Treftadaeth 2033: ein heffaith ym mlwyddyn un, 2024–2025

Treftadaeth 2033: ein heffaith ym mlwyddyn un, 2024–2025

See all updates
Archwilio'r gwahaniaeth y mae ein hariannu'n ei wneud i'r sector treftadaeth ar ôl y flwyddyn gyntaf lawn o roi grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd.

Trosolwg

Ym mis Mawrth 2023, lansiwyd Treftadaeth 2033, strategaeth sy'n nodi ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.

Dyma ein hadroddiad cyntaf ar ei heffaith.

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae'n dal yn gynnar iawn i adrodd yn fanwl, gan nad yw llawer o'r prosiectau rydym wedi'u hariannu yn y cyfnod hwn wedi'u cwblhau eto. A bydd rhai, fel ein buddsoddiadau cyfalaf ac ar raddfa tirweddau, yn cymryd rhai blynyddoedd i'w cyflwyno. Ond mae'r data rydym wedi'i gasglu hyd yma yn dangos arwyddion addawol bod ein grantiau eisoes yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”

Felly mae'r canfyddiadau sy'n cael eu rhannu yma yn seiliedig yn bennaf ar geisiadau grant ym mlwyddyn gyntaf Treftadaeth 2033, a agorodd ym mis Chwefror 2024.

I gael gwybod mwy am ein dull mesur effaith, gweler yr adran isod: Sut rydym yn mesur ein heffaith.

Blwyddyn gyntaf Treftadaeth 2033

Mae cydbwyso buddsoddi ar draws pob cwr o'r DU a phob math o dreftadaeth yn rhan bwysig o'n hamcanion a'n huchelgeisiau drwy Treftadaeth 2033.   

Buddsoddwyd £375miliwn

mewn 826 o brosiectau ar draws y DU yn 2024–2025


O fis Chwefror 2024 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025, buddsoddwyd £375miliwn mewn 826 o brosiectau ar draws y DU. (O'r cyfanswm hwn, mae £214m yn geisiadau rowndiau cyflwyno'r dyfodol.) Fe wnaethom ymrwymo hefyd i fynd i'r afael â heriau ar raddfa fawr a thrawsdiriogaethol drwy ein mentrau strategol cychwynnol: Lleoedd Treftadaeth, Trefi a Dinasoedd Natur, Cysylltiadau Tirwedd a Threftadaeth mewn Angen (gan gynnwys Addoldai i ddechrau).mentrau strategol cychwynnol: Lleoedd Treftadaeth, Trefi a Dinasoedd Natur, Cysylltiadau Tirwedd a Threftadaeth mewn Angen (gan gynnwys Addoldai i ddechrau). 

Isod rydym yn adrodd ar ledaeniad ac effaith yr ariannu a ddyfarnwyd (heb gynnwys dyfarniadau rowndiau cyflwyno posibl y dyfodol) a oedd yn gyfanswm o £161miliwn hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025.

Rydym wedi cefnogi treftadaeth ar draws y DU

Map o'r DU gyda labeli sy'n dangos faint o gyllid rydym wedi'i ddyfarnu ym mhob un o'r pedwar cenedl.


 

Ardal/gwlad

Nifer o brosiectau

Swm a ddyfarnwyd

Dyfarnwyd fesul pen

Poblogaeth

Lloegr

651

£126.7m

£2.20

57,690,323

Yr Alban

80

£19m 

£3.52

5,438,100

Cymru

68

£10.7m

£3.39

3,164,404

Gogledd Iwerddon

27

£4m

£2.15

1,881,641 

Cyfanswm826£161m£2.3568,174,468

Fe wnaethom gefnogi amrywiaeth o fathau o dreftadaeth

A line drawing of a castle

Ardaloedd, adeiladau a chofebion

  • Nifer o brosiectau Treftadaeth 2033: 257 (27%)
  • Swm a ddyfarnwyd: £63m
Musical notes

Diwylliannau ac atgofion

  • Nifer o brosiectau Treftadaeth 2033: 242 (38%)
  • Swm a ddyfarnwyd: £24.5m
A line drawing of a factory

Diwydiannol, morol a thrafnidiaeth

  • Nifer o brosiectau Treftadaeth 2033: 41 (5%)
  • Swm a ddyfarnwyd: £7.6m
A line drawing of a tree

Tirweddau, Natur a Pharciau

  • Nifer o brosiectau Treftadaeth 2033: 144 (16%)
  • Swm a ddyfarnwyd: £27m
A line drawing of a book

Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau

  • Nifer o brosiectau Treftadaeth 2033: 142 (13%)
  • Swm a ddyfarnwyd: £38m 
A drawing of a clipboard with a checklist on it

Cyfanswm 2024–2025

  • Nifer o brosiectau Treftadaeth 2033: 825 (100%)
  • Swm a ddyfarnwyd: £161m 

Beth sy'n digwydd hyd yma?

