Peatland Progress: Gweledigaeth Newydd ar gyfer y Fens

Peatland Progress: Gweledigaeth Newydd ar gyfer y Fens

Long green grass and rushes surrounding water at Woodwalton Fen
Woodwalton Fen. Credit: Robert Enderby

Heritage Horizon Awards

Cambridgeshire
The Wildlife Trust for Bedfordshire, Cambridgeshire and Northamptonshire
£8832201
Rydym wedi dyfarnu mwy nag £8 miliwn i'r prosiect arloesol hwn sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, allyriadau carbon, colli bioamrywiaeth ac iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc.

Bydd un o'n Grantiau Treftadaeth Gorwelion, Peatland Progress yn dwyn ynghyd 'haneri' gogledd a de'r Fen Fawr i ddiogelu bioamrywiaeth. 

Mae'r prosiect yn cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Bedford, Swydd Gaergrawnt a Swydd Northampton, ac mae'n ymestyn arbrawf mawr cyntaf y DU mewn ffermio gwlyb. Bydd y dull cynaliadwy hwn yn cadw carbon dan glo, yn gwella ansawdd dŵr, yn trawsnewid y dirwedd ac yn sicrhau dyfodol pobl, priddoedd mawn a bywyd gwyllt yn y Fenau. 

Aerial view of the Great Fen with lakeGolygfa o'r awyr o'r Fen Fawr. Credyd: Harri Stanier

Bydd swyddi newydd, hyfforddiant ac amrywiaeth o weithgareddau cymunedol. Bydd y prosiect yn cysylltu pobl ifanc sy'n profi problemau iechyd meddwl â natur, gan roi'r hyder iddynt wybod y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.

Rydym am ddod â chymunedau i ganol y Fen Fawr, gan ddangos i bobl yr eir i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar garreg eu drws a'u grymuso i weithredu.

Kate Carver, Rheolwr Prosiect y Fen Fawr

Dywedodd Kate Carver, Rheolwr Prosiect Great Fen: "Mae ein prosiect yn mynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf y dydd ‒ newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a phryderon y genhedlaeth nesaf yn ein byd ar ôl Covid. Bydd Cynnydd Mawndiroedd yn dod â gwelliant gwirioneddol i fywydau pobl.

"Rydym am ddod â chymunedau i ganol y Fen Fawr, gan ddangos i bobl yr eir i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar garreg eu drws a'u grymuso i weithredu."