Dau ar bymtheg o sefydliadau i brofi dulliau arloesol o oresgyn heriau'r gweithlu treftadaeth

Dau ar bymtheg o sefydliadau i brofi dulliau arloesol o oresgyn heriau'r gweithlu treftadaeth

Yn ail gam ein rhaglen beilot tri cham y Gronfa Arloesedd Treftadaeth, bydd derbynyddion grantiau'n datblygu atebion i broblemau cyffredin sy'n wynebu'r sector treftadaeth.

Rydym wedi dyfarnu £1.17miliwn i ddetholiad o'n carfan arloesi wreiddiol i fynd â'u syniadau i'r lefel nesaf.

Rydym am helpu i wneud y sector treftadaeth yn fwy cynaliadwy, cynhwysol ac addas ar gyfer y dyfodol. Mae’r 17 sefydliad hyn yn profi dulliau o wneud hynny: o recriwtio a chadw gwirfoddolwyr a phrinder sgiliau treftadaeth, i ddenu pobl ifanc i'r sector a gwella cynhyrchion a chapasiti digidol.

Rwyf wrth fy modd â gweld yr 17 prosiect hyn yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Rwy'n gyffrous i weld yr hyn y byddant yn ei ddatblygu nesaf.

Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Sut rydym yn cefnogi arloesedd

Mae pob sefydliad yn derbyn rhwng £50,000 a £75,000 i gefnogi aelod o staff i neilltuo 9-12 mis i'r broses brofi. Byddant yn cydweithio mewn carfan a fydd yn cynorthwyo ei gilydd ar eu taith arloesi. Ar yr un pryd, bydd unigolion yn dechrau rhoi eu hatebion gweithlu ar waith yn eu sefydliadau.

Rydym yn ymuno â Sefydliad Young i gyflwyno profiad y garfan. Byddant yn darparu dysgu strwythuredig i brofi atebion prototeip i'r heriau gweithlu amrywiol, ochr yn ochr â dosbarthiadau meistr a grwpiau dysgu cymheiriaid. 

Bydd cyfleoedd hefyd i’r sector treftadaeth ehangach ddysgu o allbynnau’r garfan a'u profi.

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Rwyf wrth fy modd â gweld yr 17 prosiect hyn yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Mae'r dull carfan eisoes wedi arwain at ddatblygiadau trawiadol o ran sgiliau, hyder a galluoedd – rwy'n gyffrous i weld yr hyn y byddant yn ei ddatblygu nesaf.

"Mae buddsoddi mewn arloesi'n cefnogi cynaladwyedd sefydliadol, un o'n pedair egwyddor buddsoddi, a bydd yn sicrhau gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol

Beth fydd yn cael ei brofi yng ngham dau

Mae'r sefydliadau a'r heriau o ran gweithlu sy’n symud ymlaen at gam prawf y Gronfa Arloesedd Treftadaeth yn cynnwys:

  • National Library Scotland sy'n ceisio arallgyfeirio ei weithlu drwy wella cynwysoldeb ei bolisi a diwylliant recriwtio a chadw.
  • Ymddiriedolaethau Natur Cymru (dan arweiniad Ymddiriedolaeth Gogledd Cymru) sydd eisiau cofleidio technoleg ddigidol i wella gwaith cadwraeth natur ar draws Cymru.
  • Sefydliad Ffilm Prydain a fydd yn profi llwybrau mynediad newydd i gadwraeth ffilm a rôl achredu ffurfiol wrth broffesiynoli'r arfer.
  • Hampshire Cultural Trust sy'n edrych ar wahanol ddulliau o greu llwybrau gyrfa â thâl i wirfoddolwyr ar draws sefydliadau treftadaeth.
  • Arts Marketing Association a fydd yn profi model newydd ar gyfer datblygu sgiliau treftadaeth gan ddefnyddio cyd-gynhyrchu ac anogwr hyfforddiant deallusrwydd artiffisial.
  • Mae'r llwyfan archeoleg ddigidol DigVentures a Happy Days Enniskillen International Beckett Festival, a fu'n blogio i ni am eu profiadau yn y cyfnod archwilio cyntaf, hefyd yn mynd drwodd i'r cyfnod profi.

Ymateb i anghenion y sector treftadaeth

Fe wnaethom ddatblygu'r Gronfa Arloesedd Treftadaeth fel ymateb i'n Harolwg Pwls Treftadaeth y DU 2022 a ganfu fod 54% o ymatebwyr eisiau mwy o gefnogaeth i'w helpu i arloesi a phrofi dulliau newydd. 

Cwblhaodd tri deg pedwar o sefydliadau y cam cyntaf, archwilio. Mae dau ar bymtheg o'r rheini bellach yn symud ymlaen i'r ail gam, profi. Mae'r trydydd cam, tyfu, wedi'i gynllunio ar gyfer rhan olaf 2024. Darllenwch flog gan The Young Foundation am weithio gyda charfan Cronfa Arloesi Treftadaeth yng ngham un.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...