Mae'r arwyddion cynnar o effaith Treftadaeth 2033 yn addawol. Mae'r prosiectau rydyn ni'n eu hariannu eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, lleoedd a'r amgylchedd.

Er enghraifft: 

  • Achub treftadaeth – mae pedwar o bob pum prosiect yn gwarchod treftadaeth sydd mewn perygl drwy weithgareddau fel adfer, cadwraeth, ymchwil, gwarchod sgiliau traddodiadol a digideiddio.
  • Dod â threftadaeth i fwy o bobl – mae dros draean o brosiectau’n gwneud treftadaeth yn fwy hygyrch i bobl a chymunedau. Rydym hefyd wedi ariannu prosiectau i wella hygyrchedd treftadaeth: Mae bron i 400 o brosiectau’n creu mynediad digidol i dreftadaeth, mae 150 o brosiectau’n cefnogi dehongli hygyrch ac mae 47 o brosiectau’n dileu rhwystrau i fynediad corfforol.
  • Cefnogi newid sy'n seiliedig ar le – mae tua hanner o'n prosiectau’n helpu cymunedau i deimlo’n fwy cysylltiedig â lle maen nhw’n byw ac mae bron i chwarter yn gobeithio cael effeithiau sy’n seiliedig ar le drwy weithgareddau fel adfywio a gwella economïau lleol.
  • Cefnogi byd natur a gwella cynaladwyedd amgylcheddol – mae bron i un o bob pump o’r prosiectau’n helpu byd natur i ymadfer. Mae bron i draean yn gweithio i wella ôl troed amgylcheddol eu sefydliad ac mae cynaladwyedd yn cael ei ystyried gan tua chwarter y prosiectau sy'n cyflwyno gwaith cyfalaf.
  • Cysylltu pobl â byd natur – mae dros chwarter o brosiectau’n galluogi cysylltu â byd natur drwy deithiau cerdded tywysedig, gweithgareddau cyfranogol a chreu mannau gwyrdd.
  • Mae cynhwysiad yn nodwedd allweddol – thema graidd gwaith y prosiectau yw cynnwys cymunedau trwy weithgareddau sy'n amrywio o ymgynghori i gyd-greu a pherchnogaeth a rennir. 
  • Sgiliau adeiladu – mae dros chwarter o brosiectau’n gweithio ar roi hwb i sgiliau, gan gynnwys adeiladu gallu sefydliadol, cefnogi gyrfaoedd treftadaeth a chynyddu stiwardiaeth gymunedol ar dreftadaeth.
  • Gwella amrywiaeth yn y sector treftadaeth – mae bron i hanner y sefydliadau y gwnaethom eu hariannu yn ystod blwyddyn gyntaf Treftadaeth 2033 yn nodi eu bod 'dan arweiniad amrywiol'. Mae mwy na hanner y sefydliadau rydym yn eu hariannu'n gwasanaethu o leiaf un gymuned benodol, yn fwyaf cyffredin pobl ifanc, pobl sydd o dan anfantais addysgol neu economaidd neu bobl hŷn.

Rhaid i geisiadau am grant gymryd y pedair egwyddor i ystyriaeth. Cyfrifoldeb i ymgeiswyr yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny. Yn ystod yr asesiad, nodir bod ceisiadau grant yn ystyried yn gryf, yn ystyried, neu ddim yn ystyried, pob egwyddor fuddsoddi. Mae'r blociau isod yn dangos nifer a chyfran y prosiectau sy'n 'cyfateb yn gryf' i bob egwyddor fuddsoddi.

Prosiectau sy'n 'bodloni pob egwyddor fuddsoddi yn gryf'

A line drawing of a castle

Achub treftadaeth

445 o brosiectau (54%)

A line drawing of a flower

Diogelu'r amgylchedd

191 o brosiectau (23%)

A line drawing of a rainbow in white

Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad

401 o brosiectau (49%)

A line drawing of three people

Cynaladwyedd sefydliadol

230 o brosiectau (28%)

Myfyrio ac edrych ymlaen 

Mae'r data effaith hyd yma'n dangos aliniad cryf â'n pedair egwyddor fuddsoddi: achub treftadaeth; diogelu'r amgylchedd; cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad; a chynaladwyedd sefydliadol. Gallwn weld arwyddion cynnar cadarnhaol o gynnydd tuag at uchelgais Treftadaeth 2033, yn enwedig o ran achub treftadaeth a gwneud treftadaeth yn fwy hygyrch i gymunedau ar draws y DU.

