf anghenus yn y tymor byr. Bydd ein cymorth anariannol, fel y buddsoddiad ychwanegol mewn sgiliau digidol, yn helpu llawer mwy o sefydliadau i addasu i ffyrdd newydd o weithio a bod mewn sefyllfa well i oroesi. 

Mae'r argyfwng yma, fodd bynnag, yn dod â heriau newydd ac unigryw.

Mae hyd yn oed sefydliadau treftadaeth sydd wedi creu ffrydiau incwm llwyddiannus yn agored i niwed. Bydd effaith y coronafeirws (COVID-19) yn anwastad – bydd y canlyniadau i rai cymunedau, rhanbarthau a mathau o sefydliadau yn llawer mwy arwyddocaol nag i eraill. Ac rwy'n cydnabod, er gwaethaf ein holl ymdrechion yn y Gronfa Dreftadaeth, mai'r ffaith anodd yw na fydd gennym yr adnoddau i helpu pawb. Mae rhai sefydliadau treftadaeth yn mynd i orfod ailfeddwl eu dyfodol. O ystyried yr ansicrwydd sy'n ein hwynebu, efallai y bydd yn rhaid i rai wneud hynny er gwaethaf eu hymdrechion eu hunain hyd yn oed os ydynt wedi cael cymorth gennym ni. Rydym yn byw drwy gyfnod anghyffredin, ac ni fyddwn ni – na'n sector creadigol hanfodol – yn edrych yr un fath eto. Ond mae pwysigrwydd sylfaenol treftadaeth ym mywydau pobl, y cyfraniad a wna i lesiant pobl, eu hymdeimlad o'u hunain a'u lle, yr angen i'w gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a'i gwerth fel cyflogwr ac i'r economi yn golygu bod yn rhaid i ni gyd gydweithio i sicrhau'r canlyniad gorau posibl. 

Felly, y tu hwnt i'r cymorth ariannu uniongyrchol yr ydym eisoes wedi'i lansio, rwy'n gweld ein rôl yn y Gronfa Dreftadaeth yn cefnogi'r sector treftadaeth i weithio drwy sut y bydd y dyfodol yn wahanol. Rhaid i hyn fod yn ymdrech ar y cyd, a byddwn yn gweithio gyda'r grŵp ehangaf o bartneriaid ac yn tynnu ar safbwyntiau gwahanol a newydd er mwyn ail-ddychmygu'r sector treftadaeth yn y dyfodol.

Safbwyntiau newydd

I ddechrau'r sgwrs, fis yma rydym yn lansio 'Treftadaeth y Dyfodol', cyfres o ddarnau barn o amrywiaeth o arweinwyr ar draws ein sector. Rydym yn gobeithio y bydd y safbwyntiau amrywiol hyn yn ysgogi meddwl, syniadau a dadl newydd am ddyfodol treftadaeth mewn byd ar ôl coronafeirws (COVID-19).

Mae pob un ohonom sy'n ymwneud â threftadaeth yn gwybod – y tu hwnt i'w gyfraniad economaidd – pa mor hanfodol bwysig ydyw. Bydd y manteision y mae'n eu sicrhau yr un mor bwysig ag yr edrychwn i'r dyfodol, os nad yn fwy felly, ond bydd angen i'n sector arloesi a chroesawu ffyrdd newydd o weithio er mwyn ffynnu.

Mae'n dirwedd anghyfarwydd yr wyf yn cael fy hun yn dychwelyd iddi, ond rwy'n falch iawn fy mod yn ôl ac yn gallu cyfrannu ar adeg pan fo cymaint y mae angen ei wneud.

Mae canser yn gwneud i chi stopio ac ailasesu eich bywyd. Dwi wedi dod allan y pen arall yn teimlo bod yr hyn rydyn ni fel sector yn ei wneud, a gwaith y Gronfa Dreftadaeth yn bwysicach nag erioed. Gan weithio gyda'n rhanddeiliaid, ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, Aelodau'r Pwyllgor a'm tîm, edrychaf ymlaen at fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r gymuned dreftadaeth. 

Yn y cyfamser, arhoswch yn saff a gofalwch am eich gilydd. Dwi'n gwybod pa mor bwysig yw cael cefnogaeth teulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod anghyffredin yma.