Cymru: penderfyniadau pwyllgor Mawrth 2024

Cymru: penderfyniadau pwyllgor Mawrth 2024

Rhestr o Benderfyniadau a wnaed gan Bwyllgor Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri ar 19 Mawrth 2024.

Ceisiadau Rownd Gyflwyno'r FfAS

Wales Residents Engaging in Arts, Culture and Heritage (Wales REACH)

Ymgeisydd: Y Brifysgol Agored

Sir y Prosiect: Morgannwg

Crynodeb Prosiect: Nod y prosiect 2 flynedd dan arweiniad y gymuned yw cefnogi pobl mewn pum cymuned ymylol ledled Cymru i ymgysylltu â threftadaeth leol drwy gelfyddydau creadigol. Byddai pum Rhaglen Dysgu Treftadaeth Gynhwysol wedi'u teilwra'n cael eu darparu yn seiliedig ar anghenion pob cymuned sy'n cymryd rhan.  

Penderfyniad: DYFARNODD Pwyllgor Cymru grant o £382,797 (72.14% o'r cyfanswm cost)

 

Ceisiadau Rownd ddatblygu'r FfAS

Vitality from the Vyrnwy

Ymgeisydd: Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd

Sir y Prosiect: Powys

Crynodeb Prosiect: Mae’r prosiect yn bwriadu mynd i’r afael â gwaith atgyweirio brys i Draphont Ddŵr Efyrnwy yng nghefn gwlad Powys a gweithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol i gyd-greu gweithgareddau treftadaeth a lles newydd.

Penderfyniad: Cytunodd Pwyllgor Cymru fod y cais yn cynrychioli BLAENORIAETH UCHEL am gefnogaeth a DYFARNWYD grant datblygu o £255,956 (61.24% o gyfanswm y costau) gyda grant cyflwyno posib o £2,103,680.


Clywed (Heard) A Working Title

Ymgeisydd: Cymdeithas Clybiau Ieuenctid Cymru

Sir y Prosiect: Abertawe

Crynodeb o'r Prosiect: Pwrpas y prosiect yw archwilio, cofnodi, recordio a lledaenu treftadaeth ac atgofion ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mewnfudwyr sy'n byw ar draws Cymru.

Penderfyniad: WRTHOD

 

21st Century Church

Ymgeisydd: 21st Century Church

Sir y Prosiect: Sir Gâr

Crynodeb Prosiect: Mae'r prosiect yn bwriadu achub ac adfer capel Siloah fel cartref i weithgareddau a chefnogaeth gymunedol, gan ei wneud yn addas at y diben ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Penderfyniad: Cytunodd Pwyllgor Cymru fod y cais yn cynrychioli BLAENORIAETH UCHEL am gefnogaeth a DYFARNWYD grant datblygu o £127,868 (88.78% o gyfanswm y costau) gyda grant cyflwyno posib o £621,726.

 

Our Living Levels: A sustainable future for the Gwent Levels

Ymgeisydd: Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)

Sir y Prosiect: Casnewydd / Gwent

Crynodeb o'r Prosiect: Mae’r prosiect am sicrhau dyfodol cynaliadwy a llewyrchus i Wastadeddau Gwent trwy feithrin ei chydnabyddiaeth fel tirwedd unigryw yng Nghymru sy’n gyfoethog mewn bywyd gwyllt, hanes, a ffermio cynhyrchiol, trwy gadwraeth gynhwysfawr, gwell bioamrywiaeth, a chyfranogiad cymunedol ymgysylltiedig.

Penderfyniad: Cytunodd Pwyllgor Cymru fod y cais yn cynrychioli BLAENORIAETH UCHEL am gefnogaeth a DYFARNWYD grant datblygu o £451,374 (85.89% o gyfanswm y costau) gyda grant cyflwyno posib o £2,194,969.