12 o drefi a dinasoedd i elwa o raglen i helpu adfywio adeiladau hanesyddol segur

12 o drefi a dinasoedd i elwa o raglen i helpu adfywio adeiladau hanesyddol segur

Georgian houses in Sunderland after restoration by the Tyne and Wear Preservation Trust
Bydd ein partneriaeth £5 miliwn gyda'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn cefnogi sefydliadau lleol o Gernyw i Gaernarfon ac o Derry/Londonderry i Swydd Aberdeen.

Mae grymuso mentrau cymdeithasol ac elusennau i ddod â chwa o awyr iach i adeiladau treftadaeth segur sydd mewn perygl wrth wraidd rhaglen yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth. Gan weithio gyda'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF), bu i ni wahodd sefydliadau i ymuno â’r rhaglen yn gynharach eleni.

Rhoi hwb i allu sefydliadau treftadaeth adeiledig

Bydd y 12 sefydliad yn cael eu hariannu i gynyddu graddfa eu gweithrediadau atgyweirio, adfer ac ailddefnyddio adeiladau sydd mewn perygl yn eu hardaloedd lleol. Bydd arweiniad gan ymgynghorwyr a mentoriaid yn cynorthwyo datblygiad eu sgiliau a gwybodaeth, ochr yn ochr â chymorth gan gymheiriaid i ehangu eu rhwydweithiau.

Mae’r bartneriaeth hon gyda’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF) yn cefnogi cymunedau, elusennau a grwpiau treftadaeth i ddatblygu cynlluniau trawsnewid adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl - gan roi hwb i falchder yn eu lle, cysylltiad â’r gorffennol a buddsoddi yn y dyfodol.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Lledaeniad yr arian ar draws y DU

Ymhlith y sefydliadau sy'n derbyn cymorth drwy'r rhaglen mae Cyngor Medway yn Chatham, Swydd Gaint, sydd â chynlluniau i drawsnewid cyn gorffdy ysbyty rhestredig Gradd II yn ofod cymunedol newydd, ac Inner City Trust yn Derry/Londonderry sy'n bwriadu adfer cyn gartref un o siopau adrannol hynaf y byd.

Y rhestr lawn o sefydliadau llwyddiannus yw:

  • Cyngor Medway yn Chatham, Swydd Gaint
  • Inner City Trust yn Derry, Londonderry
  • Glasgow Building Preservation Trust yn Glasgow
  • Culture Trust Luton yn Luton, Swydd Bedford
  • Treftadaeth Hwlffordd Cyf yn Hwlffordd, Sir Benfro
  • Heeley Trust yn Heeley, De Swydd Efrog
  • Fife Historic Buildings Trust yn Kinghorn, Fife
  • Galeri Caernarfon yng Ngwynedd, Caernarfon
  • Cyngor Dinas Caerlŷr yng Nghaerlŷr, Swydd Caerlŷr
  • North East Scotland PT yn Portsoy, Swydd Aberdeen
  • Redruth Revival CIC yn Redruth, Swydd Gernyw
  • Re-form Heritage yn Stoke-on-Trent, Swydd Stafford
The exterior of an old bank which has been transformed into housing and working spaces

Llwyddiannau profedig trwy raglen beilot

Mae rhaglen yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth yn ehangu ei gwaith ar draws y DU yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus, a ddangosodd sut mae cymunedau lleol yn elwa o adfywio adeiladau treftadaeth.

Y llynedd, adferodd y sefydliad nid-er-elw Valley Heritage yn Bacup, Swydd Gaerhirfryn, adeilad banc Fictoraidd gwag yn ofod cydweithio newydd a thai ar gyfer pobl ifanc ddigartref.

Yn Sunderland, trawsnewidiodd Tyne & Wear Building Preservation Trust res o dai masnachwyr Sioraidd oedd unwaith dan fygythiad o gael eu dymchwel yn lleoliad cerddorol bywiog, siop goffi a bar.

Diogelu treftadaeth bensaernïol a chreu cartrefi, gweithleoedd a mannau cymunedol

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Fel ariannwr treftadaeth mwyaf y Deyrnas Unedig, rydym yn cydweithio â sefydliadau sy'n rhannu ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.

“Mae’r bartneriaeth hon gyda’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF) yn cefnogi cymunedau, elusennau a grwpiau treftadaeth i drawsnewid adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl - gan roi hwb i falchder yn eu lle, cysylltiad â’r gorffennol a buddsoddi yn y dyfodol.”

Meddai Matthew Mckeague, Prif Weithredwr y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol: “Bydd dod â hen adeiladau yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol yn diogelu gorffennol pensaernïol cyfoethog ein gwlad ar yr un pryd â chreu cartrefi, gweithleoedd a lleoliadau cymunedol newydd pwysig."

Mynnwch ysbrydoliaeth ar gyfer eich prosiect treftadaeth

Porwch drwy grynodebau ac astudiaethau achos o brosiectau treftadaeth adeiledig yr ydym wedi'u cefnogi ar ein tudalen we ardaloedd, adeiladau a henebion.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...