Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: £100,000 i £250,000

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: £100,000 i £250,000

Ariannu Grantiau o £100,000 i £250,000

Pwysig

Mae grantiau'r Loteri Genedlaethol ar gyfer treftadaeth ar gau i geisiadau newydd tan 2021. Darllenwch fwy am ein rhaglenni ariannu

Pwy all ymgeisio

Gallwch ymgeisio am grant o £100,000 i £250,000 os ydych yn:

  • sefydliad di-elw
  • partneriaeth dan arweiniad sefydliad di-elw

Sut i ymgeisio

Darllenwch y canllawiau hyn cyn i chi wneud cais am grant. Mae'r canllawiau'n dweud mwy wrthych chi am y rhaglen grant £100,000 i £250,000 a'r mathau o brosiectau y gallwn ni eu hariannu.

Os hoffech gymorth i ddatblygu eich syniad cyn i chi ddechrau eich cais llawn, gallwch gyflwyno ffurflen ymholiad prosiect.

  1. Darllenwch y dudalen yma

    Dilynwch y camau hyn a darllenwch y dudalen gyfan. Yn gyntaf, bydd angen i chi:

  2. Creu cyfrif

    Er mwyn ymgeisio bydd angen i chi ddefnyddio ein porth ymgeisio, os nad oes gennych gyfrif eto, bydd angen i chi:

  3. Penderfynu ar bryd i ymgeisio

    Mae'r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais wedi'u pennu ymlaen llaw.

    Cyflwynwch eich cais llawn drwy ein porth ymgeisio ar-lein erbyn:

    • 19 Tachwedd 2019, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Mawrth 2020
    • 2 Mawrth 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Mehefin 2020
    • 1 Mehefin 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Medi 2020
    • 1 Medi 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Rhagfyr 2020
    • 23 Tachwedd 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Mawrth 2021

    Sicrhewch bod dyddiad dechrau eich prosiect yn ddyddiad hwyrach na dyddiad y penderfyniad.

  4. Cynllunio eich cyfraniad ariannol

    Os ydych yn gwneud cais am rhwng £100,000 a £250,000 bydd angen i chi gyfrannu o leiaf 5% o gostau eich prosiect.

    Rydym yn disgrifio'r cyfraniad yma fel 'cyllid partneriaeth' ac nid oes rhaid iddo fod ar ffurf arian parod. Gweler ein canllawiau ymgeisio am fwy o fanylion.

  5. Ymgeisio am grant

    Byddwn yn asesu eich cais o fewn 12 wythnos ar ôl i chi ei gyflwyno. Ar ôl i ni asesu eich prosiect, caiff ei neilltuo i gyfarfod Pwyllgor chwarterol ar gyfer penderfyniad ffurfiol.

    Dogfennau i'ch cynorthwyo i ymgeisio

    I fwrw ati gyda'ch cais

    Menwgofnodwch i'n porth ymgeisio