Saith taith gerdded wanwynol i fwynhau’r Pasg hwn

Saith taith gerdded wanwynol i fwynhau’r Pasg hwn

The Iron Bridge
Mae gwyliau'r Pasg yn amser gwych i gael awyr iach! O draethau breuddwydiol i fynyddoedd ysblennydd, mae'r Loteri Genedlaethol wedi cefnogi mwy na 42,000 o brosiectau treftadaeth ledled y DU a fydd yn rhoi cyfle i chi ymestyn eich coesau.

Crwydro’r Causeway

Yn wynebu Cefnfor Gogledd Iwerydd, mae tirwedd o glogwyni dramatig yn aros amdanoch. Mae Sarn y Cedwri, sef unig safle treftadaeth y byd yng Ngogledd Iwerddon, yn gwahodd ymwelwyr i archwilio un o'i bedwar llwybr cerdded cyffrous. I'r rheini sy'n teimlo'n anturus, ceir taith gerdded heriol o 5 milltir gyda golygfeydd syfrdanol o’r clogwyn.

The Giants Caseway

Dro bach ar y traeth

Mae arfordir Jurasig yn Nyfnaint a Dorset yn annog ymwelwyr i gerdded trwy 185 miliwn mlynedd o hanes daearegol. Mae'r safle treftadaeth byd yma’n cynnig gweithgareddau sy'n ystyriol o deuluoedd fel hela ffosilau a fydd yn rhoi digon i chi wneud yn ystod gwyliau'r Pasg.

 

The Jurassic Coast

Ymlwybro drwy’r parc

Efallai mai Parc Cenedlaethol Northumberland fydd y lle perffaith i'r rhai sy'n chwilio am rywle i grwydro. Mae llwybrau cerdded amrywiol yn cyflwyno ymwelwyr i safleoedd gwahanol, gan gynnwys adfeilion Mur Hadrian, heneb Rufeinig fwyaf Ewrop sydd wedi goroesi a Safle Treftadaeth y Byd.

 

Hadrian's Wall

Fforio’r fforest

Gall y rhai sy'n chwilio am antur ymweld â choedwig Epping. Mae nifer o lwybrau cerdded wedi'u lleoli rhwng Llundain ac Essex, sy'n galluogi ymwelwyr i archwilio 2,400 hectar o goetir hynafol. Ar eich pen eich hun neu gyda'ch teulu, bydd yn ddiwrnod gwych!

Epping Forest

Awyr iach yn yr ardd

Nid oes gwanwyn heb flodau! Mae cael crwydro drwy Gerddi Caerog Dumfries House yn yr Alban yn ddewis perffaith i deuluoedd sydd â phlant ifanc. Gallwch gerdded trwy filoedd o welyâu blodau, a cherdded drwy dŷ gwledig godidog Palladian ac archwilio drysfa ysblennydd Dumfries.

Dumfries House and Garden

Croesi’r afon

Cerddwch mewn ôl traed hanesyddol ym Mhont Haearn , un o'r safleoedd sy'n symbol o ddechrau'r chwyldro diwydiannol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Yno, gallwch hefyd gerdded ar draws afon hardd Hafren, un o'r afonydd hiraf yn y DU. Mae sawl gweithgaredd sy'n addas i'r teulu cyfan a fydd yn gwneud eich ymweliad yn hwyl ac yn addysgiadol.

The Iron Bridge

Lle i enaid gael llonydd

Eryri yw’r parc cenedlaethol mwyaf yng Nghymru, sydd hefyd yn gartref i'r Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Mae gan Eryri lawer o lwybrau cerdded gyda golygfeydd godidog o’r parc. Ewch ar daith a thorrwch chwys ar ôl yr holl wledda dros y Pasg!

Snowdonia