Mae afonydd Gwy ac Wysg yn gynefinoedd pwysig i blanhigion a bywyd gwyllt, ac fe'u cydnabyddir fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.
Yn yr haf, mae gan yr afonydd flodau bach gwyn yn arnofio ar yr wyneb. Crafanc y dŵr, a elwir hefyd yn ranunculus, yw'r rhain ac maent yn darparu amgylchedd cyfoethog i lawer o rywogaethau dŵr croyw ffynnu.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae niferoedd y planhigion hanfodol hyn wedi lleihau'n sylweddol, gydag arbenigwyr yn amcangyfrif bod dros 90% wedi'i golli yn Afon Gwy dros y degawd diwethaf.
Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar 'Big Ranunculus Watch' yn 2025 – prosiect cymunedol a oedd yn cynnwys casglu lluniau o grafanc y dŵr gan bobl leol. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd cymunedau’n parhau i gasglu lluniau o’r planhigyn. Yna bydd y rhain yn cael eu cymharu â delweddau lloeren, lluniau drôn a chofnodion ecolegol i greu cronfa ddata i helpu i olrhain dirywiad y rhywogaeth.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys:
- creu tair swydd i reoli’r prosiect a chyflwyno gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd
- curadu archif o gofnodion botanegol a fydd ar gael i'r cyhoedd
- monitro safleoedd allweddol ac arolygon ohonynt i ddeall y golled fioamrywiaeth
- adrodd a gwerthuso data i lywio gwaith adfer byd natur yn y dyfodol
Dywed Tom Tibbits, Cadeirydd Cyfeillion Afon Gwy: “Rydyn ni eisiau darganfod beth sydd wedi’i golli a pham fod hyn wedi digwydd. Byddwn yn dod ag arbenigwyr a thrigolion lleol ynghyd i archwilio beth ellir ei wneud i helpu'r cynefin hanfodol hwn i ddychwelyd. Gobeithiwn y bydd y gwaith hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer adfer y planhigion hyn i'w hen ogoniant ar hyd yr afonydd hyn.”
Dyfarnwyd ariannu i'r prosiect hwn drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosberthir gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.