Cronfa Effaith ar Dreftadaeth arloesol yn agor

Cronfa Effaith ar Dreftadaeth arloesol yn agor

De La Warr Pavilion, Bexhill-on-Sea
De La Warr Pavilion, Bexhill-on-Sea
Am y tro cyntaf, mae partneriaeth arloesol yn buddsoddi arian y Loteri Genedlaethol mewn cyllid benthyciad a fydd yn sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol i gymunedau ledled y DU.

Mae'r Gronfa Effaith Treftadaeth, a lansiwyd yn ddiweddar, yn gronfa buddsoddi cymdeithasol gwerth £7miliwn sy'n rhoi cyllid benthyca i sefydliadau gan eu galluogi i sicrhau effaith economaidd a chymdeithasol gadarnhaol drwy ailddefnyddio adeiladau treftadaeth.

Hyd yn hyn, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn gyllidwr grantiau yn unig, gan fuddsoddi £8biliwn mewn miloedd o brosiectau treftadaeth, y mae llawer ohonynt wedi adfywio adeiladau hanesyddol adfeiliedig ac wedi dod â manteision economaidd ehangach.

"Rydym wedi gweld awydd cynyddol yn y byd treftadaeth i wneud defnydd o fenthyciadau."

Ros Kerlake

Ond yn y blynyddoedd diweddar, bu awydd cynyddol yn y byd treftadaeth i ddefnyddio benthyciadau a buddsoddiadau cymdeithasol eraill er mwyn amrywio incwm, cryfhau modelau busnes a lleihau'r ddibyniaeth ar grantiau.

Partneriaeth arloesol

Partneriaeth ydyw - y cyntaf o'i bath - gyda'r Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol, Historic England, Amgylchedd Hanesyddol yr Alban, Cadw a Rathbone Greenbank Investments. Mae'r Gronfa yn cynnig cyllid benthyciadau wedi'i deilwra i elusennau, mentrau cymdeithasol a busnesau cymunedol ar draws y DU sy'n ceisio caffael, ailddefnyddio neu ailddatblygu adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol.

National Lottery money will deliver economic and social benefits to communities across the UKBydd arian y Loteri Genedlaethol yn sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol i gymunedau ledled y DU

 

Mae cyfanswm y benthyciadau hyd at £500,000 fesul prosiect gyda thymor o dair blynedd ar y mwyaf, y gellir ei ymestyn o dan amgylchiadau eithriadol, yn cynnig cyfraddau wedi'u cymell ar gyfer prosiectau sy'n cael effaith economaidd neu gymdeithasol sylweddol.

Sicrhau manteision cymdeithasol gwirioneddol

Yn ogystal â helpu i gyflawni prosiectau sy'n cefnogi cynaliadwyedd adeiladau hanesyddol, bydd y Gronfa Effaith Treftadaeth yn cefnogi sefydliadau sydd â chenhadaeth gymdeithasol glir sy'n ceisio sicrhau manteision amlwg i'r economi ac i'r gymuned leol. Bydd hyn yn amrywio o brosiect i brosiect ond disgwylir iddo gynnwys creu swyddi, cyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli ac adfer ac ailddefnyddio adeiladau treftadaeth at ddibenion masnachol a chymunedol.

"Y bartneriaeth hon yw'r gyntaf o'r mentrau strategol sy'n codi o'n fframwaith cyllido strategol newydd," eglurodd Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ros Kerslake.

"Mae'n gyfle pwysig i wneud buddsoddiad y Loteri Genedlaethol mewn gwaith treftadaeth weithio’n galetach ac i sicrhau newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol."

Mae'n gyfle pwysig i wneud buddsoddiad y Loteri Genedlaethol mewn gwaith treftadaeth weithio’n galetach.

Ros Kerslake

Y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol yw'r partner arweiniol yn y prosiect a bydd yn gweinyddu'r gronfa ar ran y bartneriaeth. Mae ei Brif Weithredwr Matthew Mckeague yn egluro sut y mae'r Gronfa yn agored i sefydliadau y tu allan i'r sector treftadaeth.

"Mae'r Gronfa Effaith Treftadaeth wedi'i chynllunio i fod yn hyblyg, ac yn cefnogi sefydliadau dielw yn y sector treftadaeth a'r tu allan iddo, a'r cyswllt cyffredin yw ailddefnyddio adeilad treftadaeth a sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol lleol."

Mae'r Gronfa Effaith Treftadaeth ar agor nawr.

Sut i ymgeisio.