Cymru: cyfarfod dirprwyedig Chwefror 2024

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Chwefror 2024

Cyfarfod Dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru ar 6 Chwefror 2024.

Atodlen o Benderfyniadau - Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Shaping Nations: The Impact of Migration Stories

Ymgeisydd: Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Crynodeb o'r prosiect: Mae’r Prosiect eisiau archwilio a diogelu treftadaeth Ceiswyr Noddfa, ffoaduriaid a mudo i Gymru, gan ymgeisydd profiadol a gwybodus gyda chefnogaeth gref gan ystod eang o bartneriaid prosiect.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £235,861 (97.92%)

Llais yr Afon

Ymgeisydd: Small World Theatre Ltd

Crynodeb o'r prosiect: Mae'r prosiect yn bwriadu gweithio gyda 500+ o blant lleol a 300+ o oedolion lleol i greu map newydd i gynyddu dealltwriaeth gyfunol o dreftadaeth naturiol a diwylliannol yr afon, gyda'r nod o fod yn gatalydd i bobl adfer a gwarchod yr afon.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £88,050 (100%)

Reimagining the Archives at Ffotogallery

Ymgeisydd: Ffotogallery Wales Limited

Crynodeb o'r prosiect: Mae'r prosiect 2 flynedd yn bwriadu canolbwyntio ar arolygu, catalogio a digideiddio'n rhannol yr archifau ffotograffau. Bydd y prosiect yn cadw a/neu’n atgyweirio gwrthrychau ffisegol yn y casgliad, yn creu cronfa ddata ddigidol hygyrch ac yn trefnu digwyddiadau ymgysylltu, gan gynnwys gweithdai creadigol mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, Gwobr Iris a'r Gydweithfa LHDTC+ On Your Face.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £99,096 (100%)

Tirweddau Tywi - Borrowed Landscapes

Ymgeisydd: Gardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru

Crynodeb Prosiect: Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar adnewyddu ac addasu’r Tŷ Gwydr Mawr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (GFGC). Bydd y gweithgareddau'n archwilio perthynas Cymru â thir, planhigion a natur y gorffennol ac yn ceisio addysgu cynulleidfaoedd newydd am y dreftadaeth hon a sut mae'n berthnasol i heriau'r oes fodern, yn enwedig newid yn yr hinsawdd.

Penderfyniad: Gwrthod

Celebrating 75 Years of Cwmbran New Town 1949–2024

Ymgeisydd: CoStar Partnership

Crynodeb o'r prosiect: Nod y prosiect yw coffáu pen-blwydd Tref Newydd Cwmbrân yn 75 oed. Bydd yn ennyn diddordeb y gymuned trwy ddigwyddiadau, arddangosfeydd, ac archifau digidol, gan amlygu hanes, diwylliant a phrofiadau trigolion y dref.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £10,000 (100%)

Groesfaen History Trail and Railway history sign

Ymgeisydd: Cyngor Cymuned Pont-y-clun

Crynodeb o'r prosiect: Mae'r prosiect eisiau coffáu pen-blwydd Pont-y-clun yn 175 oed trwy ddylunio a chreu byrddau gwybodaeth am hanes y rheilffordd a datblygu 5-6 o lwybrau hanes gyda chodau QR a chanllawiau manwl, gan wella ymgysylltiad cymunedol â threftadaeth leol.

Penderfyniad: Gwrthod

Restoring 'Siop Newydd' – an historic building of significance

Ymgeisydd: Robin Andrew Foch-Gatrell and Vicki Lynne Phipps

Crynodeb o'r prosiect: Mae’r prosiect eisiau adfer rhannau allanol a mewnol Siop Newydd, adeilad rhestredig Gradd II yn Nolgellau, gan gadw ei gymeriad hanesyddol tra’n ei adfywio ar gyfer defnydd economaidd a budd cymunedol, gan gynnwys agor siop hen bethau/hynafolion.

Penderfyniad: Gwrthod

Discovering the Heritage Gardens of Bryn Gwynant

Ymgeisydd: YHA (Cymru a Lloegr)

Crynodeb o'r prosiect: Mae’r prosiect yn ceisio trawsnewid safle Bryn Gwynant fel canolbwynt gweithgareddau treftadaeth, gan gyfuno eu hymdrechion mewn menter ar y cyd i godi £6 miliwn ar gyfer ailddatblygu, gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd addysgiadol a chyflogaeth i bobl ifanc trwy raglenni sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth, tra’n cadw ac yn gwella tir rhestredig a nodweddion hanesyddol y safle.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £10,000 (90.91%)

Pembroke's Town Walls and Beyond

Ymgeisydd: Pembroke Town Walls Trust

Crynodeb o'r prosiect: Mae’r prosiect yn ymwneud â rhaglen ymgysylltu â’r gymuned sydd â’r nod o addysgu mwy i blant a phobl o bob oedran am y dreftadaeth y maent yn byw gyda hi o ddydd i ddydd gyda’r nod y bydd hyn yn arwain at newid mewn agwedd tuag at furiau’r dref.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £9,720 (16.82%)

Growing Wild

Ymgeisydd: The Elemental Adventures Project CIC

Crynodeb o'r prosiect: Nod y prosiect yw datblygu coetir/gardd baramaethu fel sylfaen ar gyfer ehangu gwasanaethau a gwella mynediad i goetiroedd yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar wella bioamrywiaeth, ymgysylltu diwylliannol, a byw’n gynaliadwy, tra hefyd yn darparu cyfleoedd addysgol mewn sgiliau treftadaeth a pharamaethu.

Penderfyniad: Gwrthod

SWMM Digital Library: Unearthing Mining Memories

Ymgeisydd: Llyfrgell Glowyr De Cymru

Crynodeb o'r prosiect: Nod y prosiect yw cadw a rhannu treftadaeth ddiwydiannol y rhanbarth trwy greu catalog digidol o gasgliad yr amgueddfa, gwella ei hygyrchedd ar-lein, ac ymgysylltu â'r gymuned trwy amrywiaeth o rolau gwirfoddol a digwyddiadau treftadaeth.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £10,000.00 (100%)

Cynnydd yn y Grant

AOF2020NPTCBC

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Penderfyniad: Dyfarnu Cynnydd yn y Grant o £250,000 i wneud cyfanswm grant o £492,000 (100%)

Newid yn y Ganran

Hen Dŷ Cwrdd: An Eisteddfod Tradition

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru Welsh Religious Building Trust

Penderfyniad: Dyfarnu Newid yn y Ganran o £5,000 i wneud cyfanswm canran grant o 83%