Penderfyniadau Pwyllgor Cymru Mehefin 2023

Penderfyniadau Pwyllgor Cymru Mehefin 2023

Rhestr o Benderfyniadau a wnaed gan Bwyllgor Cymru, 8 Mehefin 2023.

Ceisiadau rownd gyflwyno'r FfAS

Natur Am Byth! - Adfer rhywogaethau dan fygythiad yng Nghymru / Saving Wales' threatened species

Ymgeisydd: Cyfoeth Naturiol Cymru

Crynodeb o'r prosiect: bydd y bartneriaeth Natur am Byth! yn cyflwyno prosiect 4 blynedd i ysbrydoli a grymuso cymunedau, busnesau a thirfeddianwyr yng Nghymru i wella ffawd rhywogaethau a chynefinoedd glas/gwyrdd dan fygythiad trwy ailgysylltu pobl â natur.

Penderfyniad: dyfarnu grant cyflwyno o £4,160,388 (52% o'r cyfanswm costau)

Ceisiadau rownd ddatblygu'r FfAS

Parc yr Esgob Walled Garden Restoration and Multi-functional Space

Ymgeisydd: Tywi Gateway Trust

Crynodeb o'r prosiect: adfer gardd gegin gaerog Parc yr Esgob/Bishop's Park er mwyn cadw a gwarchod nodweddion hanesyddol sydd wedi goroesi, a chreu gofod amlbwrpas a fydd yn galluogi cyflwyno amrywiaeth o wasanaethau iechyd a lles, addysgol, hyfforddiant a chymunedol.

Penderfyniad: dyfarnu grant datblygu o £203,858, (77% o'r cyfanswm costau) gyda grant cyflwyno posib o £898,454

Llefa'r Cerrig Stones Shout Out

Ymgeisydd: Bangor Diocesan Board of Finance Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor

Crynodeb o'r prosiect: mae'r prosiect yn canolbwyntio ar atgyweirio, gwarchod a chynaladwyedd pum Eglwys Gradd 1 rhestredig ar draws Gogledd-orllewin Cymru o fewn Esgobaeth Bangor.

Penderfyniad: gwrthod

Tabernacle Morriston Community Resilience Hub

Ymgeisydd: Tabernacle Morriston Congregation

Crynodeb o'r prosiect: mae'r prosiect yn seiliedig ar Gapel Tabernacl Gradd I rhestredig sydd wedi'i leoli yn Nhreforys, Abertawe, ac mae'r ymgeisydd yn gwneud cais am arian ar gyfer ail gam cynllun datblygu cynaladwyedd ehangach gan gynnwys datblygu cyfleuster a arweinir gan y gymuned.

Penderfyniad: dyfarnu grant datblygu o £260,424, (92% o'r cyfanswm costau) gyda grant cyflwyno posib o £1,545,089

Community Amongst our River Environment (CARE)

Ymgeisydd: Afonydd Cymru Cyfyngedig

Crynodeb o'r prosiect: prosiect Cymru gyfan 2 flynedd i sefydlu Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ym mhob un o'r 6 ymddiriedolaeth afonydd ranbarthol yng Nghymru i helpu i sefydlu grwpiau gwirfoddol "Mabwysiadu Llednant" i fonitro a rheoli afonydd yn eu hardal.

Penderfyniad: gwrthod