Cymru: penderfyniadau pwyllgor Medi 2023
Ceisiadau Rownd gyflwyno'r FfAS
Prosiect Adfer Marchnad Caerdydd
Ymgeisydd: Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd
Sir y Prosiect: Dinas Caerdydd
Crynodeb prosiect: Nod y prosiect 5 mlynedd yw adfer ac uwchraddio Marchnad Caerdydd hanesyddol, sydd wedi'i lleoli yng nghanol y ddinas.
Penderfyniad: DYFARNODD Pwyllgor Cymru grant o £2,091,500
Ceisiadau Rownd datblygu'r FfAS Rhif
Fens for all, for ever
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru
Sir y Prosiect: Ynys Môn
Crynodeb prosiect: Mae'r prosiect yn bwriadu mabwysiadu dull rheoli tirwedd dalgylch gan ddefnyddio 30 o Gynlluniau Gweithredu Safle mewn partneriaeth â thirfeddianwyr i fynd i'r afael â risgiau i'r dirwedd a achosir gan gynefinoedd sydd wedi diraddio a mynd yn fratiog, ansawdd dŵr ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae'n ceisio dod â sefydliadau statudol a gwirfoddol ynghyd mewn partneriaeth i wella iechyd ac ansawdd Corsydd Môn.
Penderfyniad: Cytunodd Pwyllgor Cymru fod y cais yn cynrychioli BLAENORIAETH UCHEL am gefnogaeth a DYFARNWYD grant datblygu o £362,691 (52.44% o gyfanswm y costau) gyda grant cyflwyno posib o £2,480,270.
Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru; Safeguarding the future through Resilience and Inclusivity
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru Cyfyngedig
Sir y Prosiect: Ceredigion a Sir Benfro
Crynodeb prosiect: Byddai'r prosiect yn creu cyfleusterau hollgynhwysol, yn uwchsgilio staff a gwirfoddolwyr trwy hyfforddiant EDI a chynnal gweithgareddau allgymorth ar gyfer cymunedau lleol.
Penderfyniad: Cytunodd Pwyllgor Cymru fod y cais yn cynrychioli BLAENORIAETH UCHEL am gefnogaeth a DYFARNWYD grant datblygu o £144,730 (90% o gyfanswm y costau) gyda grant cyflwyno posib o £2,276,161.
St Collen's Community Heritage and Visitor Experience 'Genesis' Project
Ymgeisydd: Cyngor Plwyf Eglwysig Ficer a Wardeiniaid Eglwys Llangollen.
Sir y Prosiect: Sir Ddinbych
Crynodeb prosiect: Byddai’r prosiect dwy flynedd yn gwneud gwaith adnewyddu cyfalaf ar adeilad Rhestredig Gradd I Eglwys Sant Collen yn Llangollen, Sir Ddinbych. Cefnogodd y prosiect gydnerthedd sefydliadol trwy wella cyfleusterau’r eglwys i ddarparu gofod mwy hyblyg y gellir ei addasu ar gyfer lletygarwch a digwyddiadau cymunedol, yn ogystal â man addoli.
Penderfyniad: Cytunodd Pwyllgor Cymru fod y cais yn cynrychioli BLAENORIAETH UCHEL am gefnogaeth a DYFARNWYD grant datblygu o £94,886 (84.37% o gyfanswm y costau) gyda grant cyflwyno posib o £464,886.