Mukesh Sharma MBE DL

Mukesh Sharma
Role
Ymddiriedolwr a Dirprwy Gadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a Chadeirydd Pwyllgor Gogledd Iwerddon
Cafodd Mukesh Sharma ei eni yn Lloegr a'i fagu yng Ngogledd Iwerddon o fewn y gymuned Indiaidd. Mae ganddo brofiad eang mewn twf a chaffael busnes, newid sefydliadol, gweithio mewn partneriaeth ac eiriolaeth wrth ddatblygu partneriaethau rhyngwladol.

Roedd Mukesh yn y diwydiant teithio, twristiaeth a chwmnïau hedfan o 1982 i 2016. Mae wedi gweithio yn y DU a thramor, gan arwain nifer o gwmnïau mawr yn ystod y cyfnod hwn.

Yn 2016, comisiynwyd Mukesh yn Ddirprwy Raglaw Bwrdeistref Sirol Belfast. Derbyniodd Wobr Cyfraniad Rhagorol yng Ngwobrau Viscount Aer Lingus ym mis Mai 2016 am ei gyfraniad sylweddol at yr economi leol a dyfarnwyd MBE iddo yn 2016 am wasanaethau i'r diwydiant teithio yng Ngogledd Iwerddon.

Mae wedi arwain llawer o fentrau ledled Gogledd Iwerddon i hyrwyddo'r celfyddydau, cydlyniant cymunedol ac atal hiliaeth, sectyddiaeth a throseddau casineb.

Mae Mukesh yn gwasanaethu fel aelod bwrdd i nifer o elusennau gan gynnwys ArtsEkta a Moving on Music. Mae'n aelod o bwyllgor Ymddiriedolaeth y Brenin yng Ngogledd Iwerddon ac yn gadeirydd bwrdd Barnardos yng Ngogledd Iwerddon. Ers 2006 mae wedi bod yn gyfarwyddwr gŵyl Mela Belfast, y digwyddiad amlddiwylliannol mwyaf o'i fath ar ynys Iwerddon.

O 2016 i 2020, gwasanaethodd Mukesh ar Gomisiwn Gweithredol Gogledd Iwerddon ar Faneri, Hunaniaeth, Diwylliant a Thraddodiad. Ymgymerodd y comisiwn, a fu'n cynnwys cynrychiolwyr gwleidyddol ac anwleidyddol, â rhaglen waith i siapio Gogledd Iwerddon sy'n rhydd o wahanu a rhaniad. Daeth gwaith y comisiwn i ben yn 2020 gan gyflwyno adroddiad i'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog.

O 2021 i 2023, gwasanaethodd Mukesh ar y Bwrdd Cynghori ar Dreftadaeth a sefydlwyd gan Ysgrifennydd Gwladol DCMS i ddatblygu arweiniad ar dreftadaeth sy'n destun anghydfod.

Ar hyn o bryd mae'n dal swydd cadeirydd Bwrdd Plismona Gogledd Iwerddon.

Penodwyd Mukesh yn Gadeirydd Pwyllgor Gogledd Iwerddon, ac ymunodd â'r Bwrdd fel Ymddiriedolwr Gogledd Iwerddon, ym mis Awst 2020.