Proffil staff: Steve Henry, Rheolwr Ymgysylltu

Beth yw cyfrifoldebau eich rôl?
Rwy'n cynghori pobl ar eu syniadau prosiect a cheisiadau am ariannu. Llawer o fy ngwaith yw mynd allan i'r gymuned, gweithio gyda rhanddeiliaid, mynychu ffeiriau ariannu, a helpu creu cysylltiadau rhwng sefydliadau a chymunedau. Fy nod yw codi proffil pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud ac annog ceisiadau am grantiau. Gall cwrdd â phobl wyneb yn wyneb ac esbonio ein prosesau olygu bod gwneud cais am ariannu'n fwy hygyrch ac yn llai brawychus, yn enwedig i gymunedau sydd heb eu gwasanaethau'n ddigonol.
Beth ydych chi'n ei fwynhau am weithio yma?
Mae fy nghydweithwyr yn wych. Mae cymaint o wybodaeth yn fewnol. Rwy'n teimlo fy mod i'n rhan o gylch dysgu cyson a chynyddol, gan ddysgu gwersi o'r gorffennol i wella ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Rydyn ni'n esblygu drwy'r amser. Mae bod allan a gweithio gyda chymunedau hefyd yn hynod o ddiddorol, gweld sut y gall ein hariannu wneud gwahaniaeth mor fawr i dreftadaeth a'r cymunedau sy'n ei rhannu.
Pa ran o'ch swydd sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i chi?
Pan fydda i'n codi yn y bore, y peth cyntaf dw i'n ei feddwl yw “iawn, amser i helpu!”. Rwy'n teimlo bod gen i bwrpas wrth helpu rhywun i gael y grant sydd ei angen arnyn nhw, sy'n golygu gwneud cymunedau'n gryfach ac yn y pen draw, gwarchod treftadaeth nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Beth sy'n eich cymell chi yn y gwaith?
Y bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw. Rwyf wrth fy modd yn clywed am yr holl syniadau prosiect a'r prosiectau gwych rydyn ni'n eu hariannu a'r bobl sy'n creu ac yn cyflwyno'r prosiectau hyn yw'r ysbrydoliaeth wirioneddol. Rwy'n arbennig o hoff o weithio ar brosiectau treftadaeth naturiol ac archaeoleg. Rwyf wedi gweld y gall archaeoleg chwarae rôl ganolog wrth warchod bywyd gwyllt a byd natur ac mae hynny'n gymhelliant gwirioneddol.
Beth yw uchafbwynt eich amser yn y Gronfa Treftadaeth?
Mae'n anodd dewis un peth gan fod fy rôl mor amrywiol. Er enghraifft, heddiw dechreuais drwy siarad â grŵp treftadaeth ieuenctid a'r prynhawn 'ma bydda i'n siarad â phrosiect tirwedd am ddiogelu natur. Mae angen llawer o sgiliau gwahanol ac rwy'n caru hynny am fy swydd. Un o'r uchafbwyntiau diweddar oedd mynychu Cynhadledd Tirweddau Cenedlaethol yng Nghaerwynt gyda chydweithwyr o'r Gronfa Treftadaeth; cynifer o bobl ysbrydoledig a chyfle gwych i gysylltu pobl a phrosiectau â'n hariannu ni.
Beth yw eich hoff fath o dreftadaeth?
Fy angerdd yw treftadaeth naturiol ac archaeoleg, felly, prosiectau ar raddfa tirweddau. Un prosiect rwy'n ei garu'n wirioneddol yw Lower Ure Conservation Trust. Maen nhw wedi defnyddio archaeoleg i lywio eu cynllun hamdden cynefinoedd, sydd wedi gweithio rhyfeddodau i'r safle, ac maen nhw wedi datblygu cymuned go iawn o gwmpas eu gwarchodfa natur.