Syr Peter Luff yn camu i lawr fel Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol

Syr Peter Luff yn camu i lawr fel Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol

Sir Peter Luff
Cyhoeddwyd heddiw y bydd Syr Peter Luff, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, yn camu i lawr ddiwedd 2019.

Gwnaed Syr Peter y penderfyniad am resymau'n ymwneud â'i gyflwr meddygol pan gafodd ddiagnosis o glefyd Parkinson y llynedd. Roedd disgwyl i’w ail dymor fel cadeirydd ddod i ben ym mis Mawrth 2021.

Dywedodd Syr Peter: "Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint aruthrol gwasanaethu fel Cadeirydd y Gronfa ac ymweld â phrosiectau ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig. Dro ar ôl tro, yr wyf wedi gweld sut y mae'r arian a godir o werthiant tocynnau'r Loteri Genedlaethol yn rym aruthrol dros dda, gan newid bywydau pobl a gwneud cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddyn nhw.

"Ar adeg pan fo hunaniaeth y genedl yn ganolog i ' r drafodaeth gyhoeddus, mae gwaith Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn bwysicach nag erioed, gan roi bywyd newydd i gysylltiadau hanes sy'n ein rhwymo ni i gyd gyda'n gilydd.  

"Rwyf wedi gwneud y penderfyniad yma’n gyfan gwbl am resymau personol sy'n gysylltiedig â'm clefyd Parkinson. Er y buaswn yn ffafrio gwasanaethu fy nhymor llawn yn fawr, mae’n amser da i roi'r awenau i gadair newydd. Rydym ar ddiwedd cyfres o newidiadau sylweddol i'r sefydliad, sydd wedi'i baratoi ar gyfer yr heriau newydd y mae'n eu hwynebu. Yn fwy datganoledig, yn fwy effeithlon ac yn fwy hyblyg yn ei gyllid, mae'r sefydliad wedi'i weddnewid gyda chynllun corfforaethol newydd, fframwaith ariannu newydd, strwythur newydd, hunaniaeth newydd a threfniadau llywodraethu newydd.

"Gwnaed hyn oll yn bosibl gan y berthynas ragorol yr ydym yn ei mwynhau gyda'n sefydliadau partner, bwrdd ymddiriedolwyr cryf ac effeithiol a staff brwdfrydig, dan arweiniad medrus ein Prif Weithredwr, sydd wedi llywio'r Gronfa Dreftadaeth drwy'r cyfnod yma o newid yn hyderus ac yn eglur. "

Three men diggingSyr Peter yn Bovington Tank Museu. Credyd: Jeff Gilbert

 

Penodwyd Syr Peter gan y Prif Weinidog yn Gadeirydd y Bwrdd sy’n cynnal Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am dymor o dair blynedd o 30 Mawrth 2015. Fe'i penodwyd am ail dymor ym Mawrth 2018.

Yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd, mae wedi hyrwyddo pwyslais o'r newydd ar gynhwysiad i waith y Gronfa, yn enwedig sicrhau bod pobl ifanc a'r rhai sydd wedi’u hallgáu yn gymdeithasol yn gallu archwilio, dathlu ac ymgysylltu â'r dreftadaeth sy'n bwysig iddyn nhw. 

Mae Syr Peter hefyd wedi goruchwylio cyfnod pan gynyddodd y Gronfa ei hymrwymiad i dreftadaeth naturiol y DU, gan ariannu prosiectau natur sylweddol iawn gan gynnwys Back from the Brink, sy’n anelu at arbed 20 o rywogaeth rhag diflannu a gwella'r rhagolygon gyda 200 o rywogaethau pellach.

Mae wedi cymryd diddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n dathlu llwyddiant gwyddonol a pheirianneg cenedlaethol y DU ac yn hyrwyddo'r angen i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o beirianwyr, fel yr Orielau Meddygaeth yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth, a fydd yn agor yn ddiweddarach eleni, a'r stori seryddiaeth radio yn y prosiect First Light yn Jodrell Bank. 

Fel Cadeirydd Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, mae Syr Peter wedi helpu i achub y rhai o dreftadaeth wirioneddol eiconig y DU, gan gynnwys Monarch of the Glen Edward Landseer.

Man with tankard

 

Dywedodd Ros Kerslake, Prif Weithredwraig Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae Syr Peter wedi bod yn Gadeirydd eithriadol ar y Gronfa, gan ddod â chynhesrwydd, hiwmor da ac angerdd a mewnwelediad gwirioneddol i dreftadaeth y DU.  Mae wedi llywyddu rhai o'r prosiectau mwyaf uchelgeisiol a phellgyrhaeddol a gyllidwyd gennym yn ein hanes o chwarter canrif, gan gynnwys archif newydd Cernyw yn Kresen Kernow yn Redruth, datblygiad Titanic Quarter yn Belfast, agoriad y Piece Hall yn Halifax a’r V&A Dundee yn ogystal â mwy na 2,000 o brosiectau sy'n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Rwy'n arbennig o ddiolchgar i Syr Peter am ei gefnogaeth yn ystod cyfnod o newid sylweddol i'r Gronfa, gan ein helpu i ddod yn fwy penodol, yn fwy datganoledig ac yn fwy effeithlon, a'n paratoi ar gyfer y 25 mlynedd nesaf o ddosbarthu arian o'r Loteri Genedlaethol."  

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Nicky Morgan: "Hoffwn ddiolch i Syr Peter Luff am ei waith caled wrth y llyw yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am y pedair blynedd diwethaf. Mae'r prosiectau y mae wedi'u goruchwylio yn ystod ei gyfnod yno, gan gynnwys Jodrell Bank, Tynnu’r Llwch a Newid Bywydau wedi bod yn allweddol wrth harneisio grym y dreftadaeth i wella bywydau pobl a chymunedau ledled y wlad."
Bydd Syr Peter yn sefyll i lawr fel Cadeirydd Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon, 31 Rhagfyr 2019.
Bydd y Gronfa'n gwneud trefniadau trosiannol, tra'r ydym yn chwilio am olynydd Syr Peter. Gwneir y penodiad yma’n unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff cyhoeddus.