Cymru: cyfarfod dirprwyedig Mehefin 2023

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Mehefin 2023

Cyfarfod Dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru ar 6 Mehefin 2023.

Atodlen o Benderfyniadau

Community dialect project

Ymgeisydd: Gower Unearthed CIC

Crynodeb o'r prosiect: Creu geiriadur peilot o dafodiaith y Mwmbwls gan gynnwys enwau lleoedd llafar a mapiau sy'n cymharu'r cymunedau o fewn y Mwmbwls ei hun. Y geiriadur fydd y cyntaf o'i fath yn gwahaniaethu Mwmbwls o dafodiaith Gŵyr ac yn esbonio dylanwadau masnach a thwristiaeth.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £10,000 (100%)

Taibach Community Education: Past to Present

Ymgeisydd: Community Ventures Port Talbot CIC

Crynodeb o'r prosiect : Esbonio treftadaeth Canolfan Addysg Gymunedol Tai-bach i bobl leol ac ymwelwyr a helpu i ddiogelu'r adeilad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £195,012 (90.28%)

Cryfhau'r Gymuned/ Strengthening the Community

Ymgeisydd: Outside Lives Ltd

Crynodeb o'r prosiect: Ariannu i baratoi cynllun strategol fel cyfarwyddyd wrth ehangu gwaith y fenter gymdeithasol, o bosib gan gymryd ail adeilad ymlaen, ac ehangu'r gwaith a wneir er mwyn ymateb i alw cynyddol, a gynhyrchwyd yn rhannol gan y pandemig.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £10,000 (100%)

Our Stories: Collecting the oral histories of the Chinese community in Wales

Ymgeisydd: Chinese In Wales Association

Crynodeb o'r prosiect: Prosiect Cymru gyfan sydd â'r nod o gofnodi profiadau mudwyr Tsieineaidd cenhedlaeth 1af i Gymru. Nod y prosiect yw cofnodi straeon Henuriaid y gymuned a'u harddangos trwy gasgliad o hanesion llafar wedi'u ffilmio sydd i gael eu rhannu'n ddigidol a thrwy arddangosfa yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £99,968 (100%)

St Michael and All Angels Church Tower Repair Project

Ymgeisydd: Eglwys St Michaels Machen

Crynodeb o'r prosiect: Mae Eglwys St Michael & All Angels, Machen yn cynnig prosiect pum mis i ymgymryd â rhaglen atgyweirio ar yr adeilad rhestredig Gradd II* hwn ym Machen Isaf, Gorllewin Casnewydd.

Penderfyniad: Gwrthod

Then & Now: Exploring the Lives of Blind People in Wales

Ymgeisydd: UCAN Productions

Crynodeb o'r prosiect: Prosiect rhwng y cenedlaethau sy'n archwilio hanes pobl ddall ac â golwg rhannol, a'r bobl a'r sefydliadau sydd wedi chwarae rhan annatod wrth wella bywydau pobl ddall yng Nghymru o'r 1800au cynnar hyd heddiw.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £9,933 (100%)

Machynlleth Old Stables/Hen Stablau Phase 1

Ymgeisydd: Cyngor Tref Machynlleth

Crynodeb o'r prosiect: prosiect 12 mis a fyddai'n gam cyntaf mewn rhaglen i adfer a newid defnydd adeiladau i drawsnewid yr Hen Stablau Rhestredig Gradd II i'w defnyddio gan y cyhoedd.

Penderfyniad: Gwrthod

#DYC - Plants Past, Present and Future

Ymgeisydd: National Botanic Garden of Wales - Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Crynodeb o'r prosiect: Creu "catalog" digidol o'r llysieufa a gynhelir yn y Gerddi.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £249,985 (100%)

Buckholt Bryngaer Pilot

Ymgeisydd: Buckholt Bryngaer CIC

Crynodeb o'r prosiect: Dechrau i'r broses o ddatgelu a gwarchod bryngaer o Oes yr Haearn a saif yng nghornel dde-orllewinol coedwig Buckholt, ennyn diddordeb y gymuned leol yn y fryngaer a threialu rhaglen beilot o weithgareddau.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £10,000 (100%)