Cymru: cyfarfod dirprwyedig Rhagfyr 2023

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Rhagfyr 2023

Cyfarfod Dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru ar 5 Rhagfyr 2023.

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Adfer Capel Jerusalem

Ymgeisydd: The Trustees of Jerusalem Chapel Pembrey, known as Jerusalem Independent Chapel / Eglwys Annibynnol Jerusalem

Crynodeb Prosiect: Bwriad y prosiect hwn yw trwsio a chynnal y capel a’r festri fawr.

Penderfyniad: Gwrthod

Beyond Canary girls!

Ymgeisydd: Renew Mind Centre CIC

Crynodeb o'r Prosiect: Bwriad y prosiect un flwyddyn hwn yw creu rhaglen ddogfen i adrodd hanes menywod a weithiodd mewn ffatrïoedd arfau yn ne Cymru ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf fel y Ffatri Ordinhadau Frenhinol yn Glascoed ger Pont-y-pŵl. Bydd y prosiect yn defnyddio ymchwil archif i ymchwilio i’w bywydau, eu hamodau gwaith ac effaith rhyddid ariannol ar y ddeinameg gymdeithasol ehangach.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £44,864 (100%)

What Once Stood

Ymgeisydd: Cymdeithas Tai Linc Cymru Cyf

Crynodeb Prosiect: Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar warchod treftadaeth gymunedol dau adeilad yng Nghastell-nedd Port Talbot. Byddant yn datblygu rhaglen weithgareddau sy'n canolbwyntio ar gofnodi a choladu agweddau ffisegol ar yr adeiladau eu hunain, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid yn y gymuned i ddod â phobl ynghyd i rannu a chofnodi atgofion, hanesion llafar, ffotograffau a chofbethau eraill sy'n gysylltiedig â'r adeiladau.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £164,964 (92.7%)

St Mary's Priory Clock and Tower Project

Ymgeisydd: Chepstow Priory Friends

Crynodeb Prosiect: Atgyweirio ac adnewyddu Eglwys y Priordy Normanaidd.

Penderfyniad: Gwrthod

#HPCanal Connections/Cysylltiadau Camlesi

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Crynodeb Prosiect: Comisiynu astudiaeth ddichonoldeb i gyfeirio gwerthusiad opsiynau cyffredinol ar gyfer adfer Camlesi Nedd a Thennant. Eu nod yw i Gwm Nedd ddod yn adnabyddus fel cyrchfan treftadaeth ac awyr agored, i'w fwynhau gan drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o ££113,850 (90%)

Caru Cwmcelyn

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Crynodeb Prosiect: Adfer a gwella Pyllau Cwmcelyn, gwarchodfa natur a man gwyrdd cymunedol sydd wedi’i leoli o amgylch hen bwll bwydo pwll glo yng nghwm Ebwy Fach, Blaenau Gwent.

Penderfyniad: Gwrthod

History of the Savoy Theatre

Ymgeisydd: The Monmouth Savoy Trust

Crynodeb Prosiect: Ysgrifennu llyfr am hanes y theatr.

Penderfyniad: Gwrthod

Culture Matters

Ymgeisydd: The Mentor Ring Ltd

Crynodeb Prosiect: Bydd y prosiect yn ddathliad o dreftadaeth De Asia a hanesion a straeon diwylliannol cymunedau Prydeinig a De Asia ar y cyd yng Nghaerdydd. Nod y prosiect yw meithrin dealltwriaeth ddyfnach a chytgord ymhlith cymunedau trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithdai, teithiau a chreu archif treftadaeth ddigidol.

Penderfyniad: Gwrthod

Greenhill Gardens

Ymgeisydd: The Hill Church Swansea

Crynodeb Prosiect: Byddai'r prosiect hwn yn dod â safle mynwent sydd ar hyn o bryd yn segur yn fyw. Er bod yr adeilad rhestredig Gradd II yn gadarn, ni fydd safle'r ardd ond yn dadfeilio ymhellach wrth i amser fynd rhagddo, gan golli mwy o'r dreftadaeth y tu mewn iddi. Mae gan y prosiect y potensial i adrodd straeon heb eu hadrodd a darparu man gwyrdd trefol hanfodol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £211,203 (85%)

Coming together in Craig Gwladus

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Crynodeb Prosiect: Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gadwraeth ac adfer treftadaeth naturiol ac adeiledig yng Nghoed Craig Gwladus. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gweithgareddau sy'n ceisio gwella cyfleusterau a mynediad.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £238,217 (89%)

Cardiff City 1927 and Wales programme collection

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar Ran Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Crynodeb Prosiect: Nod y prosiect hwn yw ehangu Casgliad Pêl-droed Cymru ar gyfer Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd wedi ymrwymo i ddod yn Amgueddfa Bêl-droed i Gymru. Bydd y prosiect yn caffael casgliad o gofbethau pêl-droed, yn ymwneud â buddugoliaeth Cwpan FA Dinas Caerdydd 1927 a gemau rhyngwladol dynion hŷn Cymru rhwng 1900 a 1946.

Penderfyniad: Gwrthod

Cynnydd Grant

Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Penderfyniad: Cynnydd yn y grant o £250,000 i wneud cyfanswm grant o £1,024,900