Cydnabod yr effaith rydych chi’n ei chreu gyda’n hariannu treftadaeth

Cydnabod yr effaith rydych chi’n ei chreu gyda’n hariannu treftadaeth

Eilish McGuinness
Mae ein Prif Weithredwr yn dathlu gwaith cymunedau sy'n amddiffyn, rhannu ac ailddychmygu ein treftadaeth amrywiol ar draws y DU.

Dwy flynedd sydd wedi mynd heibio bellach ers i ni gyflwyno ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033. Wedi'i lunio yn sgil ymgynghori helaeth ac yn ymatebol i'r hinsawdd heriol a bythol newidiol sydd ohoni, mae wedi caniatáu i'r rhai ohonoch sy'n gofalu am dreftadaeth ddiwallu anghenion treftadaeth amrywiol mewn cymunedau ar draws y DU gydag uchelgais ac ymdeimlad o arloesedd.  

Rwy'n falch o allu adrodd ein bod wedi ymrwymo £481 miliwn i 1,051 o brosiectau hyd yma o dan Treftadaeth 2033. Bydd pob prosiect yn gwneud gwahaniaeth i bobl a lleoedd, ac yn dathlu treftadaeth unigryw a chysylltiedig Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, o ganolfannau trefol a chymunedau gwledig i dirweddau gwyllt.

Rydym hefyd wedi lansio pum menter strategol gyda gwerth cyfunol o £385m i fynd i'r afael â heriau treftadaeth ar raddfa fawr, datblygu syniadau newydd ar garlam a phontio bylchau yn ein grantiau. Mae'r mentrau hyn yn golygu y gallwn ymateb i heriau penodol gydag atebion ariannu penodol. Rwy'n falch iawn o ddweud eu bod eisoes yn dangos eu heffaith. Er enghraifft, drwy Landscape Connections yn Yr Alban, mae partneriaeth o wyth sefydliad yn cysylltu tirweddau arfordirol ar hyd Moryd Solway. Yng Nghymru, mae Llwybrau i'r Gorffennol – prosiect yng Nghastell-nedd Port Talbot, un o'n Lleoedd Treftadaeth – yn cefnogi sefydliadau treftadaeth i ddod o hyd i wirfoddolwyr newydd o gymunedau mwy amrywiol a’u cadw. Mae ein Menter Addoldai yn cefnogi Eglwys Lloegr i ehangu ei Chynllun Grantiau Cadwraeth i ariannu atgyweiriadau i adeiladau, gwarchod rhannau mewnol a hyfforddi cenhedlaeth newydd o arbenigwyr crefftau treftadaeth. Ac ar draws y DU rydym yn helpu i wella catalogio a rhannu casgliadau drwy Archives Revealed

A woman and a young girl examining creatures collected in shallow water with the sea in the background
Mae partneriaeth o wyth sefydliad yn cysylltu tirweddau arfordirol o amgylch Firth Solway.

Yn fwyaf diweddar, ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd grantiau ac achrediad fel rhan o Trefi a Dinasoedd Natur. Ymhlith y derbynyddion mae Belfast, lle bydd cynllun a ddyluniwyd ar y cyd yn hyrwyddo adferiad byd natur ar draws y ddinas a'r ardaloedd cyfagos, fel Parc Rhanbarthol amhrisiadwy Dyffryn Lagan a Bryniau Belfast. Ac mae Birmingham bellach yn Ddinas Natur achrededig gyntaf y DU, gan gydnabod ei hymrwymiad bod natur yn hawl, nid yn fraint. Rydym yn cyflwyno'r fenter strategol hon mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England, ac yn gweithio'n agos gyda NatureScot, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon. Mynnwch gip ar y wefan bwrpasol lle rydym yn rhannu adnoddau a chyfleoedd newydd.

Treftadaeth sy'n bwysig – yn lleol

Mae Treftadaeth 2033 wedi'i hadeiladu ar egwyddor gwneud penderfyniadau datganoledig, lleol o gwmpas fframwaith o bedair egwyddor fuddsoddi. Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o geisiadau o bob maint yn dod drwodd sy'n cysylltu pobl â threftadaeth ac ar yr un pryd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu a chyfranogiad cymunedol. 

Er enghraifft, nid yn unig y mae Eglwys Plwyf All Saints yn Antrim yn atgyweirio ei thŵr rhestredig Gradd A, mae hefyd yn creu buddion amgylcheddol hirdymor trwy blannu coed a blodau gwyllt a gosod blychau adar. Hefyd, mae'r eglwys yn cynllunio amrywiaeth o weithgareddau i ennyn diddordeb y gymuned leol a denu ymwelwyr, a fydd yn gwella ei chynaladwyedd hirdymor ac yn cyfrannu at yr economi leol.

