Mae Coedwig Dyffryn Penlle'r-gaer yng nghanol coridor ecolegol pwysig, sy'n cysylltu Penrhyn Gŵyr ag Ucheldiroedd Mawr, wedi'i ffinio gan dri Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'n gartref i lawer o rywogaethau gan gynnwys ystlumod a dyfrgwn, ond mae eu cynefinoedd o dan bwysau.
Gan weithio gyda phartneriaid yn Rhwydwaith Ecolegol Cydnerth Porth Gŵyr (GGREN), mae'r prosiect hwn yn adfer ac yn gwella cynefinoedd coetir, glaswelltir a gwlypdir. Byddant yn targedu rhywogaethau estron ymledol (INNS) ac yn gwella amodau fel y gall rhywogaethau ymadfer. Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys:
- recriwtio swyddog cadwraeth a thair interniaeth gadwraeth raddedig â thâl i arwain gwaith monitro, arolygu a chasglu data
- cynnwys y gymuned leol mewn gwyddoniaeth ddinasyddion i gasglu ac olrhain data bywyd gwyllt
- cynnal digwyddiadau cymunedol ac allgymorth ag ysgolion i godi ymwybyddiaeth a chysylltiad â byd natur
Bydd y gwaith a wnawn yma'n gosod y sylfeini ar gyfer gwarchod a rheoli'r coridor ecolegol hwn yn y tymor hir
Chris Jones, Swyddog Cadwraeth Ymddiriedolaeth Penlle'r-gaer
Mae'r interniaethau graddedig yn rhan arbennig o gyffrous o'r prosiect, gan gynnig cam cyntaf i yrfa mewn cadwraeth.
Meddai Chris Jones, Swyddog Cadwraeth Ymddiriedolaeth Penlle'r-gaer: "Mae'r prosiect hwn yn rhoi'r cyfle i ni ddeall a gofalu am dreftadaeth naturiol Penlle'r-gaer. Bydd y gwaith a wnawn yma'n gosod y sylfeini ar gyfer gwarchod a rheoli'r coridor ecolegol hwn yn y tymor hir, gan wella amodau i gefnogi adferiad byd natur ar raddfa'r dirwedd."
Dyfarnwyd ariannu i'r prosiect hwn drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosberthir gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.