Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai

Drwy gadwraeth, arddangosfeydd ac ymgysylltu â chymunedau, gallant ddod â chasgliadau, lleoedd a syniadau yn fyw. Maen nhw'n ein helpu i ddeall diwylliant, gwyddoniaeth a hanes, ac yn rhoi ymdeimlad o le, hunaniaeth a chymuned i ni.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 rydym wedi dyfarnu £2.5 biliwn i 6,000 o brosiectau seiliedig ar amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau ar draws y DU. Mae storïau o brosiectau rydyn ni wedi'u hariannu i'w gweld isod.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Rydyn ni'n rhoi grantiau o £10,000 i £10 miliwn ar gyfer prosiectau treftadaeth a arweinir gan neu sy'n cynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau.
Mae ein hariannu'n cefnogi sefydliadau mawr a bach, gan gynnwys:
- amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau cenedlaethol, awdurdod lleol ac annibynnol
- llyfrgelloedd hanesyddol
- archifau cymunedol a chasgliadau hanes llafar
- sefydliadau sydd â chasgliadau treftadaeth
Syniadau prosiect
Gallai ein hariannu helpu pobl i:
- greu mannau arddangos a dysgu newydd cyffrous
- denu cynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol
- caffael eitemau newydd a datblygu casgliadau
- gwella cydnerthedd sefydliadol
Am fwy o ysbrydoliaeth, gweler y storïau isod neu porwch y prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu.