Cymru: penderfyniadau pwyllgor Tachwedd 2023

Cymru: penderfyniadau pwyllgor Tachwedd 2023

Rhestr o Benderfyniadau a wnaed gan Bwyllgor Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri, 30 Tachwedd 2023.

Ceisiadau Rownd gyflwyno'r FfAS 

Menter Ty'n Llan

Ymgeisydd: Menter Tŷ'n Llan Cyfyngedig

Sir y Prosiect: Gwynedd

Crynodeb Prosiect: Nod y prosiect yw datblygu tafarn a gardd Gradd II Tŷ'n Llan yn hyb cymunedol hygyrch, hyfyw, i ddarparu budd cymdeithasol, lles ac economaidd cyffredinol i'r gymuned, trwy raglen o weithgareddau a lletya gwasanaethau cymunedol.

Penderfyniad: DYFARNODD Pwyllgor Cymru grant o £1,709,456.00 (58.96% o'r cyfanswm cost)

Cynnydd Grant

Flat Holm: A Walk through Time

Ymgeisydd: Cyngor Caerdydd

Sir y Prosiect: Dinas Caerdydd

Penderfyniad: Cynnydd yn y Grant o £1,152,330 (64% o'r cyfanswm cost) i wneud cyfanswm grant o £1,797,530

Ceisiadau Rownd ddatblygu'r FfAS 

Clywedog Valley Heritage Partnership

Ymgeisydd: Groundwork Gogledd Cymru

Sir y Prosiect: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Crynodeb Prosiect: Mae’r prosiect pum mlynedd hwn yn ceisio creu gofod treftadaeth unedig ar hyd Llwybr Dyffryn Clywedog yn Wrecsam. Nod y prosiect, sydd i'w gyflwyno mewn partneriaeth, yw dod â sefydliadau amrywiol ynghyd i adfer nifer o asedau treftadaeth yn Nyffryn Clywedog.

Penderfyniad: Cytunodd Pwyllgor Cymru fod y cais yn cynrychioli BLAENORIAETH GANOLIG am gefnogaeth a DYFARNWYD grant datblygu o £246,530.00 (89.41% o gyfanswm y costau) gyda grant cyflwyno posib o £1,264,047

The small house with a big story: the restoration of Plas Gunter Mansion

Ymgeisydd: Plas Gunter Mansion Trust cyf

Sir y Prosiect: Cyngor Sir Fynwy

Crynodeb Prosiect: Mae Plas Gunter Mansion Trust yn ceisio adfer cyfanrwydd ac ymddangosiad hanesyddol adeilad rhestredig Gradd II o'r 17eg Ganrif, er mwyn darparu mynediad agored a gwneud defnydd priodol ohono, tra hefyd yn galluogi amrywiaeth o ran cynulleidfaoedd, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr.

Penderfyniad: Cytunodd Pwyllgor Cymru fod y cais yn cynrychioli BLAENORIAETH UCHEL am gefnogaeth a DYFARNWYD grant datblygu o £222,340.00 (89.41% o gyfanswm y costau) gyda grant cyflwyno posib o £2,784,987.

The Urban Long Forest

Ymgeisydd: Cadwch Gymru'n Daclus

Sir y Prosiect: Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam

Crynodeb Prosiect: Trwy addysg a datblygu sgiliau, mae'r prosiect yn anelu at gynyddu diddordeb a chyfranogiad cymunedol mewn rheoli gwrychoedd trwy ganolbwyntio ar bedwar lleoliad trefol/lled-drefol sydd â byd natur cyfyngedig a/neu ddiffyg cysylltedd o ran cynefinoedd: Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.

Penderfyniad: Cytunodd Pwyllgor Cymru fod y cais yn cynrychioli BLAENORIAETH GANOLIG am gefnogaeth a DYFARNWYD grant datblygu o £171,559 (95% o gyfanswm y costau) gyda grant cyflwyno posib o £759,615.

Sarah Briscoe House Transformation

Ymgeisydd: Cyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn

Sir y Prosiect: Powys

Crynodeb Prosiect: Nod y prosiect yw ehangu a thrawsnewid yr adeilad rhestredig Gradd II, er mwyn hyrwyddo ymgysylltiad cymunedol ar gyfer defnydd cynaliadwy hirdymor

Penderfyniad: Cytunodd Pwyllgor Cymru fod y cais yn cynrychioli BLAENORIAETH UCHEL am gefnogaeth a DYFARNWYD grant datblygu o £112,846 (88.44% o gyfanswm y costau) gyda grant cyflwyno posib o £1,113,276.

Cysylltiadau Cleddau Connections

Ymgeisydd: Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development Limited

Sir y Prosiect: Sir Benfro

Crynodeb Prosiect: Mae’r prosiect yn ceisio archwilio, rhannu a dathlu’r dirwedd, ecoleg, treftadaeth a diwylliant cymhleth sydd yn aml yn wrthwynebol ar hyd Afon Cleddau, gyda’r bwriad o gysylltu’r gymuned â’i threftadaeth a rennir, gan adael etifeddiaeth o gysylltiadau gwell a chymunedau mwy cydnerth.

Penderfyniad: GWRTHODODD