Dywedodd Eilish: “Rwy'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yma, ond rwy'n gwybod bod llawer o waith o'n blaenau o hyd i gyflawni uchelgeisiau hirdymor Treftadaeth 2033.”

Amlygodd ein dadansoddiad rai meysydd i ganolbwyntio arnynt, yn enwedig o ran effaith amgylcheddol, helpu mwy o bobl i gysylltu â threftadaeth a chefnogi sefydliadau i gryfhau llywodraethu ac arweinyddiaeth.

Rydym yn archwilio'r canfyddiadau hyn wrth i ni symud ymlaen i'r cam nesaf o gyflwyno Treftadaeth 2033, a fydd yn cael ei ddisgrifio yn ein cynllun cyflwyno ar gyfer 2026–2029. Er enghraifft, byddwn yn ystyried sut i wneud y gorau o'r mentrau strategol i sicrhau effaith mewn gweithio sy'n seiliedig ar le, natur a thirweddau a chefnogi treftadaeth mewn angen. A byddwn yn ystyried sut y gallwn roi hwb i'n heffaith mewn meysydd fel cydnerthedd ariannol a sgiliau treftadaeth.

Datblygwyd ein strategaeth drwy gyfraniadau ac arbenigedd hael nifer fawr o bobl a phartneriaid sy'n frwd dros dreftadaeth. Wrth i ni barhau i gyflwyno Treftadaeth 2033, rydym wedi ymrwymo i gynnal y sgyrsiau hyn, gwrando ar ein rhanddeiliaid a’n grantïon a defnyddio tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ynghylch ein heffaith er mwyn ymaddasu ac ymateb i ofynion allanol sy’n newid. Dros gyfnod Treftadaeth 2033 byddwn yn rhannu data ar effaith o bryd i'w gilydd mewn erthyglau ac adroddiadau ar ein gwefan. 

Sut rydym yn mesur ein heffaith 

Fe wnaethom ddatblygu fframwaith effaith i'n helpu i fesur a chasglu tystiolaeth am y gwahaniaeth y mae ein hariannu'n ei wneud. Mae'n seiliedig ar y pedair egwyddor fuddsoddi sy'n sail i'r strategaeth a bydd yn defnyddio data meintiol ac ansoddol i asesu cynnydd yn erbyn ein huchelgeisiau.

Mae gan bob egwyddor fuddsoddi un datganiad effaith sy'n crynhoi'r newid yr ydym am ei gyflawni. Rydym hefyd eisiau dangos effaith y Gronfa Treftadaeth ar falchder mewn lle, adfywio treftadaeth a'r economi.  

Rydym wedi ymrwymo i ddeall effaith Treftadaeth 2033 er mwyn i ni allu dangos cynnydd tuag at ein gweledigaeth ar gyfer treftadaeth ac addasu i heriau a chyfleoedd yn ystod bywyd 10 mlynedd y strategaeth.

Mae'r canfyddiadau ar y dudalen hon yn seiliedig ar yr hyn a ddysgom o geisiadau am grantiau yn ystod y flwyddyn gyntaf o gyflwyno grantiau Treftadaeth 2033, o fis Chwefror 2024 tan ddiwedd mis Mawrth 2025. Ymhen amser, byddwn yn defnyddio data o ystod ehangach o ffynonellau yn ein hadroddiadau ar effaith. Mae ein fframwaith effaith yn offeryn byw y byddwn yn ei ehangu a'i fireinio ymhellach wrth i ni ei roi ar waith. Nid yw'r holl ddata ar gyfer pob mesur ar gael i ni eto, ond rydym yn gweithio i gywain data o ansawdd uwch a chyson gan ymgeiswyr a grantïon a thrwy ffynonellau tystiolaeth eraill, fel astudiaethau achos ac arolygon.

Isod mae trosolwg o'r fframwaith effaith gan gynnwys rhai o'r mesurau a'r data y byddwn yn eu cywain. At hynny, rydym yn gweithio i asesu a deall effaith economaidd y prosiectau a ariannwn, a fydd yn defnyddio data gan gynnwys niferoedd swyddi, gwirfoddolwyr a phrentisiaethau ac oriau gwirfoddolwyr.

