Elusennau: ymgeisiwch nawr ar gyfer ymgyrch arian cyfatebol The Big Give

Elusennau: ymgeisiwch nawr ar gyfer ymgyrch arian cyfatebol The Big Give

The Big Give week begins on #GivingTuesday
Yn ystod y Nadolig eleni, bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhoi £250,000 i gynorthwyo elusennau treftadaeth i godi o leiaf £1miliwn.

Rydym yn un o hyrwyddwyr her Nadolig The Big Give, sef yr ymgyrch arian cyfatebol ar-lein fwyaf yn y DU, lle bydd pob un o'r £1 a fuddsoddwn yn helpu i godi o leiaf £4 ar gyfer elusennau dethol.

Bydd yr Her Nadolig yn cael ei chynnal rhwng 3 Rhagfyr - sef #DyddMawrthRhoi, neu #GivingTuesday – tan 10 Rhagfyr 2019.

Mae ein buddsoddiad yn rhan o'n hymrwymiad i feithrin gallu a chadernid yn y sector treftadaeth drwy helpu sefydliadau i ddatblygu ffrydiau incwm cyfredol a thyfiant.

Dywedodd 94% o'r elusennau a gymerodd ran yn her y Nadolig y llynedd fod yr ymgyrch wedi’u helpu i ddenu rhoddwyr newydd, a dywedodd 63% bod eu noddwyr presennol wedi rhoi mwy o arian.

Diddordeb mewn cymryd rhan?

Mae'r ceisiadau ar agor nawr tan 12 Gorffennaf i elusennau gyflwyno manylion eu prosiectau a'u targedau codi arian.

Rhaid i ymgeiswyr:

  • fod yn elusen gofrestredig yn y DU
  • cael o leiaf un flwyddyn o gyfrifon wedi'u ffeilio
  • gael isafswm incwm blynyddol o £25,000

Ar ôl i elusennau gyflwyno eu cais, mae'n bryd dechrau siarad â chefnogwyr allweddol – rhoddwyr mawr, ymddiriedolwyr, a busnesau lleol – i gasglu addewidion, neu addewidion cyllid, a fydd yn cyfrannu at gronfa o arian cyfatebol.

Mae’n rhaid i'r ymgeisydd godi o leiaf £1,000 mewn addunedau, hyd at uchafswm o £25,000.

Bydd yr addunedau hyn, ynghyd â'n cyfraniad ni, yn mynd tuag at ddyblu'r holl roddion ar-lein a wneir i elusennau dethol drwy TheBigGive.org.uk o 3-10 Rhagfyr, hyd nes y defnyddir y pot o arian i gyd.

Gall elusennau barhau i dderbyn rhoddion ar ôl i'r pot cyfatebol fod yn wag, a bydd y codwyr arian mwyaf llwyddiannus yn cael eu henwebu ar gyfer gwobrau The Big Give.

Dywedodd Alex Day, Cyfarwyddwr The Big Give: "Rydym yn falch iawn o gael Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhan o’r ymgyrch. Bydd y cyllid y maen nhw’n ei ddarparu nid yn unig yn helpu i gefnogi elusennau'n ariannol, ond hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw adeiladu eu sgiliau a'u profiad o godi arian drwy ddulliau digidol, ac felly'n eu helpu i fod yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.  "

I ddarganfod mwy, ac ymgeisio, ewch i wefan The Big Give.