Enwebwch eich ‘arwyr’ treftadaeth am wobr Loteri Genedlaethol

Enwebwch eich ‘arwyr’ treftadaeth am wobr Loteri Genedlaethol

People gathered with awards
2019's National Lottery Award winners
Mae'r Loteri Genedlaethol yn chwilio am arwyr y cyfyngiadau symud yn y DU fel rhan o wobrau'r Loteri Genedlaethol eleni – pwy fyddwch chi'n eu henwebu?

Ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi gwneud ymdrech arwrol i gefnogi treftadaeth o dan gyfyngiadau symud? Enwebwch nhw am wobr Loteri Genedlaethol!

Eleni, bydd y Loteri Genedlaethol yn chwilio am brosiectau mwyaf poblogaidd yn y DU, ac am y tro cyntaf erioed, bydd yn anrhydeddu unigolion sydd wedi cael effaith anhygoel yn eu cymuned, yn enwedig y rhai sydd wedi addasu yn ystod pandemig COVID-19.

"Yn awr, yn fwy nag erioed, mae pobl wedi dwyn ynghyd, ac mae unigolion wedi camu i'r adwy i gyflawni gweithredoedd ysbrydoledig ac ymdrechion eithriadol i helpu cymunedau mewn dinasoedd, trefi a phentrefi ar hyd a lled y wlad."

Jonathan Tuchner, Cyfarwyddwr Uned Hyrwyddo'r Loteri Genedlaethol

Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £3,000 i’w sefydliad a thlws gwobrau'r Loteri Genedlaethol.

Six people holding award
Back from the Brink gyda'u gwobr Loteri Genedlaethol yn 2019 ar gyfer y prosiect treftadaeth gorau

 

Cydnabod gweithredoedd ysbrydoledig

Mae Jonathan Tuchner o’r Loteri Genedlaethol yn annog pobl ar draws y DU i gyflwyno eu henwebiadau. Dywedodd: "yn awr, yn fwy nag erioed, mae pobl wedi uno, ac mae unigolion wedi camu i'r adwy i gyflawni gweithredoedd ysbrydoledig ac ymdrechion eithriadol i helpu cymunedau mewn dinasoedd, trefi a phentrefi ar hyd a lled y wlad.

"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae hyd at £600 miliwn ar gael i gefnogi cymunedau ledled y DU yng nghanol argyfwng coronafeirws. Mae pobl wedi defnyddio arian y Loteri Genedlaethol mewn ffyrdd anhygoel yn ystod y cyfnod heriol yma. Rydym am eu hanrhydeddu fel rhan o wobrau'r Loteri Genedlaethol eleni."

Sut i enwebu

Gellir gwneud enwebiadau ar draws saith categori, gan gynnwys treftadaeth. Bydd gwobr Arwr Ifanc Arbennig i rywun o dan 18 oed sydd wedi mynd y filltir ychwanegol yn eu sefydliad.

Er mwyn enwebu, trydarwch @LottoGoodCauses gyda'ch awgrymiadau neu ewch i wefan y Loteri Genedlaethol. Rhaid derbyn enwebiadau erbyn hanner nos ar 19 Awst 2020.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...