Cymru: cyfarfod dirprwyedig Hydref 2023

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Hydref 2023

Cyfarfod Dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru ar 3 Hydref 2023

Atodlen o Benderfyniadau


LLANFAIR COMMUNITY CLOCK

Ymgeisydd: FRIENDS OF THE LLANFAIR CLOCK, POWYS 

Disgrifiad o'r Prosiect: Hoffem adfer cloc treftadaeth nad yw'n gweithio bellach ac adfer  yr wyneb cloc pwysig sydd wedi'i leoli ar wal y tŵr allanol.

Penderfyniad: Gwrthod


Valleys Voices – A Living History/Lleisiau'r Cymoedd – Hanes byw

Ymgeisydd: Valleys Kids, RHONDDA CYNON TAF

Disgrifiad o'r Prosiect: Mae Valleys Kids, elusen adfywio a arweinir gan y gymuned gyda changhennau mewn llawer o gymunedau ar draws RhCT, mewn sefyllfa unigryw i gofnodi, hyrwyddo a rhannu storïau unigolion, teuluoedd, ac asiantaethau ar draws pob sector a strata mewn cymdeithas. Gyda'i gilydd, byddai'r rhain yn ffurfio hanes byw y cymoedd dros y 40 mlynedd diwethaf

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £240,900.00 (100%)


What Once Stood

Ymgeisydd: Cymdeithas Tai Linc Cymru, CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Disgrifiad o'r Prosiect; Ein huchelgais yw ennyn diddordeb y rhai sydd â chysylltiad emosiynol â’r ddau adeilad ysgol cyn iddynt gael eu dymchwel a grymuso’r gymuned ehangach i gael llais wrth warchod treftadaeth leol y safleoedd hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Penderfyniad: Gwrthod


Learning and Wellbeing

Ymgeisydd: Red Brand Media Ltd, SIR GÂR

Disgrifiad o'r Prosiect: Mae Learning and Wellbeing yn brosiect aml-bartneriaeth a fydd yn cyfuno cerdded ar hyd llwybr arfordirol y mileniwm o Ben-bre i Lanyfferi â dysgu am amddiffynfeydd yn erbyn goresgyniad o'r ail ryfel byd.

Penderfyniad: Gwrthod


Memories from the Dance Floor Cymru

Ymgeisydd: Memories from the Dance Floor CIC, CAERDYDD 

Disgrifiad o'r Prosiect: Mae Memories from the Dance Floor Cymru yn brosiect treftadaeth sain. Dyma ail gyfres arfaethedig y podlediad hynod lwyddiannus Memories from the Dance Floor.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £31,424.00 (100%)


MACHYNLLETH OLD STABLES/HEN STABLAU PHASE 1

Ymgeisydd: Cyngor Tref Machynlleth, POWYS

Disgrifiad o'r Prosiect: Y syniad trosgynnol yw troi baich cyhoeddus yn ased cyhoeddus, gwarchod adeilad gwerthfawr, cefnogi economi a lles y gymuned leol, a rhoi cyfle i bobl ymgysylltu â threftadaeth.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £214,171.00 (35.73%)


Amgueddfeydd ac Orielau Gogledd Cymru

Ymgeisydd: North Wales Tourism – Cwmni Twristiaeth Gogledd Cymru, CONWY

Disgrifiad o'r Prosiect: Ein syniad yw creu rhestr gynhwysfawr o amgueddfeydd ac orielau Gogledd Cymru a chynyddu ymwybyddiaeth ohonynt. Ein ffocws yw hyrwyddo'r safleoedd treftadaeth hyn i dwristiaid domestig a rhyngwladol, a hefyd i'r gymuned leol. Rydym wedi creu pamffled digidol cynhwysfawr sy'n arddangos ein holl amgueddfeydd ac orielau, rydym yn awr eisiau adeiladu ar y cam cyntaf hwn

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £8,100.00 (100%)


Menai Straits Community Heritage Sailing Project

Ymgeisydd: Menai Strait's Heritage Sailing, YNYS MÔN

Disgrifiad o'r Prosiect: Mae 3 prif elfen i'r Prosiect o fewn menter adeilad cymunedol, ddiwylliannol a threftadaeth drawsnewidiol, y credir bod ei nodau'n gweddu'n dda i amcanion allweddol Addysg/Hyfforddiant, Gwella Gwerth Treftadaeth, Gwella iechyd a lles cymunedol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol 

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £121,380.00 (73.73%) 


Further preservation of Llanelly House

Ymgeisydd: Llanelly House Trust Ltd, SIR GÂR

Disgrifiad o'r Prosiect: Ein syniad yw diogelu ein hadeilad, ei offer a’i systemau er mwyn lleihau ein hôl troed carbon a'n gwariant ac adfywio ein model busnes, gan greu cynllun busnes 5 mlynedd i gynyddu profiadau a niferoedd ymwelwyr wedi’u cynllunio ac achlysurol ac yn y pen draw ein hincwm i sicrhau atyniad treftadaeth ôl-Covid hyfyw.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £112,000.00 (100%)