Cymerwch ran yn y Diwrnod Hunlun Bysedd Croes 2023!

Cymerwch ran yn y Diwrnod Hunlun Bysedd Croes 2023!

A man and a woman are stood in front of a heritage site doing the crossed fingers selfie
Dau bobl yn gwneud ein hunlun bysedd croes #ThanksToYou y tu allan i'r synagog ym Merthyr Tudful
Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth 14 Tachwedd i ddweud diolch yn fawr i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud eich prosiect treftadaeth yn bosib.

Ddydd Mawrth 14 Tachwedd bydd miloedd o bobl yn postio hunluniau bysedd croes ar Twitter ac Instagram i gydnabod eu grant gan y Gronfa Treftadaeth a chodi hwyl ar y cyd ynglŷn â'r achosion da anhygoel y mae'r Loteri Genedlaethol yn eu hariannu.

Rydym yn edrych ymlaen at daflu goleuni ar rai o'r prosiectau treftadaeth ysblennydd a gefnogwn. Ymunwch â'r sgwrs treftadaeth ar-lein - y llynedd gwnaethom lwyddo i gael #ThanksToYou i drendio ar y dydd, gan gyrraedd miliynau o bobl!

14 Tachwedd yw'r dydd yr aeth tocynnau cyntaf y Loteri Genedlaethol ar werth, 29 mlynedd yn ôl ym 1994, ac ers hynny mae dros £47biliwn wedi'i godi ar gyfer achosion da ym meysydd treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon, ffilm a chymuned.

Sut alla i gymryd rhan?

Rhannwch eich hunluniau bysedd croes ar gyfryngau cymdeithasol gyda neges o ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a rhowch rywfaint o wybodaeth am eich prosiect treftadaeth. Gallech hefyd ddangos rhan o’r dreftadaeth, ein logo a’n brand yng nghefndir y llun, neu aelodau staff a gwirfoddolwyr eraill sy’n ymwneud â’r prosiect. 

Tagiwch ni i mewn yn @HeritageFundUK a defnyddiwch yr hashnod #ThanksToYou.

Gweld postiadau blaenorol

Mwy o fomentau cyfryngau cymdeithasol

Mae gennym fwy o fomentau cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn y gallwch chi gymryd rhan ynddynt, y maent wedi'u dylunio i helpu hyrwyddo'ch prosiect, cydnabod eich grant a rhannu treftadaeth ysbrydoliaethus ar-lein. 

Dyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer eich dyddiadur: 

  • rhannwch eich hoff leoedd, gwrthrychau a storïau treftadaeth gyda ni ar 11 Ionawr 2024 ar y diwrnod #HeritageTreasures
  • dathlwch ddigwyddiadau, agoriadau a gwibdeithiau haf treftadaeth anhygoel ar 21 Mehefin 2024 ar gyfer #HeritageIsOpen

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...