Sut rydyn ni'n defnyddio data i ddeall effaith Treftadaeth 2033

Sut rydyn ni'n defnyddio data i ddeall effaith Treftadaeth 2033

Portrait of Eilish McGuinness
Dyma ein Prif Weithredwr yn rhannu diweddariad ar sut rydyn ni'n mesur cynnydd tuag at ein gweledigaeth ar gyfer treftadaeth ac yn rhoi tystiolaeth wrth wraidd dyfarnu ein grantiau.

Dyluniwyd ein Strategaeth Treftadaeth 2033 gyda uchelgeisiau eofn i wneud gwahaniaeth go iawn i dreftadaeth, pobl a lleoedd. O leihau treftadaeth sydd wedi'i nodi fel 'mewn perygl' a chefnogi adferiad byd natur, i gynyddu amrywiaeth gweithluoedd treftadaeth a chynaladwyedd sefydliadol ac ariannol sefydliadau treftadaeth.

I wneud hynny – ac yn bwysicach fyth, i ddeall ein llwyddiant wrth wneud hynny – fe wnaethom ddylunio fframwaith i fesur effaith Treftadaeth 2033 a dangos cynnydd tuag at ein gweledigaeth ar gyfer treftadaeth.

Mae hon wedi bod yn broses iteraidd, a dyna sut y bydd yn parhau. Heddiw rydym wedi cyhoeddi crynodeb o effaith sy'n galw ar ddata o'n blwyddyn lawn gyntaf o gyflwyno ariannu o dan Treftadaeth 2033, rhwng mis Chwefror 2024 a mis Mawrth 2025.

Yr hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma

Mae'n dal yn gynnar iawn i adrodd yn fanwl, gan nad yw llawer o'r prosiectau rydym wedi'u hariannu yn y cyfnod hwn wedi'u cwblhau eto. A bydd rhai, fel ein buddsoddiadau cyfalaf ac ar raddfa tirweddau, yn cymryd rhai blynyddoedd i'w cyflwyno. Ond mae'r data rydym wedi'i gasglu hyd yma'n dangos arwyddion addawol bod ein grantiau eisoes yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Mae'r 826 o brosiectau a archwiliwyd yn achub treftadaeth, yn cefnogi newid sy'n seiliedig ar le, yn cysylltu mwy o bobl â threftadaeth a byd natur. Maent hefyd yn rhoi hwb i sgiliau, cynaladwyedd amgylcheddol ac amrywiaeth o fewn y sector.

A woman drilling a hole in wood
Darparu hyfforddiant i bobl sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol mewn sgiliau gwaith coed treftadaeth.

O achub hunanbortread prin gan arlunydd llys y Brenin Siarl I i'w arddangos yn gyhoeddus, a sicrhau yr oedd treftadaeth wrth wraidd dathliadau Dinas Diwylliant 2025 Bradford, i droi tir fferm sy'n gyfoeth o rywogaethau yn Swydd Fermanagh yn warchodfa natur, a darparu hyfforddiant i bobl sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol mewn sgiliau gwaith coed treftadaeth, mae ein hariannu'n cyrraedd i bob cwr o'r Deyrnas Unedig ac i ystod eang o is-sectorau treftadaeth.

Mae'n bleser hefyd i ni weld bod ymgeiswyr yn deall ein pedair egwyddor buddsoddi, ac yn eu cymryd i ystyriaeth, er y gallai prosiectau fynd ymhellach i ddiogelu’r amgylchedd a datblygu cynaladwyedd sefydliadol.

Ein taith ymlaen

Rwy'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yma, ond rwy'n gwybod bod llawer o waith o'n blaenau o hyd i gyflawni uchelgeisiau hirdymor Treftadaeth 2033. Ar hyn o bryd, rydym wrthi'n gweithio yn y cefndir i wella sut mae prosiectau'n rhannu data gyda ni – o nifer y swyddi a'r rolau gwirfoddol sy'n cael eu creu a nifer yr ymwelwyr sy'n ymgysylltu â threftadaeth, i dystiolaeth ar adferiad byd natur, a rhoi hwb i falchder mewn lle a chynaladwyedd ariannol.

An aerial view of the Fedian fields
Droi tir fferm sy'n gyfoeth o rywogaethau yn Swydd Fermanagh yn warchodfa natur.

Bydd popeth a ddysgwn yn cael ei ymgorffori yn ein cynlluniau cyflwyno tair blynedd a byddwn hefyd yn trafod y mewnwelediadau a gasglwn gyda'n partneriaid. Bydd hyn yn ein helpu i barhau i fod yn ariannwr eang a chynhwysol yn y maes treftadaeth ac addasu i heriau a chyfleoedd nawr ac yn y dyfodol.

Ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud hyn yn gyhoeddus, trwy rannu adroddiadau ac erthyglau fel hyn ar ein gwefan. Byddwn ni'n dryloyw ynghylch ein heffaith a sut, gyda'n gilydd, rydyn ni'n cyflawni ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...