Dod â Moby Dick yn ôl i Abergwaun

Llusern fawr siâp morfil yn cael ei gorymdeithio o flaen murlun o Moby Dick
Uchafbwynt y prosiect oedd llusern yn siâp y morfil gwyn enwog. Credyd: Karel Jasper.
Wedi'i ysbrydoli gan stori cymuned arfordirol nath thrawsnewid fewn i set ffilmiau Hollywood, mae'r prosiect hwn yn cofnodi treftadaeth forwrol a ffilm leol.

Ym 1954, dewisodd y cyfarwyddwr John Huston dref fechan Abergwaun i ffilmio ei addasiad o nofel glasurol Herman Melville, Moby Dick.

I nodi 70 mlynedd ers rhyddhau'r ffilm ym 1956, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Gymunedol Theatr Gwaun raglen o weithgareddau yn cysylltu'r darn eiconig hwn o hanes sinema â threftadaeth forwrol y dref a'r amgylchedd morol.

Casglodd grwpiau hanes lleol atgofion o gynhyrchiad y ffilm a'u rhannu mewn arddangosfa ac ar y Hanes Abergwaun website. 

Gorymdaith ar fachlud haul gyda drymwyr, pibwyr a llusern siâp morfil
Mae Moby Dick yn rhan annwyl o dreftadaeth y dref. Credyd: Karel Jasper.

Gweithiodd y prosiect gydag Ymddiriedolaeth Môr Cymru i gynnal sgyrsiau a chynhyrchu byrddau arddangos am amgylchedd y môr, treftadaeth forwrol y dref, hanes morfila yn yr ardal a'r cofnodion o weld morfilod ar hyd yr arfordir.

Cafodd pobl leol gyfle hefyd i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai gwneud llusernau cymunedol. Daeth y prosiect i ben gyda chreu llusern Moby Dick, a arweiniodd orymdaith llusernau blynyddol Abergwaun yng ngŵyl Ar Ymyl y Tir. 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...

Project data

Programme
National Lottery Heritage Grants £10,000 to £250,000
Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Fishguard: North West
Awdurdod Lleol
Pembrokeshire
Ceisydd
Theatr Gwaun Community Trust
Rhoddir y wobr
£44300