Cymru: cyfarfod dirprwyedig Gor 2023

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Gor 2023

Cyfarfod Dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru ar 4 Gor 2023.

Atodlen o Benderfyniadau

Girls, Girls, Girls

Ymgeisydd: Theatr3

Crynodeb Prosiect: Mae'r prosiect hwn am gofnodi profiadau cyn-fyfyrwyr Ysgol Gyfun yn ne Cymru a dogfennu'r adeilad cyn iddo gael ei ddymchwel.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £8,950 (100%)

Artes Mundi 10: Ein Hiraeth AM10: Perspectives from Home

Ymgeisydd: Artes Mundi Prize Limited

Crynodeb Prosiect:  Cyfres o weithdai cyd-gynhyrchu cymunedol ledled Cymru yn archwilio ac yn gosod treftadaeth leol o fewn cyd-destunau byd-eang.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £99,100 (84%)

Llangunllo Telephone Box

Ymgeisydd: Cyngor Cymuned Llangunllo

Crynodeb Prosiect: Adfer blwch ffôn coch o deyrnasiad y Brenin Siôr V a leolir yn Llangunllo, Cymru.

Penderfyniad: Gwrthod

#DYC Reimagine Nantclwyd y Dre

Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych

Crynodeb Prosiect: Helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Nantclwyd y Dre, ail dŷ tref hynaf Cymru â ffrâm pren, gyda rhannau o'r tŷ yn dyddio'n ôl i 1435.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £9,996 (100%)

The Great and The Good: Using archaeology to link generations

Ymgeisydd: Cymdeithas Hynafiaethau Cymru

Crynodeb Prosiect: Cofnodi atgofion a phrofiadau archaeolegwyr fu'n gweithio yng Nghymru yn ystod cyfnod o newid strwythurol mawr o'r 1960au hyd at 2000.

Penderfyniad: Gwrthod

Menai Strait's Heritage Sailing

Ymgeisydd: Menai Strait's Heritage Sailing

Crynodeb Prosiect: Prosiect 4 blynedd, yn dechrau ym mis Gorffennaf 2023, i adfer fflyd o gychod hwylio treftadaeth, a chreu adnoddau ymgysylltu ac addysg ynghylch lle'r cwch hwylio yn hanes morwrol Cymru

Penderfyniad: Gwrthod

Developing a resilient and sustainable network

Ymgeisydd: Cyswllt Amgylchedd Cymru

Crynodeb Prosiect: Nod y prosiect dwy flynedd hwn (a ddaw i ben fis Gorffennaf 2025) yw cynyddu cydnerthedd a chynaladwyedd Cyswllt Amgylchedd Cymru (WEL) trwy nifer o fentrau datblygu sefydliadol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £116,333 (100%)

Datgelu treftadaeth ddiwydiannol Abertawe a'r cyffiniau!

Ymgeisydd: Congolese Development Project

Crynodeb Prosiect: Ymchwilio i orffennol diwydiannol Abertawe a'i chylch, i leoli'r gwahanol weithfeydd mewn amser a gofod gan ddefnyddio mapiau a ffotograffau hanesyddol, a nodi'r olion sy'n weddill heddiw. 

Penderfyniad: Gwrthod

Adopt a Tributary / Mabwysiadu llednant

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru

Crynodeb Prosiect: Prosiect 13 mis, sy'n rhedeg rhwng Medi 2023 a Hydref 2024, yn canolbwyntio ar gynnal a gwella amgylchedd yr afonydd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £77,255 (100%)

Dementia Actif Môn

Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn

Crynodeb Prosiect: Prosiect i ddatblygu gardd synhwyraidd a chynefin bywyd gwyllt ar gyfer y gymuned ar diroedd Canolfan Hamdden Plas Arthur.

Penderfyniad: Gwrthod

Menywod a Chwaraeon: Cymru  Women and Sport: Cymru

Ymgeisydd: Archif Menywod Cymru / Women's Archive of Wales

Crynodeb Prosiect: Prosiect dwy flynedd, yn dechrau ym mis Hydref 2023, sydd â'r nod o ddiogelu treftadaeth campau menywod yng Nghymru.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £72,875 (99%)