Ein fframwaith effaith – mesurau a data

Egwyddor fuddsoddi

Datganiad effaith

Tystiolaeth y byddwn yn ei chasglu a'i holrhain

Achub treftadaeth

Mae treftadaeth yn cael ei hadfywio ac mae ei chyflwr wedi'i wella

  • data sy'n asesu treftadaeth mewn perygl
  • data a ddelir ar gofrestrau risg allanol
  • astudiaethau achos a gwerthusiadau, e.e.: gwerthuso Lleoedd Treftadaeth 

Diogelu'r amgylchedd

Mae treftadaeth naturiol yn cael ei adfer

  • data adfer byd natur 
  • data ôl troed carbon
  • astudiaethau achos a gwerthusiadau, e.e: gwerthuso Cysylltiadau Tirwedd

Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad

Gall mwy o bobl gyrchu a chysylltu â threftadaeth

  • niferoedd ymwelwyr
  • nifer yr asedau treftadaeth sydd ar gael i bobl eu cyrchu
  • data demograffig y sefydliad a buddiolwyr 
  • astudiaethau achos

Cynaladwyedd sefydliadol

Mae sefydliadau a ariannwn yn fwy medrus ac yn gadarn yn ariannol

  • datblygu sgiliau ar gyfer staff, ymddiriedolwyr a phrentisiaid
  • data cyfrifon ariannol
  • astudiaethau achos a gwerthusiadau, e.e: gwerthuso'r Gronfa Arloesi Treftadaeth

Methodoleg: sut y gwnaethom ddadansoddi ein heffaith yn 2024–2025

Er mwyn asesu cynnydd yn y flwyddyn gyntaf hon o wneud grantiau, fe wnaethom ganolbwyntio ar y dystiolaeth a ddarparwyd mewn ceisiadau am grantiau, yn hytrach na data cwblhau prosiectau, o ystyried ein bod ni yng nghamau cynnar Treftadaeth 2033 o hyd. Mae'r canfyddiadau a rennir ar y dudalen hon ac sy'n llywio ein cynllun cyflwyno nesaf yn seiliedig ar y cyfnod o fis Chwefror 2024 tan ddiwedd mis Mawrth 2025 ac yn galw ar:

  • ddata Cronfa Treftadaeth gan ymgeiswyr a phrosiectau a ariannwyd o dan Treftadaeth 2033 yn ymwneud â'u sefydliadau a'u grantiau (826 o brosiectau)
  • dadansoddiad o ganlyniadau a gweithgareddau prosiectau a ddisgrifiwyd mewn ffurflenni cais am grant (809 o brosiectau)

Sut rydym yn casglu data ar hyn o bryd gan ymgeiswyr a grantïon ynghylch amrywiaeth staff, arweinwyr a chymunedau a wasanaethir 

Ers dechrau Treftadaeth 2033, rydym wedi defnyddio cwestiynau sy'n cyd-fynd â Safon Data Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiad (DEI), fframwaith a ddefnyddir gan lawer o arianwyr. 

Yn ystod cofrestru rydym yn gofyn:

  • A oes cymuned benodol y mae eich sefydliad wedi ymrwymo i'w gwasanaethu? Dewiswch unrhyw un sy'n berthnasol.
  • A yw mwy na 75% o arweinwyr a staff eich sefydliad yn nodi eu hunain fel unrhyw un o'r canlynol? Dewiswch bob un sy'n berthnasol.

Yn ystod y cais rydym yn gofyn:

  • A oes cymuned benodol y mae eich prosiect wedi ymrwymo i'w gwasanaethu? Dewiswch unrhyw un sy'n berthnasol.

Mae'r tri chwestiwn yn gofyn am ddewis opsiynau o'r rhestr hon o gymunedau:

  • cymunedau sy’n profi annhegwch, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb ethnig neu hiliol
  • cymunedau ffydd
  • pobl sydd wedi mudo a/neu sydd â phrofiad o’r system fewnfudo
  • pobl f/Fyddar, anabl, dall, â golwg rhannol a/neu niwrowahanol
  • pobl hŷn (65 oed ac yn hŷn)
  • pobl ifanc (dan 25 oed)
  • menywod a merched
  • pobl LHDTC+
  • pobl sydd o dan anfantais addysgol neu economaidd
  • grwpiau penodol nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys
  • dim un o'r uchod

Mae'r data a adroddir ar y dudalen hon yn defnyddio'r term 'dan arweiniad amrywiol' i ddisgrifio sefydliadau sy'n dweud eu bod yn cael eu harwain gan o leiaf un o'r cymunedau a restrir uchod.

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein defnydd o'r Safon Data DEI ac yn y dyfodol efallai y byddwn yn defnyddio set wahanol o gwestiynau a chategorïau i ddeall cynnydd yn y rhan hon o Treftadaeth 2033.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...