Jiwbilî Platinwm y Frenhines, Gorffennaf 2022

Jiwbilî Platinwm y Frenhines, Gorffennaf 2022

Rhestr o benderfyniadau ar gyfer ceisiadau a nodwyd o fuddsoddiad y Jiwbilî gwerth £7 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Rydym yn gweithio gyda dosbarthwyr y Loteri Genedlaethol i nodi carreg filltir Jiwbilî Platinwm y Frenhines ac i gyflwyno etifeddiaeth gref i dirwedd, natur a chymunedau. Mae'r rhain yn flaenoriaethau allweddol yn ein Fframwaith Ariannu Strategol 2019–2024.

Rydym yn defnyddio ein pŵer deisyfu dim ond lle mae'n amlwg mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni un o'n hamcanion strategol. Ac, lle mae'r broses arferol o dderbyn ceisiadau digymell yn annhebygol o arwain at ganlyniad llwyddiannus o gwbl neu o ansawdd digonol.

Yn yr achos yma, nodwyd mai deisyfu ceisiadau oedd y ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni ein hamcanion strategol ledled y DU o fewn yr amserlen:

  • bydd yn mynd i’r afael â’n blaenoriaethau ar gyfer byd natur – cefnogi adferiad byd natur, darparu atebion sy’n seiliedig ar natur i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac ailgysylltu pobl â thirweddau a byd natur
  • bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth – gan gefnogi’r sector tir a natur i fod yn gynhwysol
  • bydd yr ardal leol yn lle gwell i fyw, gweithio neu ymweld
  • bydd pobl wedi datblygu sgiliau

Deisyfu ar gyfer buddsoddiad y Jiwbilî

Mae prosesau deisyfu ar wahân ar gyfer y ddwy elfen o fuddsoddiad Jiwbilî:

  1. Strand un: £5m i helpu cymunedau i wella natur ar garreg eu drws, yn enwedig mewn ardaloedd economaidd neu ddifreintiedig o ran natur. Gofynnwyd am gais gan Gymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, a ddyfarnwyd gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.
  2. Strand dau: £2m i ddarparu 70 o leoliadau gwaith â thâl newydd i bobl ifanc, gan helpu i arallgyfeirio'r sector natur. Dyfarnwyd arian i Groundwork gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn dilyn proses ddeisyfu gystadleuol.

Gwnaed y ceisiadau o dan raglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac fe'u haseswyd yn erbyn y briff undod.

Ar gyfer strand un, amlinellodd y briff yr angen i ddatblygu prosiect dwy flynedd a fyddai'n: 

  • cysylltu pobl â natur yn agos i'r man lle maent yn byw
  • sicrhau etifeddiaeth gref ar gyfer natur a chymunedau ledled y DU
  • grymuso a chefnogi pobl i gymryd camau i fod yn rhan o adferiad natur, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd
  • cyfoethogi bywyd gwyllt mewn cymdogaethau trefol a gwledig difreintiedig yn economaidd, lle gall pobl werthfawrogi natur yn amlwg fel rhan o'u cymuned
  • creu cyfleoedd ar gyfer astudiaethau achos amrywiol, creadigol a chynnwys ar gyfer cyfathrebu yn ystod blwyddyn jiwbilî Platinwm a thu hwnt
  • dangos effaith yn erbyn y canlyniadau a nodwyd: bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth, a bydd yr ardal leol yn lle gwell i fyw, gweithio neu ymweld 

Ar gyfer strand dau, gofynnodd y brîff am bartner cyflenwi ledled y DU i:

  • cymryd camau i arallgyfeirio'r gweithlu natur
  • rhoi cymorth i 70 o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol i weithio mewn sefydliadau tir a natur ledled y DU, gan adael etifeddiaeth i'r bobl ifanc a sefydliadau cynhaliol
  • creu cyfleoedd ar gyfer astudiaethau achos amrywiol, creadigol a chynnwys ar gyfer cyfathrebu yn ystod blwyddyn jiwbilî Platinwm a thu hwnt
  • dangos effaith yn erbyn y canlyniadau a nodwyd: bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth a bydd pobl wedi datblygu sgiliau

O ganlyniad i'r undod hwnnw, dyfarnwyd y grantiau canlynol, sef cyfanswm o £6,999,961:

Cymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt

Disgrifiad byr o'r prosiect: Bydd Nextdoor Nature yn grymuso pobl mewn 190 o ardaloedd trefol a gwledig difreintiedig yn economaidd i ymgymryd â micro-brosiectau sy’n helpu byd natur i ffynnu a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd Ymddiriedolaethau Natur ledled y DU yn gweithio gydag aelodau cymunedol pryderus – gan eu cefnogi i nodi a gweithredu camau lleol sy’n bwysig i’w cymuned – mewn ffyrdd sy’n iawn i’w cymuned.

Grant a ddyfarnwyd: £4,999,992

Groundwork

Disgrifiad byr o'r prosiect: Bydd Groundwork yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth y Tywysog, Disability Rights UK a Mission Diverse i greu o leiaf 70 o leoliadau gwaith â thâl 12 mis newydd. Bydd y lleoliadau llawn amser – sy'n cefnogi pobl ifanc 18–25 oed o gymunedau amrywiol – yn rolau yn y sector tirwedd a natur ledled y DU.

Bydd ein buddsoddiad yn darparu profiadau trawsnewidiol o ansawdd uchel i bobl ifanc, yn creu rhwydwaith cefnogol i hyrwyddo eu lleisiau a chefnogi'r sector i fod yn fwy cynhwysol ac amrywiol. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal tan fis Mai 2024.

Grant a ddyfarnwyd: £1,999,969