Deall sut mae amgueddfeydd y DU yn rheoli casgliadau mewn storfeydd

Deall sut mae amgueddfeydd y DU yn rheoli casgliadau mewn storfeydd

See all updates
Gwnaethom gomisiynu ymchwil i ddeall yn well y pwysau sy'n wynebu storfeydd casgliadau ar draws y DU a'r hyn sydd ei angen ar y sector i fynd i'r afael â nhw.

Fel ariannwr mwyaf treftadaeth y DU, rydym yn cefnogi amgueddfeydd i adrodd storïau ein gorffennol a gofalu am y casgliadau yn eu gofal.

Mae'r ymchwil hon yn archwilio sut mae amgueddfeydd yn rheoli casgliadau sydd wedi'u storio a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu i'w cadw'n ddiogel, wedi'u dogfennu'n dda ac yn hygyrch i'r cyhoedd.

Arweiniwyd yr ymchwil gan Heather Lomas Consulting ac Emma Chaplin Heritage and Museum Services. Fe gasglon nhw dystiolaeth drwy arolwg DU gyfan. Cafwyd 218 o ymatebion gan amgueddfeydd o wahanol feintiau a mathau o lywodraethu, a chyfweliadau manwl gyda 15 o randdeiliaid.

Yr hyn a ddysgom

Mae amgueddfeydd yn wynebu amrywiaeth o bwysau sy'n effeithio ar sut maen nhw'n gofalu am gasgliadau sydd wedi'u storio ac yn darparu mynediad iddynt:

  • mae capasiti storio wedi cyrraedd ei derfyn: mae 60% o amgueddfeydd yn adrodd bod eu storfeydd eisoes yn llawn
  • mae'r rhan fwyaf o'r casgliadau mewn storfeydd: mae 71% o amgueddfeydd yn cadw mwy na hanner eu heitemau mewn storfeydd
  • mae cyflyrau yn aml islaw safonau'r sector: dim ond 15% sy'n bodloni safonau gofal a chadwraeth arfer gorau 
  • mae ôl-groniadau dogfennaeth yn cyfyngu ar gydnerthedd a mynediad: mae bylchau mewn rhestrau eiddo a chatalogau'n cyfyngu ar y gallu i reoli risgiau, cynllunio gofod, rhesymoli a mynediad
  • mae casgliadau’n parhau i dyfu ac mae rhesymoli ar ei hôl hi: mae 83% yn casglu’n weithredol, mae 65% yn bwriadu rhesymoli ond ni waredodd 47% unrhyw beth dros y flwyddyn ddiwethaf 
  • mae mynediad cyhoeddus i gasgliadau sydd wedi'u storio yn gyfyngedig: dim ond 2% sy'n cynnig mynediad agored a thrwy apwyntiad y ceir mynediad gan mwyaf

Mae'r ymchwil hon yn tynnu sylw at yr angen am arweinyddiaeth gydlynol, buddsoddi wedi'i dargedu a ffocws cryf ar gynllunio casgliadau, rhesymoli a sgiliau. Mae'n annhebygol y bydd storio ar ffurf adeiladau ar ei phen ei hun yn cyflawni newid parhaol.

Y camau nesaf

Byddwn yn gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau ar draws y sector i ddeall ymhellach ble y gallai camau gweithredu strategol ac wedi'u targedu gefnogi amgueddfeydd.

Mwy o wybodaeth 

Darllenwch yr adroddiad yn y PDF sydd ynghlwm wrth y dudalen hon am y canfyddiadau llawn.

Dysgwch am ein cefnogaeth i brosiectau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ar draws y DU, gan gynnwys ein hymgyrch Casgliadau Dynamig ddiweddar.

Our research and evaluation

Rydym yn cynnal ymchwil yn rheolaidd i ddarganfod beth sy'n digwydd yn y sector treftadaeth, ac yn gwerthuso ein gwaith i ddeall yn well y newid yr ydym yn ei wneud. Darllen mwy o'n mewnwelediad.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...