Pum ffordd o helpu i achub chwilod hyfryd y DU

Pum ffordd o helpu i achub chwilod hyfryd y DU

Pobl yn plannu planhigion
Bristol bee bank at Lamplighter's Marsh Buglife
Mae poblogaeth pryfed y DU dan fygythiad. Dyma Jamie Robins o’r elusen Buglife yn awgrymu pum ffordd syml y gallwn ni i gyd helpu i ofalu am ein ffrindiau chwilod.

Ledled y DU, mae ein pryfed peillio gwerthfawr yn dirywio o ganlyniad i ddirywiad mewn cynefinoedd sy'n llawn blodau gwyllt, newidiadau yn y ffordd yr ydym yn rheoli'r tir a phlaladdwyr.

Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysicach fyth ein bod yn defnyddio ein mannau gwyrdd yn y ddinas i'w helpu i ffynnu.

Ers 2015, mae Buglife wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol mewn 12 o  ddinasoedd ar y prosiect Urban Buzz. Rydyn ni wedi creu dolydd blodau gwyllt, gerddi ffurfiol sy'n gyfeillgar i chwilod, cloddiau gwenyn ar gyfer nythu, cysgodfeydd beiciau byw, perllannau traddodiadol, gerddi perlysiau a llawer mwy.

Diolch i gymorth mwy na 11,000 o wirfoddolwyr, rydyn ni wedi cynhyrchu 973 o “Fannau Suon” ac wedi gwella mwy na 274 hectar i bryfed peillio.

Dim ond y dechrau yw'r prosiect yma. Gall unrhyw un helpu hyd yn oed mewn gardd o faint y stamp lleiaf.

Dyma gynghorion gorau Buglife ar gyfer gwneud eich gardd yn gyfeillgar i bryfed:

1. Tyfwch weirgloddiau bychain

Ychwanegwch rai blodau gwyllt at eich lawnt a pheidiwch â defnyddio’r peiriant torri gwair am yr haf. Gall hyd yn oed feillion, dant y llew a llygaid y dydd fod yn fagnet i wenyn a gloÿnnod byw.

A meadowCredyd: Buglife

2. Adeiladwch bwll bach

Crëwch bwll bywyd gwyllt bach, bas - mae angen diod ar bryfed hofran hyd yn oed. Beth am ychwanegu rhyw fintys dŵr blodeuol?

Cewch rywfaint o gyngor ar greu pyllau bach ar wefan Buglife website.

A pondCredyd: Buglife

3. Creu cartref i’r gwenyn

Prynwch westy gwenyn, neu crëwch un eich hun, gan ddefnyddio ffyn bambŵ wedi'u bwndelu neu goesau cyrs mewn lleoliad heulog. Mae gan y gwestai gwenyn gorau lawer o dyllau sy'n 4 - 10mm o led.

Bug hotelCartref i wenyn a chwilod

4. Plannwch ardd berlysiau

Mae saets, mintys, rhosmari a theim yn boblogaidd iawn gyda phryfed peillio ac yn eich cegin eich hun hefyd! Bydd unrhyw hen blannwr, cynhwysydd neu sinc yn gwneud y tro - neu rhai potiau ar eich ffenestr.

Growing herbsCredyd: Buglife

5. Peidiwch â defnyddio cemegau a phlaladdwyr

Efallai eich bod yn ceisio cadw eich blodau yn edrych yn fwy iach ond mae plaladdwyr yn fygythiad enfawr i'n pryfed peillio. Rhowch gynnig ar syniadau rheoli plâu Buglife.

A meadow near a roadCredyd: Buglife

Rhagor o wybodaeth

Mae’r prosiect Urban Buzz gan Buglife wedi derbyn cefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer ei waith yng Nghaerdydd, Birmingham, Leeds a Chaerlŷr. Cewch rhagor o wybodaeth ar wefan Buglife.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...