Mae Pioneer Sailing Trust yn Brightlingsea yn darparu cyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc ddysgu sgiliau adfer a chynnal a chadw cychod treftadaeth. Bydd y llongau wedi'u hadfer yn eu tro yn cynyddu gallu'r Ymddiriedolaeth i helpu'r gymuned i brofi'r dŵr, natur a threftadaeth. Mae ein hariannu hefyd yn cefnogi gosod pwyntiau gwefru ynni solar adnewyddadwy a datblygu cynnig dysgu digidol. 

A box full of slim boxes with writing on them, housing radio show tapes
Piccadilly Radio.

Ym Manceinion, rydym yn cynorthwyo Piccadilly Radio, un o orsafoedd radio masnachol cyntaf y DU, i ddigideiddio dros 1,800 o dapiau rîl-i-rîl sy'n cofnodi momentau allweddol mewn hanes - o ddyfodiad pync i ymweliad y Pab Ioan Pawl II â Pharc Heaton. Bydd y prosiect hefyd yn casglu hanesion llafar am etifeddiaeth yr orsaf ac yn hyrwyddo hygyrchedd ei chasgliad gyda hyfforddiant ar bodlediadau.

Yng Nghymru, bydd ein buddsoddiad mawr yn Amgueddfa Lechi Cymru, yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol, yn gweld ailddatblygiad ei gweithdy Fictoraidd rhestredig Gradd I a chreu mannau arddangos a dysgu newydd i ennyn diddordeb y gymuned ac ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd yn well. Bydd ein hariannu hefyd yn ei helpu i wella hygyrchedd a darparu cyfleoedd trwy gyflogaeth, lleoliadau gwaith i fyfyrwyr a hyfforddiant mewn sgiliau treftadaeth draddodiadol.

A man givign a demonstration of slate cutting in front of a large seated crowd
Amgueddfa Lechi Cymru, yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol. Llun: Amgueddfa Cymru.

Ein hymrwymiad i dreftadaeth i bawb

Ond yng nghanol y newyddion cadarnhaol am y prosiectau ysbrydoledig hyn, rwy'n gwybod bod heriau hefyd. Rwy'n parhau i glywed gan lawer ohonoch chi – ac rydych chi'n rhoi gwybod ni drwy ein harolygon Calon Treftadaeth y DU – am gostau cynyddol, niferoedd ymwelwyr sy’n amrywio a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar eich cyllidebau a’ch cynllunio. 

Rwyf am eich sicrhau ein bod yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi prosiectau sy'n dangos hyblygrwydd a chynaladwyedd hirdymor. O dan Treftadaeth 2033 yn unig, rydym wedi buddsoddi dros £172m i gefnogi sefydliadau yr oedd meithrin cydnerthedd yn ganolog i'w nodau. Rydym hefyd wedi darparu cynnydd hanfodol mewn grantiau i helpu mwy na 200 o brosiectau i addasu cynlluniau yn wyneb heriau annisgwyl. 

Roeddwn yng Nghaerlŷr gyda'n Bwrdd Ymddiriedolwyr yn gynharach eleni a gwelais o lygad y ffynnon yr effaith y gall ein hariannu hyblyg ac ymatebol ei chael ar le. Rydym wedi buddsoddi £31m yn y ddinas, gan gynnwys gydag Eglwys Gadeiriol Caerlŷr yn 2019, i greu canolfan treftadaeth a dysgu newydd i groesawu nifer cynyddol o ymwelwyr â bedd Rhisiart III. Oherwydd oedi o ganlyniad i'r pandemig, a darganfod gweddillion dynol yn ystod y gwaith adeiladu, roedd eu costau'n fwy na'r amcangyfrifon cychwynnol. Mewn ymgynghoriad â'r prosiect – a wnaeth godi ei gyfraniad a thorri costau – darparwyd cefnogaeth ychwanegol, gan gynyddu ein cyfanswm dyfarniad i £6m a chreu etifeddiaeth barhaol a phrydferth yng nghanol y ddinas. Ym mis Mehefin, agorodd yr Eglwys Gadeiriol ei hestyniad newydd, gan wireddu ei gweledigaeth o fod yn gyrchfan dreftadaeth allweddol a chreu cyfleoedd i'r ddinas ehangach. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at weld yr effaith y bydd y gofod dysgu yn ei chael wrth ennyn diddordeb plant lleol yn hanes syfrdanol y ddinas hon.

A group of school children sitting on the grass outside Leicester Cathedral
Eglwys Gadeiriol Caerlŷr

Mae treftadaeth yn perthyn i ni i gyd, a gyda'n gilydd, gallwn sicrhau ein bod yn ei gwerthfawrogi, yn gofalu amdani ac yn ei chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at gefnogi mwy o brosiectau treftadaeth ysbrydoledig, sy'n parhau i gael effaith ar bobl, lleoedd ac economïau. 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...