Hanes ac atgofion Llanfyllin

Hanes ac atgofion Llanfyllin

A man standing on one leg on a bridge

15-Minute Heritage

LLANFYLLIN, Powys, canolbarth Cymru
Mencap Cymru
£6300
Mae prosiect 'Llanfyllin ni – ein Llanfyllin' yng nganolbarth Cymru yn cofnodi'r cyfraniad a wnaed gan bobl sy'n byw gydag anableddau dysgu i'w cymuned leol.

Mae'r prosiect yn grymuso pobl sy'n byw gydag anableddau dysgu yng nghefn gwlad Cymru – a allai fel arall deimlo'n anghlywedig gan gymdeithas – i adrodd eu straeon eu hunain am eu cysylltiadau a'u cyfraniadau i hanes Llanfyllin. 

Pobl ag anableddau dysgu yn ganolog i leoedd.

Mae'r prosiect, sy'n cael ei redeg gan Mencap Cymru, yn cefnogi 10 o bobl rhwng 20 a 75 oed o wasanaeth dydd yr elusen i gofnodi eu hatgofion a'u hanesion personol o’r dref. 

Mae'r storïwyr yn dewis lleoliadau lleol y mae ganddynt gysylltiad agos neu hanesyddol â nhw – fel y farchnad leol, yr ysgol gynradd neu'r caffi. Yna, mae staff cymorth Mencap Cymru yn mynd â nhw yno i gofnodi cyfweliadau.

Oherwydd cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) a'r angen i gadw pellter cymdeithasol, mae'r staff yn defnyddio meicroffonau lapel a llaw.

Bydd digwyddiad rhithwir ar ddiwedd y prosiect i rannu'r straeon gyda'r gymuned leol a dangos bod pobl ag anableddau dysgu yn ganolog i leoedd.

Bydd y straeon hefyd yn cael eu hychwanegu at wefan Casgliad y Werin Cymru, sy'n cadw straeon unigryw gan bobl bob dydd.