Penderfyniadau Pwyllgor Cymru Medi 2022
Enw’r Prosiect: Renovating Roath Library
Ymgeisydd: Welsh Dance Theatre Trust Limited
Cynodeb o’r Prosiect: Byddai'r prosiect yn atgyweirio ac yn adfer adeilad rhestredig Gradd II Llyfrgell y Rhath yn stiwdio ddawns gymunedol. Byddai'r Ymddiriedolaeth yn gweithio ar y cyd gydag Amgueddfa Caerdydd i gyd-greu prosiect ymgysylltu treftadaeth gymunedol yn y llyfrgell a'r Amgueddfa i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, darparu cyfleoedd gwirfoddoli a datblygu sgiliau, a deunyddiau prosiect archif.
Penderfyniad: Dyfarnu grant datblygu o £74,675 (20%) gyda grant cyflanwi posibl o £675,033
Enw’r Prosiect: 9. Talyllyn Railway: Preserving Our Past Building Our Future
Ymgeisydd: Talyllyn Holdings Ltd
Cynodeb o’r Prosiect: Byddai'r prosiect yn ganolog i'r strategaeth hirdymor ar gyfer meithrin gwytnwch, ehangu ymgysylltiad, ac ehangu cyfranogiad y gynulleidfa yn Nhalyllyn. Byddai ail-fodelu adeiladau Llechfan a Wharf yn creu cyfleuster treftadaeth yng Ngorsaf Glanfa Tywyn, gan wella'r gwerthiant manwerthu, gogwydd ymwelwyr a llety gwirfoddol.
Penderfyniad: Dyfarnu grant datblygu o £110,000 (49%) gyda grant cyflanwi posibl o £2,503,125
Enw’r Prosiect: People | Passion | Priory: Brecon Cathedral, The Heart and Soul of Community
Ymgeisydd: The Dean & Chapter of Brecon Cathedral t/a Brecon Heritage & Cultural Network
Cynodeb o’r Prosiect: Byddai'r prosiect yn adfer yr eglwys gadeiriol restredig Gradd I drwy gynnal rhaglen o waith atgyweirio ac ail-lunio'r ffabrig hanesyddol ar frys i greu gofod cymunedol a fyddai'n gwella gwytnwch a chynaliadwyedd y gadeirlan i ffurfio partneriaethau newydd a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Penderfyniad: Dyfarnu grant datblygu o £158,297 (47%) gyda grant cyflanwi posibl o £1,418,848
Enw’r Prosiect: Beacon of Hope at Shotton Point
Ymgeisydd: Enbarr Foundation CIC
Cynodeb o’r Prosiect: Byddai'r prosiect yn adfer Adeilad eiconig John Summers, a thiroedd cyfagos a safle ehangach yn ôl i'w ddefnyddio i wasanaethu'r gymuned leol, gan ddarparu cyfleusterau a datblygu sgiliau.
Penderfyniad: Gwrthod
Enw’r Prosiect: Vitality from the Vyrnwy
Ymgeisydd: Canal and Rivers Trust / Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd
Cynodeb o’r Prosiect: Byddai'r prosiect yn mynd i'r afael â gwaith atgyweirio brys i Draphont Ddŵr Efyrnwy yng nghefn gwlad Powys, gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol i gyd-greu gweithgareddau treftadaeth a llesiant newydd.
Penderfyniad: Gwrthod
Enw’r Prosiect: Citizens of the Wye
Ymgeisydd: Radnorshire Wildlife Trust Limited / Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed Cyfyngedig
Cynodeb o’r Prosiect: Byddai'r prosiect yn defnyddio gwyddoniaeth y dinesydd i ddatblygu cynlluniau adfer i fynd i'r afael â chyflwr gwael Afon Gwy.
Penderfyniad: Gwrthod