
Ers mis Rhagfyr 2024 mae hi wedi bod yn Brif Weithredwr Cadeirlan Ripon. Cyn hyn bu'n Brif Weithredwr Urban Green Newcastle, elusen annibynnol a sefydlwyd i reoli 33 parc a 60 safle rhandir y ddinas, ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol Historic Coventry Trust, gan ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gynnal lleoedd hanesyddol ac ysbrydoli, cynnwys a chysylltu pobl â hanes y ddinas.
Archeolegydd oedd Carol wrth ei hyfforddiant, ac roedd ganddi yrfa uwch yn English Heritage a Historic England, lle'r oedd hi'n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio ac yn aelod o'r tîm Gweithredol. Mae ganddi hanes blaenorol mewn prosiectau adfywio sy'n seiliedig ar leoedd ac mae'n angerddol dros rôl lleoedd lleol wrth feithrin balchder dinesig a chydlyniant cymunedol.
Mae Carol wedi bod yn Gomisiynydd Comisiwn Adeiladwaith Cadeirlannau Lloegr ac yn Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Eglwysi.
Mae hi wedi byw yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog ers dros 25 mlynedd.