Arweiniad i grantïon ar embargos a sancsiynau llywodraeth y DU

Arweiniad i grantïon ar embargos a sancsiynau llywodraeth y DU

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod am gydymffurfio â'ch contract grant a disgwyliadau llywodraeth y DU ar gyfer gwario arian cyhoeddus.

Fel corff hyd braich o lywodraeth y DU, rhaid i ni sicrhau na chaiff ein grantiau eu defnyddio i ariannu sefydliadau sy’n cefnogi eithafiaeth, gweithgarwch troseddol a/neu sy’n destun embargos a sancsiynau.

Mae'n un o delerau contractau grant ar draws ein holl raglenni ariannu (ar gyfer grantiau'r Loteri Genedlaethol a rhaglenni yr ydym yn eu gweinyddu ar ran cyrff eraill) bod yn rhaid i grantïon ddilyn yr holl ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n berthnasol i'w prosiect.

Dylech gyflawni eich diwydrwydd dyladwy eich hun ar unrhyw gronfeydd, contractau neu unigolion sy'n gysylltiedig â lleoedd a allai fod yn ddarostyngedig i embargos a sancsiynau llywodraeth y DU.

Os yw eich prosiect chi wedi'i effeithio, cysylltwch â'ch Rheolwr Buddsoddi neu eich swyddfa leol. Rydym yn cadw'r hawl i atal taliadau grant os ystyriwn fod arian cyhoeddus mewn perygl.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...