Mae pob llais yn bwysig – casglu straeon pobl ddu

Mae pob llais yn bwysig – casglu straeon pobl ddu

Nasir Adams
Ychydig fisoedd i mewn i'w swydd newydd, mae Nasir Adam yn esbonio'r hyn y mae’n ei wneud i ddod â'r amgueddfa ynghyd â chymunedau pobl dduon ledled Cymru.

Allwch chi ddisgrifio beth rydych chi'n ei wneud?

Fy rôl yw bod yn ddolen gyswllt rhwng Amgueddfa Cymru a chymunedau croenddu ar draws y wlad. Rwy'n gweithio ar gynyddu'r nifer o wrthrychau sy'n gysylltiedig â hanes pobl dduon a hanesion llafar yn y casgliad. Rwyf hefyd yn ailedrych ar gasgliad presennol yr amgueddfa, ac yn archwilio cyfleoedd i ailddehongli gwrthrychau drwy lens datrefedigaethol. 

Pam eich bod chi'n credu bod y rôl yn bwysig?

Rwy’n credu ei bod hi mor bwysig ein bod yn cydnabod cyfraniad a phresenoldeb cymunedau amrywiol yma yng Nghymru. Mae angen inni fynd i'r afael â'r anghofrwydd hanesyddol sy'n bodoli, ac atgoffa pob cymuned, yn enwedig ein cenedlaethau ifanc a chenedlaethau'r dyfodol, fod y gymuned ddu wedi cyfrannu at dreftadaeth, diwylliant ac economi'r genedl Gymreig.
 

SchoolchildrenDelwedd o blant ysgol o archif Amgueddfa Cymru.

 

Mae angen i ni ysbrydoli a meithrin ymdeimlad o falchder a chymuned ymysg pobl dduon ifanc, a helpu i fynd i'r afael â'r broblem o wahaniaethu hiliol drwy well dealltwriaeth.

Gallwn wneud hyn drwy sicrhau bod ein gorffennol yn hygyrch ac yn ystyrlon i gymunedau ehangach.

Ydw i'n credu y dylai fod gan sefydliadau eraill rolau tebyg? Ydw, 100%. Teimlaf hefyd y dylai fod yn gyfrifoldeb ar bob curadur i groesawu amrywiaeth yn eu casgliad. Dyna pryd y byddwn yn gweld gwir gynrychiolaeth.

Sut ydych chi'n gobeithio cynyddu straeon hanes pobl dduon yn y casgliad?

Drwy gasglu a chofnodi hanesion llafar o gymunedau duon ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed. Rwy'n dibynnu ar fy neallusrwydd cymunedol, yn hytrach na mynd i borthmyn cymunedol neu'r criw arferol.

Mae pob llais yn bwysig. 

Dyma pam ei bod hi mor bwysig cydweithio a datblygu partneriaethau go iawn gyda chymunedau a sefydliadau ar lawr gwlad.

Yn eich barn chi, sut mae rôl y curadur yn newid, neu a ddylid ei newid?  
 

Children playingDelwedd o archifau Amgueddfa Cymru.

 

Mae rôl curadur yn newid yn bendant. Yn y gorffennol, fel y dangosodd adroddiad Dr Bernadette Lynch i sefydliad Paul Hamlyn, Whose Cake is it Anyway? roedd cymunedau yn fuddiolwyr goddefol, yn hytrach yn bartneriaid gweithgar yn y ffordd y mae amgueddfeydd yn casglu gwrthrychau a straeon. 

Ugain mlynedd ers cyhoeddwyd erthygl Stuart Hall Unsettling the Heritage, mae hyn yn atseinio gyda mi: "ni all y rhai na allant weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn y syniad o'r genedl 'berthyn' yn iawn". 

Pan fyddwn yn cynnwys ac yn gweithio gyda chymunedau amrywiol i ddehongli'r casgliad drwy lens datrefedigaethol, dyna pryd y byddwn yn gweld rôl curaduron a sefydliadau yn newid yn wirioneddol.

Ydych chi'n credu bod angen Mis Hanes Pobl Dduon arnom o hyd?


Rwy'n wirioneddol yn credu y dylid dathlu hanes pobl dduon drwy gydol y flwyddyn, yn hytrach na chael un mis yn unswydd i hanes pobl dduon, ac yna cael 11 mis o dawelwch. Mae hiliaeth yn real a byth yn stopio, felly yn hytrach na chael un mis yn dathlu a chreu ymwybyddiaeth o hanes pobl dduon, dylid gwneud hyn bob dydd, bob mis, a phob blwyddyn.

Allwch chi ddweud wrthym am wrthrych penodol yn yr Amgueddfa sy'n siarad â chi mewn gwirionedd?

Dim ond ers tri mis yr wyf wedi bod yn fy swydd, ond rwy'n hoff iawn o bob un stori a gwrthrych yr wyf wedi'u casglu.
Teimlaf na ddylai ymwneud â'r curadur, na'm barn i, ynghylch a yw gwrthrych neu stori yn ystyrlon ai peidio. Y ffactor pwysicaf a ddylai fod pa un a yw'n ystyrlon i'r gymuned ai peidio.
Yr hyn sy'n ystyrlon i mi yw gweld cymunedau'n teimlo eu bod yn cael eu grymuso a'u hymgysylltu, ac yn gweld y diwylliant/hunaniaeth a rennir ganddynt yn yr amgueddfa. Dyna un o'r prif resymau pam rwy'n caru fy swydd fel curadur.

Sut dylai pobl rannu eu straeon gyda chi?

Gall cymunedau gysylltu â mi drwy e-bost: Nasir.Adam@museumwales.ac.uk a ffôn: 029 2057 3426.
 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...