Adroddiad Gwerthuso Terfynol Cronfa Argyfwng Treftadaeth

Adroddiad Gwerthuso Terfynol Cronfa Argyfwng Treftadaeth

Mae'r adroddiad yma'n gwerthuso sut y defnyddiodd sefydliadau treftadaeth ledled y DU yr arian brys a ddarparwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gyflym mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), a'r effaith gadarnhaol y mae wedi'i chael ar y sector.

Ym mis Mawrth 2020 roeddem yn pryderu y byddai coronafeirws (COVID-19) yn cael effaith sylweddol ar dreftadaeth y DU ac yn datblygu ymateb i gefnogi sefydliadau sy'n gweithio ym maes treftadaeth.

Cafodd y Gronfa Argyfwng Treftadaeth (HEF) - a lansiwyd ym mis Ebrill 2020 - £49,829,600 ei ddyfarnu i 961 o sefydliadau treftadaeth i'w helpu i oroesi, adfer, arloesi ac ailagor.  

Mae pum elfen o'n hymateb i COVID-19 wedi'u cynnwys yn y gwerthusiad hwn:

  • Grantiau Argyfwng £3,000-£50,000
  • Grantiau Argyfwng £50,000-£250,000
  • hyblygrwydd ar gyfer grantiau cyfredol
  • cynnydd mewn grantiau
  • Cofrestr Cymorth Ymgynghorol y Gwasanaethau Cymorth (ROSS)

Nod y gwerthusiad hwn yw deall a oedd ein hymateb i COVID-19 yn diwallu anghenion sefydliadau sy'n gweithio yn y sector treftadaeth ac, wrth wneud hynny, wedi cyflawni'r tri chanlyniad a nodwyd - economi, cynhwysiant a llesiant - a nodir yn ein Fframwaith Ariannu Strategol

Lluniwyd yr adroddiad hwn gan Renaisi ar gyfer Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.