Calon Treftadaeth y DU – dweud eich dweud

Calon Treftadaeth y DU – dweud eich dweud

Tom Walters
Ein Pennaeth Ymchwil, Data a Mewnwelediad ar sut y bydd ein prosiect ymchwil cydweithredol newydd yn helpu'r Gronfa Treftadaeth a'r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw. 

Rydym yn newid y ffordd rydym yn cynnal ymchwil. Fel ariannwr treftadaeth mwyaf y DU, rydym am sicrhau bod popeth a wnawn yn sail i farn a phrofiad y rhai sy'n gweithio ym maes treftadaeth.

Yn y cyfnod hollbwysig hwn i'r sector, mae eich mewnwelediad yn bwysicach nag erioed. 

I wneud hyn, rydym wedi sefydlu Calon Treftadaeth y DU. Drwy arolygon cyflym ar-lein gallwch ddweud eich barn yn uniongyrchol am y blaenoriaethau ar gyfer treftadaeth.  

Mae wedi bod yn wych gweld mwy na 400 o sefydliadau'n cofrestru ers i ni lansio'r prosiect yma ychydig wythnosau'n ôl. 

Gwrando ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud

Efallai y bydd fy mhroffesiwn yn fy ngwneud ychydig yn rhagfarnllyd, ond nid wyf yn credu ei bod yn or-ddweud fod yr ymchwil – a'r data a'r mewnwelediad y mae'n eu darparu – yn un o'n dulliau pwysicaf yn y Gronfa Treftadaeth.

Nid oes dim byd mwy gwerthfawr na phrofiad a safbwyntiau uniongyrchol y rhai ohonoch sy'n gweithio ar reng flaen y sector

Nid oes dim byd mwy gwerthfawr na phrofiad a barn uniongyrchol y rhai ohonoch sy'n gweithio ar reng flaen y sector i'n helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen arno a sut y dylem gyfeirio ein cyllid a'n eiriolaeth. 

Dim ond y chi sy'n gallu dweud wrthym: 

  • pa gymorth oedd fwyaf allweddol i helpu eich sefydliad i oroesi'r argyfwng coronafeirws, a pha gymorth pellach sydd ei angen arnoch i barhau i wella a ffynnu eto 
  • sut, ac ym mha niferoedd, y mae ymwelwyr yn dychwelyd i atyniadau treftadaeth a'r mesurau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel ac yn parhau i ddod yn ôl 
  • sut mae pryder cymdeithasol ynghylch yr argyfwng hinsawdd ac anghydraddoldeb hil yn effeithio ar y bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw, y bobl sy'n ymweld â'ch treftadaeth neu'n ymgysylltu â nhw, yn ogystal â'ch ymdrechion i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd 

Bydd ein harolygon chwarterol Calon Treftadaeth y DU yn ymdrin â'r holl bynciau hyn a mwy. A bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn bwydo'n uniongyrchol i ddatblygu ein strategaeth a'n dulliau ariannu newydd. Bydd hefyd yn ein helpu i siarad am dreftadaeth ledled y DU a'i phwysigrwydd hanfodol i leoedd, pobl a chymunedau.

Cefnogi amrywiaeth treftadaeth y DU

Dyna pam mae'n bwysig bod ein panel ymchwil yn cynrychioli ehangder treftadaeth. 

Os ydych yn rheoli neu'n cefnogi unrhyw fath o dreftadaeth yn y DU, rydym am glywed gennych. 

P'un a yw eich sefydliad yn fach neu'n fawr, p'un a ydych yn gweithio gyda threftadaeth adeiledig neu naturiol, p'un a ydych yn cadw gwrthrychau, straeon neu rywogaethau, rydym am glywed gennych. 

Gallwch hefyd ein helpu drwy rannu'r blog yma, neu'r cysylltiad â Chalon Treftadaeth y DU, gyda'ch cyfoedion yn y sector – a fydd yn sicrhau bod y prosiect arloesol yma'n adlewyrchu ac yn cynnwys amrywiaeth treftadaeth y DU yn gywir. 

Effaith Calon Treftadaeth y DU

Rydym wedi cynllunio Calon Treftadaeth y DU i sicrhau ei fod o fudd i bawb sy'n cymryd rhan. Bydd y safbwyntiau a'r profiadau a rannwch yn amhrisiadwy wrth lunio dyfodol cyllid a strategaeth treftadaeth yn y Gronfa Treftadaeth, a'n sefydliadau partner. 

Bydd y mewnwelediad gan Calon Treftadaeth y DU yn llywio ein blaenoriaethau ar gyfer gweddill ein Fframwaith Ariannu Strategol ac yn ein helpu i ddatblygu ein strategaeth hirdymor nesaf hefyd. Bydd yn golygu bod gennym y dystiolaeth ddiweddaraf o'r sector wrth law wrth wneud penderfyniadau polisi ariannu ac eirioli dros fanteision treftadaeth. Ond bydd y canlyniadau o fudd i'ch sefydliad hefyd.  

Ar ôl i bob arolwg gau, cewch fynediad cynnar i'r canfyddiadau drwy weminarau a blogiau, gyda mewnwelediadau ymarferol y gallwch eu defnyddio. 

Dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt, byddwn yn dibynnu ar Galon Treftadaeth y DU i gael cipolwg ar yr adferiad o un o'r trafferthion mwyaf yn hanes ein sector.

Bydd Calon Treftadaeth y DU hefyd yn helpu i leihau nifer o arolygon untro. Ar ôl i chi gofrestru, gofynnir i chi gwblhau set fer iawn o gwestiynau am eich sefydliad. Byddwn ond yn gofyn i chi lenwi'r manylion hyn unwaith. A byddwn yn rhoi gwybod i chi am bynciau'r arolwg ymlaen llaw fel y gallwch benderfynu pa rai rydych am gymryd rhan ynddynt. Bydd yr arolwg cyntaf yn agor yn gynnar yn 2022. 

Dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt, byddwn yn dibynnu ar Galon Treftadaeth y DU i gael cipolwg ar yr adferiad o un o'r trafferthion mwyaf yn hanes ein sector. 

Nid yw eich barn erioed wedi bod yn bwysicach. Gyda'n gilydd gallwn sicrhau bod treftadaeth yn parhau i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.      

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...